Ffermwyr Sir Gaernarfon yn edrych ymlaen at Wythnos Brecwast Ffermdy

Unwaith eto mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r bwyd gwych a gynhyrchir yng Nghymru a phwysleisio’r manteision o fwyta brecwast iach yn ystod Wythnos Brecwast Ffermdy (Ionawr 21 - Ionawr 27).

Cynhelir amrywiaeth o frecwastau yn Sir Gaernarfon, felly beth am ymuno ac un o’n 7 brecwast sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:

Llun 21 Ionawr yn Nhy’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor a Cefn Cae, Rowen, Conwy

Mercher, 23 Ionawr yng Nglynllifon, Grŵp Llandrillo Menai, Ffordd Clynnog, Caernarfon

Iau, 24 Ionawr yn Gwythrian, Uwchmynydd, Aberdaron     

Gwener, 25 Ionawr  yn Nhylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed, a Caffi Anne, Bryncir

Sadwrn, 26 Ionawr ar Fferm Crugan, Llanbedrog, Pwllheli

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: "Rwy'n edrych ymlaen at ein brecwastau ffermdy bob blwyddyn. Gallwn ni ddechrau'r diwrnod gyda'n gilydd mewn modd positif ac iach, a chodi arian ar gyfer ein hachosion elusennol, Cymdeithas Alzheimer Cymru a FCN ar yr un pryd.  Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae brecwastau Sir Gaernarfon yn unig wedi codi dros £45,000 ac rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall eleni. Mae dechrau iach, nid yn unig yn dda i’r galon ond hefyd i feddwl iach.  Mae yna ddywediad, Bwytewch frecwast fel Brenin

Cysylltwch â'r ffermydd yn uniongyrchol neu swyddfa'r sir yng Nghaernarfon i drefnu amser i chi fynychu unrhyw un o'r brecwastau.  Y gost fydd £10 y pen, a bydd yr holl elw’n cael ei rannu rhwng Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r FCN.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Edrychwn ymlaen at eich croesawu a chael cyfle i rannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant.  Rhannwch eich straeon gyda ni a helpu ni i ddeall sut y gallwn ni helpu ein gilydd, a pha ffordd well o wneud hynny nag o amgylch bwrdd dros baned o de wrth werthfawrogi bwyd gwych," ychwanegodd Gwynedd Watkin.

Am ragor o wybodaeth ar sut i archebu eich lle wrth y bwrdd brecwast, cysylltwch â swyddfa Sir Gaernarfon ar 01286 672541.

Rhaid i ddiogelwch fferm barhau i fod yn flaenoriaeth i’r diwydiant

Mae angen i ffermwyr a'r rheiny sy'n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol sicrhau bod diogelwch fferm yn parhau yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a’u bod nhw’n cydymffurfio â'r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, rhybuddia Undeb Amaethwyr Cymru.

Daw’r rhybudd yn sgil yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn atgoffa pawb y bydd rhaglen o arolygiadau yn adolygu safonau iechyd a diogelwch ar ffermydd ar draws y wlad, ac y bydd yr arolygiadau'n dechrau'n fuan.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, bydd yr arolygiadau'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am amddiffyn eu hunain a’u gweithwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn atal marwolaeth, anafiadau ac afiechyd. Os nad ydyn nhw, ni fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn meddwl dwywaith cyn gweithredu er mwyn sicrhau bod gwelliannau yn digwydd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, sy'n cynrychioli UAC ym Mhartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: "Cafodd 33 o bobl eu lladd mewn amaethyddiaeth ledled Prydain yn 2017/18 - tua 18 gwaith yn fwy na'r gyfradd anafiadau angheuol yn y diwydiant.

"Mae hynny'n golygu bod 33 o deuluoedd wedi colli un annwyl iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod bron i un person yr wythnos wedi cael ei ladd o ganlyniad uniongyrchol i waith amaethyddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac mae llawer mwy wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu’n dioddef o salwch o ganlyniad i’w gwaith. Mae ystadegau pellach yn dangos bod bron i hanner y gweithwyr amaethyddol a laddwyd dros 65 oed.

"Nid yw bywyd byth yr un fath eto i aelodau'r teulu yn sgil marwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith, neu i'r rhai sy'n gofalu am rywun â salwch hirdymor neu anaf difrifol a achosir gan eu gwaith.

"Gyda hyn mewn golwg, mae'r Undeb yn parhau i fod yn ymrwymedig i dynnu sylw at arferion gwell i helpu ffermwyr i osgoi damweiniau neu ddamweiniau fferm angheuol, ond ni ellir pwysleisio digon mai'r person sy'n gyfrifol am ddiogelwch fferm yw'r person hwnnw.

"Mae yna rai enghreifftiau gwael o ran diogelwch fferm ymhlith y cyhoedd, felly wrth i chi ddechrau blwyddyn newydd ar y fferm – gwnewch adduned i’ch hunan a’ch cyd weithiwr, i gadw pawb yn ddiogel.”

Diwedd

Neges y Flwyddyn Newydd gan Lywydd UAC

Wrth i mi ysgrifennu neges y Flwyddyn Newydd eleni, mae yna lai na 100 diwrnod ar ôl cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn seiliedig ar ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd dros yr oriau nesaf, heb sôn am y diwrnodau neu wythnosau nesaf o ran Brexit, Llywodraeth y DU neu’r penderfyniadau y bydd/na fydd y Senedd neu’r bobl yn eu gwneud.

Neges Nadolig y Llywydd

Mae'n anodd credu mai dyma fy ngholofn olaf ar gyfer 2018 - mae'n sicr wedi bod yn flwyddyn cythryblus, gyda Brexit, cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, y difrod a achoswyd gan y tywydd, TB a llygredd amaethyddol yn parhau ar frig yr agenda ymysg llawer o faterion ffermio eraill.

UAC yn cefnogi newid Hilary Benn i’r cytundeb ymadael

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cefnogi'r newid i gytundeb ymadael Llywodraeth y DU o’r UE a allai rwystro’r difrod o Brexit caled.

UAC yn annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn

 

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog siopwyr i wneud y siopa Nadolig yn lleol ac i gefnogi busnesau gwledig a lleol.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:  “Gyda’r Nadolig ar y trothwy, rwyf am eich annog chi i feddwl am brynu’r cinio Nadolig mawreddog ac anrhegion y teulu a chyfeillion gan fusnesau gwledig a lleol.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol am gig dros yr Ŵyl ac ewch i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig - Rwy'n addo y bydd y rhan fwyaf o'r cynhwysion sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cinio Nadolig ar gael yn lleol.

“Mae yna hefyd lawer o siopau bach yn gwerthu crefft Cymreig ac anrhegion a gynlluniwyd yn lleol, ac wrth gwrs mae'r dewis ar gyfer anrhegion bwyd lleol yn helaeth. Mae'n werth cael golwg ar hyn. Bydd ein penderfyniadau bach siopa ni, yn eu tro, yn cael effaith fawr ar ein heconomi wledig.

"Bydd punt sy’n cael ei wario’n lleol yn mynd ymhellach na phunt sy’n cael ei wario mewn siop gadwyn ac mae'n cynnal ein heconomïau gwledig. Drwy gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn chwyddo cyflog Prif Weithredwr er mwyn prynu cartref gwyliau arall, ond yn hytrach yn helpu mam a thad lleol i roi bwyd ar y bwrdd, mae teulu'n medru talu eu morgais, mae merch fach yn medru cael gwersi dawnsio ac mae bachgen bach yn medru cael crys ei hoff dîm."