Ehangu Hufenfa De Arfon dros gyfnod o dair blynedd

Mae Hufenfa De Arfon wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £14.4 miliwn i gynyddu cynhyrchiant caws o 50% a chreu 30 o swyddi ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Rhagwelir y bydd y buddsoddiad - sy’n cynnwys grant o £5 miliwn gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru – yn cynyddu’r galw am laeth Cymreig, o 130 miliwn i dros 200 miliwn o litrau’r flwyddyn.

Mae’r cyhoeddiad yn dod ar ôl y cam buddsoddi cyntaf gwerth £11.5 miliwn yn 2016 i ehangu’r gwerthiant caws a’r cyfleusterau pecynnu.

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleusterau newydd ar gyfer derbyn llaeth, cynhyrchu caws, a llinellau pecynnu a phrosesu maidd, yn ogystal â gwella perfformiad mewn perthynas â’r amgylchedd ac ynni.

Sefydlwyd y cwmni llaeth cydweithredol hwn 80 mlynedd yn ôl ac ar hyn o bryd mae ganddo 134 o aelodau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.