‘Rwy’n teimlo fy mod i’n rhan o arbrawf cymdeithasol’ - meddai ffermwr o Sir Gaerfyrddin

Mae ffermwyr yng Nghymru yn teimlo eu bod yn rhan o arbrawf cymdeithasol o ystyried cynnig cyfredol Llywodraeth Cymru i roi dull amhrofedig a ddatblygwyd yn Lloegr wrth wraidd polisi ffermydd Cymru yn y dyfodol.

Dyna oedd y neges gan Gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Sir Gaerfyrddin, Phil Jones, cyn Etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.

Mae Phil Jones, o Clyttie Cochion, Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn ffermio bron gydol ei oes ac yn gofalu am 150 erw, gan bori 350 o ddefaid dan reolaeth organig. Cymerodd y fferm yn ôl yn 2011 a oedd wedi bod ar rent yn dilyn trasiedi deuluol, ac mae'n poeni am ddyfodol ffermio yng Nghymru a'r effeithiau y bydd polisïau heb eu profi’n cael ar y diwydiant.

“Mae pryderon gwirioneddol yn y gymuned ffermio bod y polisi ‘taliad nwyddau cyhoeddus’ a gynigiwyd wrth graidd Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn bygwth goroesiad y diwydiant. Rwy'n teimlo fy mod i'n rhan o arbrawf cymdeithasol; fel pob ffermwr yng Nghymru yn rhan o'r arbrawf hwnnw.

“Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod canlyniad tebygol eu cynnig i gefnu ar gymorth uniongyrchol a gweithredu taliadau nwyddau cyhoeddus, ond mae rhai academyddion wedi awgrymu y bydd y polisi’n arwain at golli tua 25% o ffermydd y DU. Nid oes unrhyw gynlluniau peilot wedi'u gwneud, nid ydynt wedi ystyried un ffermwr, sydd efallai'n cael rhwng 10 a 15 mil o bunnoedd mewn cefnogaeth i weld beth fyddai'n rhaid iddo wneud i dderbyn symiau tebyg, a sut y byddai hyn yn effeithio ar ei gynhyrchiad, ei broffidioldeb a'r arian mae’n ei wario ar fusnesau eraill yn ei gymuned leol,” meddai.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio ers amser maith y byddai newidiadau radical yn bygwth nid yn unig busnesau fferm, ond y miloedd o fusnesau eraill sy’n dibynnu ar gynhyrchu fferm.

Yn Ffrainc, mae pryderon ynghylch newidiadau polisi sydd ddim byd tebyg i’r rhai sy’n cael eu cynnig yng Nghymru wedi ysgogi protestiadau yn ddiweddar, gydag undeb amaethyddol Ffrainc FDSEA a chymdeithas y Ffermwyr Ifanc yn nodi “... bydd nifer dda o ffermwyr yn rhoi’r gorau i’w gweithgaredd” o ganlyniad i ddiwygiadau yn yr UE.

“Mae’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig 100 gwaith yn fwy radical na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn Ffrainc a’r UE, felly os yw ffermwyr Ffrainc yn poeni gallwch chi ddychmygu sut rydyn ni’n teimlo,” meddai Mr Jones.

Er bod tua 80 y cant o incwm ffermio Cymru yn dibynnu ar gymorth PAC (ar ôl Brexit), a bod incwm cyfartalog ffermydd yn parhau’n llawer is nag incwm cyfartalog aelwydydd y DU, sef tua £24,000, mae cymorth o’r fath yn cynnal busnesau sydd â throsiant cyfartalog o tua £160,000 - arian sy’n cylchredeg o amgylch economi Cymru gan gynnal ugeiniau o filoedd o swyddi drwy effeithiau lluosog cydnabyddedig.

Felly mae UAC wedi galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gydnabod y niwed cynhenid sy’n debygol o gael ei achosi i amaethyddiaeth, swyddi a chymunedau Cymru wrth gyflwyno mwy o gyfyngiadau a lefelau is o gefnogaeth uniongyrchol o gymharu â’r hyn a geir gan y rheini sy’n cystadlu yn ein herbyn mewn gwledydd eraill.

“Yng Nghymru, mae cymaint o gyfleoedd gyda ni i ddatblygu’n ofalus yr hyn sydd gennym eisoes yn rhywbeth sy’n rhoi mwy i’n hamgylchedd, i ffermydd teuluol a’r busnesau a swyddi sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth, heb golli’r hyn sy’n werthfawr wrth geisio cael gwared ar yr hyn nad oes ei angen.

“Mae cynllun diddychymyg a gopïwyd o un egwyddor a ddatblygwyd yn Lloegr, fel yr hyn sy’n cael ei gynnig gan y llywodraeth bresennol, yn debygol o gynyddu costau a rheolau a lleihau effeithlonrwydd i’r pwynt lle nad yw cefnogi’r busnesau eraill hynny trwy ffermio defaid bellach yn gwneud synnwyr i fferm fel un ni,” meddai.

“Mae yna berygl gwirioneddol y gallem weld ffermydd yn troi’n ddiwerth, ac yn cyfrannu dim at eu cymunedau lleol naill ai’n gymdeithasol nac yn ariannol,” ychwanegodd Mr Jones.