Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn mynnu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal ymchwiliad llawn i'w penderfyniad i fynd ar drywydd achos yn erbyn ffermwr y Gogarth, ar ôl i'r achos gael ei ollwng yn ystod gwrandawiad llys yn Llandudno.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi rhoi croeso gofalus i adolygiad Llywodraeth Cymru o ymatebion i ymgynghoriad Brexit a'n Tir fel cam tuag at gydnabod y bygythiadau a'r cyfleoedd y gallai Brexit a newidiadau i gefnogaeth wledig eu cynnig.
“Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos wedi ystyried llawer o'r pryderon a godwyd gan FUW,” meddai Glyn Roberts, Llywydd FUW.
Gall teuluoedd ffermio chwarae rhan ganolog wrth helpu i gwrdd â heriau amgylcheddol mawr ein hoes, meddai Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ar y 45fed Diwrnod Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, yfory (04.06.19).
Wrth siarad o fferm fynydd ei deulu yng ngogledd Eryri, dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts: “Rhaid i bawb a phob busnes, ble bynnag y maent a beth bynnag a wnânt, chwarae rôl wrth fynd i'r afael â'r bygythiadau i'n hinsawdd a'n hamgylchedd.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am roi mwy o bwyslais ar effeithiau economaidd achosion TB mewn gwartheg yn dilyn y cyhoeddiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y byddai adolygiad o'r system iawndal yng Nghymru.
“Hyd yma, mae trafodaethau a rhaglenni ar reoli'r clefyd yng Nghymru wedi canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar faterion iechyd anifeiliaid,” meddai Dr Hazel Wright, uwch swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru. “Credwn y dylid rhoi mwy o bwyslais ar y materion economaidd sy'n gysylltiedig â TB mewn gwartheg.”
Bydd arweinydd ffermwyr Cymru, Glyn Roberts, yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cael ei gydnabod ochr yn ochr â chewri’r byd rygbi Jonathan Davies a Ken Owens, y digrifwr o Ynys Môn, Tudur Owen a’r delynores o Geredigion, Catrin Finch.
“Mae hwn yn anrhydedd mawr, nid yn unig i fi, ond hefyd yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru,” dywedodd Glyn. “Ffermio yw asgwrn cefn Cymru wledig ffyniannus a'r cymunedau sy'n byw ynddi”.
gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir
10 diwrnod! Mae’n Fawrth 19 a ninnau 10 diwrnod i ffwrdd o’r diwrnod mawr hanesyddol, Mawrth 29 2019 – diwrnod ‘gadael’ yr UE. Pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn i chi ddarllen hwn! Beth bynnag fo’ch barn am y sefyllfa wleidyddol bresennol, mae’n dda gweld bod y genhedlaeth nesaf yn awchu i fod yn rhan o’r cnwd newydd o wleidyddion, a hynny diolch i Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gorff etholedig o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed. Safodd dros 460 o ymgeiswyr i gael eu hethol, ac fe'u dewiswyd gan eu cyfoedion mewn etholiad ar-lein. O'r 60 aelod a etholwyd, mae 40 yn cynrychioli etholaethau Cymru. Cafodd 20 o ymgeiswyr eraill eu hethol gan sefydliadau partner i adlewyrchu cyfansoddiad Cymru a sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o bobl ifanc eu cynrychioli.