Llywydd FUW yn amlinellu pryderon allweddol y sector llaeth cyn Sioe Laeth Cymru

Amlinellodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Glyn Roberts, bryderon allweddol sy’n wynebu’r sector llaeth cyn y Sioe Laeth Cymru flynyddol mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ym Marchnad Da Byw Caerfyrddin (dydd Llun, 28 Hydref, 2019).

Mewn araith yn annerch y diwydiant, rhoddodd Glyn Roberts ffocws cryf ar enw da'r diwydiant, Brexit a TB.

“Mae'r diwydiant llaeth yn parhau yng nghanol sylw negyddol y cyhoedd gydag amrywiol o sefydliadau hawliau fegan ac anifeiliaid yn mynegi teimladau gwrth-ffermio. 

Selogion llaeth yn ymweld â chynhyrchydd caws eiconig o Gymru

Mae criw o selogion llaeth Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn ymweld â’r cynhyrchydd caws Cymreig eiconig Caws Teifi yng nghanol Ceredigion.

Ym 1982, daeth cyd-sylfaenwyr y cwmni i Gymru o’r Iseldiroedd gyda breuddwydion am ffermio organig. Buan iawn aethon nhw ati i adfywio'r traddodiad coll o ddefnyddio llaeth amrwd a chynhwysion lleol i wneud caws crefftwrol o ansawdd uchel. Maent wedi parhau i fod ar flaen y gad o wneud caws crefftwrol byth ers hynny.

Trafodaeth brwd ar ddiogelwch ffermydd a'r amgylchedd yn ystod ymweliad fferm Meirionnydd

Roedd pwysigrwydd cadw'n ddiogel ar y fferm a manteision cynhyrchu bwyd gyda'r amgylchedd mewn golwg, yn bynciau llosg ar agenda ymweliad fferm ddiweddar ym Meirionnydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar fferm bîff a defaid cadeirydd sir FUW Meirionnydd, Sion Ifans, a'i wraig Gwawr. Mae'r cwpl yn ffermio ym Mhrynuchaf, Llanymawddwy.

Mae'r fferm yn ymestyn i 370 hectar, y mwyafrif ohono yn dir mynyddig, ac yn fferm fynydd nodweddiadol Meirionnydd.

Pryderon Cymru ynghylch effaith cytundeb ‘newydd’ UE-DU yn ddigyfnewid meddai FUW

Dywed Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) nad yw'r cytundeb tynnu'n ôl drafft a'r datganiad gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng yr UE a'r DU yn gwneud dim i dawelu pryderon sy'n bresennol yng nghytundeb gwreiddiol Theresa May, o ystyried nad yw'n cynnwys 'unrhyw newidiadau na gwelliannau sylweddol i Gymru' ac y bydd yn gosod y DU y tu allan i'r Farchnad Sengl.

Angen egluro penderfyniad Tomlinson i roi'r gorau i gasglu llaeth ar frys

Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau i Tomlinson’s Dairies egluro ar frys y rhesymau y tu ôl i’w penderfyniad i gau a gwrthod llaeth.

Daeth y penderfyniad sydyn hwn i rym bron yn syth ac mae wedi gadael llawer o gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru yn sgrialu i ddod o hyd i brosesydd arall i’w llaeth.

Cofiwch nid yw da byw ac anifeiliaid anwes yn hoffi Tachwedd 5ed

Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn codi ofn ar dda byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa am beryglon coelcerthi hefyd.

“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Is Lywydd FUW Brian Bowen.

"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mr Bowen.

Yn gyffredinol, nid yw anifeiliaid yn hoffi sŵn tân gwyllt ac mae modd iddynt ddychryn yn ystodyr adeg hyn o'r flwyddyn. Felly, mae FUW yn annog pobl i fod yn ystyriol a pheidio â'u tanio’n agos at dda byw.

"Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich anifeiliaid anwes wedi cael eu microsglodio gan filfeddyg a bod y manylion ar y sglodion yn gywir cyn noson tân gwyllt, rhag ofn iddynt fynd ar goll," meddai Brian Bowen.

Mae FUW yn awgrymu bod pobl yn ymweld ag arddangosfa swyddogol, ond os ydych chi'n cael arddangosfa gartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cod tân gwyllt bob amser i leihau'r straen ar anifeiliaid y fferm a phlant.