Diweddariad gan y Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil

Mae grwpiau iechyd a lles gwartheg a defaid wedi uno i ffurfio’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil newydd, i ddarparu un llais dros iechyd a lles anifeiliaid cnoi cil yn y DU, gan gynnwys geifr a cheirw yn y dyfodol.

Cwrddodd y grŵp am y tro cyntaf ym Medi 2020 gyda Ms Kate Hovers, llawfeddyg milfeddygol yng Nghanolbarth Cymru, yn cynrychioli FUW.

Er bod y grŵp yn cynnwys nifer fawr o randdeiliaid y diwydiant, mi fydd yn gweithredu fel corff annibynnol sy’n canolbwyntio ar gynnal a gwella iechyd a lles anifeiliaid cnoi cil, ac yn arbennig ar daclo clefydau endemig.

Ochr yn ochr â chyfarfodydd y grŵp bob deufis, cynhaliodd Cymru’r cyfarfod ‘pedair gwlad’ cyntaf, a oedd yn canolbwyntio ar y gwaith a wnaed yng Nghymru o ran cynllunio iechyd.

Yn ddiweddar mae’r grŵp wedi trafod y cynigion ar gyfer magu lloi llaeth gwrywaidd a dyfais newydd a elwir yn Numnuts. Mae Numnuts yn ddyfais sydd wedi’i thrwyddedu i’w defnyddio yn Awstralia i ddisbaddu a thorri cynffonnau ŵyn a lloi, sy’n cynnwys chwistrelliad anaesthetig lleol cyn gosod y cylch rwber.

Mae defnydd o’r ddyfais wedi’i wahardd yn y DU ar hyn o bryd am nad oes unrhyw drwyddedau ar gael i ddefnyddio anaesthetig lleol mewn defaid, ond yn ddiweddar mae’r grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi ysgrifennu at y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i ofyn am gael trwydded o’r fath.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan RHWG a dylech drafod unrhyw bryderon ynghylch clefydau penodol ac iechyd a lles anifeiliaid gyda’ch aelod lleol o Bwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid FUW.