Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog y rhai sydd eisiau helpu’r amgylchedd a byw bywyd mwy cynaliadwy, heb blastig, i ddefnyddio gwlân.
Wrth siarad cyn Wythnos Wlân 2019 (07 - 20 Hydref), sydd â’r nod o dynnu sylw at rinweddau perfformiad naturiol gwlân a buddion ecolegol, dywedodd Is-lywydd FUW Ian Rickman: “Bob blwyddyn mae ein defaid yn cynhyrchu cnu newydd a byddant yn gwneud hynny cyhyd a bydd yna borfa iddynt bori arno, gan wneud gwlân yn ffynhonnell ffibr adnewyddadwy rhagorol.
“Mae hynny'n arbennig o wir o'i gymharu â ffibrau synthetig, sydd angen olew a phurfeydd ac sy'n adnodd anadnewyddadwy ar gyfer cynhyrchu ffibr o waith dyn."
Ychwanegodd Ian fod ffermwyr defaid yn gweithio i ddiogelu'r amgylchedd a gwella effeithlonrwydd cynhyrchu da byw. Mae'r defnydd o adnoddau naturiol a'r gostyngiadau sy'n ofynnol wrth ddefnyddio tanwydd ffosil meddai, yn golygu y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr edrych ar eu dewisiadau tymor hir.
“Rydyn ni'n bwydo'r genedl gyda chig oen cynaliadwy sy'n derbyn gofal da ac yn cymryd ein cyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd o ddifrif. Rydym yn rhannu pryderon am lygredd plastig a micro-ffibr yn ein moroedd a'n pridd, yn ogystal â llygredd o danwydd ffosil.
“Mae ffabrigau fel polyester, neilon, acrylig, a ffibrau synthetig eraill i gyd yn fathau o blastig ac yn cyfrannu tua 60 y cant o'r deunydd sy'n ffurfio ein dillad ledled y byd.