Mae Meinir Howells, cyflwynwraig Ffermio, wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.
Bob blwyddyn mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan annatod o'r diwydiant llaeth yng Nghymru.
Nid yw arallgyfeirio yn rhywbeth sy'n addas i bob busnes fferm ond mae teulu Edwards, Groesasgwrn, Llangyndeyrn, ger Caerfyrddin, yn sicr yn gwybod sut i roi talent a sgiliau’r teulu i ddefnydd da.
Mae'r ddau undeb amaeth yng Nghymru wedi cydgyhoeddi papur egwyddorion sydd yn anelu at osod bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau a'r amgylchedd yng Nghymru ar sylfaen gadarn ar ôl Brexit.
Datgelwyd papur, 'Y ffordd ymlaen i Gymru', gan Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a John Davies, Llywydd NFU Cymru mewn sesiwn briffio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a staff Llywodraeth Cymru ar dydd Mercher, Hydref 24, yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Paul Davies AC.
Daw'r cyhoeddiad yn ymateb i ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol polisïau cefn gwlad a rheoli tir – 'Brexit a'n Tir'.
Ers cyhoeddi'r ymgynghoriad, bu'r ddau undeb yn cynnal cyfarfodydd ym mhob cwr o Gymru, gan ymgysylltu gyda miloedd o fusnesau fferm, ynghyd â busnesau o ddiwydiannau perthynol megis masnachwyr amaethyddol a chontractwyr, arwerthwyr, milfeddygon, proseswyr, cyfrifwyr ac ymgynghorwyr ariannol.
O ganlyniad i'w rhaglennu ymgysylltu ar destun yr ymgynghoriad, mae'r Undebau wedi ennill mandad digyffelyb i siarad ar ran y Gymru wledig.
“Rydym yn falch o gynrychioli ffermydd bach a mawr, dan berchnogaeth a thenantiaeth, grawn ac anifeiliaid, garddwriaeth a dofednod, o newydd-ddyfodiaid y diwydiant i'r teuluoedd sydd wedi ffermio'r un tiroedd ers cenedlaethau,” dywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies.
Ychwanegodd “Mae'r holl bobl hyn yn rhannu yn yr un amcan a'r un diddordeb angerddol, sef cynhyrchu bwyd diogel, fforddiadwy, o safon uchel, tra'n gofalu am a chyfoethogi ein hamgylchedd a'n tirwedd, sydd heb ei ail.
Gan annerch Aelodau'r Cynulliad a budd-ddeiliaid allweddol, tanlinellodd Glyn Roberts bod teuluoedd amaethyddol yn rhan o deulu llawer ehangach, teulu sydd yn ymestyn allan ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan.
Gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir
Diolch! Am beth?! Mae hynny fyny i chi! Gyda’r hydref wedi cyrraedd, mae’n dymor y diolchgarwch ac yn gyfle i ddiolch am fendithion yr haf, boed hynny am y cynhaeaf (er wrth ysgrifennu mis yma, mae nifer yn dal i aros am dywydd sych er mwyn ceisio gorffen y cynhaeaf - stori dipyn yn wahanol i ychydig fisoedd yn ôl!), iechyd, teulu a chyfeillion. Mae lle gyda ni gyd i ddiolch am rywbeth, ond yn aml iawn mae’r un gair bach yn cael ei gymryd yn ganiataol.
Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn codi ofn ar dda byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa am beryglon coelcerthi hefyd.
“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy.
"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mrs Priddy.
Yn gyffredinol, nid yw anifeiliaid yn hoffi sŵn tân gwyllt ac mae modd iddynt ddychryn yn ystod y cyfnod hwn o'r flwyddyn. Felly, mae UAC yn annog pobl i fod yn ystyriol a pheidio â'u tanio’n agos at dda byw.
"Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich anifeiliaid anwes wedi cael eu microsglodio gan filfeddyg a bod y manylion ar y sglodion yn gywir cyn noson tân gwyllt, rhag ofn iddynt fynd ar goll," meddai Mrs Priddy.
Mae UAC yn awgrymu bod pobl yn ymweld ag arddangosfa swyddogol, ond os ydych chi'n cael arddangosfa gartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cod tân gwyllt bob amser i leihau'r straen ar anifeiliaid y fferm a phlant.