Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £227 miliwn i’r economi wledig

Ar 31ain Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £227 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i gefnogi’r economi wledig a’r amgylchedd naturiol.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:

  • Rheoli tir ar raddfa ffermydd - camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd - gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd - helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol
  • Rheoli tir ar raddfa’r dirwedd - mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau
  • Coetiroedd a choedwigaeth – gweithio tuag at dargedau plannu coed Llywodraeth Cymru a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio - creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Mae cynlluniau gwerth cyfanswm o £100 miliwn un ai ar agor nawr neu byddant yn cael eu lansio dros yr wythnosau sydd i ddod.

Bydd gwybodaeth bellach ar gael yma dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf: https://llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig