Mae iechyd meddwl, neu broblemau iechyd meddwl, yn fater sy'n effeithio’n fawr ar y gymuned amaethyddol ac mae’n ffaith bod unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl.
Mae’r rhai hynny sy'n gweithio yn y sector amaethyddol, fel yr FUW yn dod i gysylltiad rheolaidd â phobl sy’n unig ac yn debygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, ac yn sgil hyn, yn Sioe Frenhinol Cymru 2017, addawodd yr Undeb i godi ymwybyddiaeth ymhellach o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Fel cyflogwr, aethpwyd a’r addewid yna un cam ymhellach yn ddiweddar pan gafodd staff yr Undeb gyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar iechyd meddwl o dan arweiniad Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation.
Roedd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o iechyd meddwl, y symptomau a’r arwyddion o rywun yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn edrych ar sut i helpu rhywun a phroblemau iechyd meddwl, iselder ysbryd, pryder a seicosis.
"Mae iechyd meddwl yn broblem i bob gweithle a gweithlu ac rwy'n falch o ddweud bod ein staff nawr wedi derbyn yr hyfforddiant priodol, a fydd yn eu helpu nhw i helpu eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis iselder, pryder a seicosis.
“Mae FUW yn cymryd ei ymrwymiad i feithrin iechyd meddwl da o ddifrif, yn enwedig gan fod ein hymwybyddiaeth o'r risgiau i ffermwyr yn dod yn fwy amlwg," meddai Alan Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr FUW.