‘Rhaid i ddileu TB fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru’, meddai cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC

Cafodd yr angen i ddelio ar frys â TB ledled Cymru ei drafod yn frwd gan bwyllgor iechyd a lles anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mewn cyfarfod rhithwir diweddar cyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Ian Lloyd, cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC: “Mae'n adlewyrchiad trist o'r problemau parhaus a achosir gan TB bod y clefyd yn dal i haeddu trafodaethau mor fanwl. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud ers 2009 mewn perthynas â'r nifer o fuchesi ag achosion newydd o TB, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 9,762 o anifeiliaid wedi'u lladd yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020 yng Nghymru."

Amlygodd Mr Lloyd, er bod hyn 20 y cant yn is na'r ffigwr uchaf erioed o 12,256 o anifeiliaid a laddwyd yn 2019, mae'r data diweddaraf yn dangos cyfraddau ar oddeutu 30 y cant o achosion TB caeedig yn ailddigwydd eto o fewn y cyfnod 2 flynedd ddilynol, gan ddangos nad yw'r clefyd yn cael ei reoli'n effeithiol o dan y mesurau cyfredol.

“Er ein bod yn cefnogi mesurau fel profion TB blynyddol a chyn-symud yn gyffredinol, mae cryn bryder yn bodoli ynghylch cymesuredd rhai mesurau a’r cyfyngiadau economaidd difrifol y maent yn eu gosod ar ffermydd,” meddai Mr Lloyd.

O’r blaen, mae'r Undeb wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Economeg TB Cymru i ddarparu gwybodaeth gadarn, yn benodol o Gymru ar effaith ariannol achosion TB a'r effaith ddilynol ar iechyd meddwl ffermwyr.

“Mae UAC yn parhau i gefnogi dull cyfannol o reoli TB yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth. Mae gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen yn gallu cynnal lefelau achosion TB yn agos at sero ac mae Gweriniaeth Iwerddon wedi gallu haneru achosion TB trwy ddifa moch daear yn rhagweithiol,” ychwanegodd Mr Lloyd.

Pwysleisiodd pwyllgor yr Undeb ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cydbwyso anghenion economaidd busnesau fferm yn iawn yn erbyn yr angen i leihau trosglwyddiad afiechyd a sicrhau bod cosbau cymesur yn cael eu gweithredu dim ond lle maent yn briodol, a bod ymarferoldeb ffermio yn y byd go iawn yn cael eu hystyried yn llawn wrth ystyried apeliadau yn erbyn cosbau.

“Rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru ymhellach i weithredu polisi difa moch daear ar y cyfle cyntaf, yn unol â chyngor gweinidogol swyddogol a dderbyniwyd yn flaenorol gan Lywodraeth bresennol Cymru, er mwyn ailadrodd y canlyniadau cadarnhaol a welwyd mewn gwledydd ledled y byd. Rhaid iddynt hefyd barhau i gefnogi treialon a chyflwyno brechiadau gwartheg wrth gydnabod mai dim ond rhan o'r ateb tuag at ddileu TB yng Nghymru ydyw, ”meddai Mr Lloyd.

Mae rhagor o Ofynion Allweddol Maniffesto Llywodraeth nesaf Cymru UAC yma:  https://fuw.org.uk/cy/polisi/adroddiadau