Noddir cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan ganghennau sir Gaernarfon a sir Ddinbych o Undeb Amaethwyr Cymru ar ôl i’r Undeb roi hysbyseb ym mhob un o bapurau bro ardal yr Eisteddfod yn gofyn am ddyluniadau.
Derbyniwyd nifer o geisiadau a dyluniad Gwenan Jones o fferm Tŷ’n Rhos, Pentrefoelas oedd yn llwyddiannus. O’i magwraeth yng nghefn gwlad Dyffryn Conwy a gradd mewn Arlunio, Dylunio a Gwneuthuro o Ysgol Celf a Dylunio, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cafodd Gwenan ei hysbrydoli gan yr afon Conwy a diwylliannau’r sir.
Defnyddiodd ddelweddau o’r dyffryn i greu dyluniad eithriadol o hardd gydag afon Conwy fel asgwrn cefn y sir, tref Llanrwst a’i diwydiannau. Mae ffôn fugail hefyd yn un o’r siapiau arloesol ar gyfer y gadair, sy’n symbolaeth gadarn ac urddasol o’r sir a’i diwylliannau.