UAC yn cynnal hystingau rhithwir ar draws Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn cynnal cyfres o hystingau i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i holi darpar ymgeiswyr Senedd Cymru ledled Cymru cyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai. Bydd yr hystingau, a fydd yn digwydd trwy Zoom, yn rhoi cyfle i aelodau glywed gan yr ymgeiswyr am bolisïau amaethyddiaeth eu priod bleidiau.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae’r Etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai yn hanfodol bwysig i’r sector amaeth yng Nghymru a bydd Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu heriau digynsail.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd gennym gyfle i ofyn am ymrwymiadau gan ddarpar aelodau’r Senedd yn y nifer o hystingau rhithwir sy’n cael eu cynnal. Ni fydd angen teithio ac ni fydd angen bod i ffwrdd o'r fferm.

“Yn yr etholiad hwn bydd yr ymgeiswyr yn dod i’n sgrin gyfrifiadur ac mae angen i ni sicrhau bod ymgeiswyr sy’n dyheu am fod yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru yn ymwybodol o’r ffaith na allwn ni fel diwydiant gael ein hanwybyddu mwyach.

“Byddem yn annog aelodau o’r gymuned ffermio i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n awyddus i’w cynrychioli yng Nghaerdydd ar gyfer tymor nesaf Senedd Cymru.”

Mae hystingau wedi'u trefnu ar y dyddiadau canlynol

  • Gwener 16 Ebrill, 7.30yh - Llanelli
  • Mawrth 13 Ebrill, 7.30yh - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Llun 19 Ebrill, 7.30yh - Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Llun 19 Ebrill, 7.30yh - Ynys Môn
  • Mawrth 20 Ebrill, 7.30yh - Meirion Dwyfor
  • Mercher 21 Ebrill, 7.30yh - Sir Drefaldwyn
  • Iau 22 Ebrill, 7.30yh - Sir Benfro
  • Iau 22 Ebrill, 7.30yh - Caernarfon 
  • Llun 26 Ebrill, 7yh - Brycheiniog a Maesyfed
  • Iau 29 Ebrill, 7.30yh - Ceredigion 

Cysylltwch â'ch swyddfa UAC leol i gael y manylion ymuno.