UAC yn annog manwerthwyr mawr i barhau i gefnogi cynnyrch y DU a Chymru yng ngoleuni’r amgylchiadau sy’n datblygu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at fanwerthwyr mawr y DU yn pwysleisio’r angen am gefnogaeth barhaus i fwydydd Cymru a’r DU o ystyried effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin ar gostau mewnbwn.

Yn ddiau bydd y manwerthwyr mawr yn ymwybodol o’r cynnydd enfawr o ran costau cynhyrchu bwyd y mae ffermwyr ar draws y byd wedi’i wynebu, ac yn parhau i’w wynebu.

Ochr yn ochr â phrinder posib, a’r ffaith na fydd cynhwysion bwydydd anifeiliaid megis india-corn a blawd blodyn haul ar gael, mae AHDB wedi amcangyfrif cynnydd o 40% o un flwyddyn i’r llall ym mhrisiau dwysfwyd. Cododd pris cyfartalog diesel coch 75.4 ceiniog y litr, neu 50%, rhwng 10fed Chwefror a 10fed Mawrth, ac mae prisiau cyfartalog gwrtaith wedi treblu a mwy ers y llynedd, gyda rhai mathau o wrtaith nitrogen yn costio bron £1,000 y dunnell.

Er bod pris llaeth wrth gât y fferm yn y DU wedi codi tua 20% dros y deuddeg mis diwethaf, a phris pwysau marw cig oen a chig eidion yn parhau i fod yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd, mae cynhyrchwyr y DU yn gorfod gwneud newidiadau pwysig i’w busnesau fferm yn sgil pryderon difrifol am y gaeaf sydd i ddod a thu hwnt o ran argaeledd porthiant.

Serch bod cyfradd chwyddiant y DU wedi codi i 6.2% a chostau bwyd yn y DU wedi codi 5% o’u cymharu â lefelau 2021, mae prisiau archfarchnad cig coch a’r marchnadoedd manwerthu llaeth wedi aros yn gymharol debyg flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae’n dod yn fwy a mwy amlwg na fydd effeithiau go iawn y rhyfel yn cael eu teimlo yn y DU am fisoedd eto, wrth i’r lefelau cynhyrchu bwyd ostwng yng Nghymru ac yn fyd-eang yn sgil prinder, a phrisiau mewnbwn anfforddiadwy.

Fel y cyfryw, dylai manwerthwyr mawr chwarae rôl hanfodol i sicrhau nad yw costau mewnbwn cynyddol yn bygwth hyfywedd hirdymor cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r DU, a bod ffermwyr yn derbyn pris teg am eu cynnyrch yng ngoleuni’r amgylchiadau sy’n datblygu.

Yn ystod adeg o ansicrwydd mawr i sector amaeth y DU, anogodd UAC nhw i barhau i gefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r DU – a diogelwch cyflenwad bwyd y DU – drwy gadw at eu hymrwymiad i werthu bwyd o ansawdd uwch a gynhyrchir gartref yn y DU, yn hytrach na mewnforion o ansawdd is, yn arbennig yng ngoleuni’r cytundebau masnach sy’n cael eu sefydlu a’u trafod gyda gwledydd sydd â safonau llawer is na’r rhai sydd gennym yma yn y DU.

Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod y diwydiant ffermio’n hyderus y bydd y gefnogaeth hon yn parhau yn y dyfodol, fel bod y penderfyniadau a wneir nawr a fydd yn effeithio ar y lefelau cynhyrchu’n nes ymlaen eleni, ac i mewn i 2023, yn diogelu cynnyrch domestig a diogelwch cyflenwad bwyd y DU.