Wrth i ni ddechrau 2018, er gwaethaf yr holl ansicrwydd ynghylch Brexit, rwy'n teimlo bod yna elfen o obaith – mwy yn sicr na deuddeng mis yn ôl.
Cafodd y negeseuon allweddol a gyflwynwyd gan UAC yn 2016 a 2017 eu hanwybyddu neu eu gwrth-ddweud gan Lywodraeth y DU, ond bellach mae’r negeseuon wedi treiddio trwyddo; mae’r agwedd ‘dim cytundeb yn well na chytundeb gwael’ wedi cymryd lle geiriau megis pontio, ac erbyn hyn mae'r rhan fwyaf bellach wedi ymuno gyda UAC i gydnabod y dylai fframwaith ôl-Brexit DU ar gyfer amaethyddiaeth, a gytunwyd mewn partneriaeth rhwng Llywodraethau, amddiffyn, nid tanseilio datganoli a'n cenhedloedd datganoledig. Yn y cyfamser, yn agosach at adref, derbyniwyd ein galwad am agwedd wedi'i dargedu ac yn fwy cymesur tuag at Parthau Perygl Nitradau.
Fodd bynnag, yn 2018, mae angen i ni sicrhau bod camau o'r fath tuag at bolisïau synhwyrol a chymesur yn parhau ar y trywydd iawn, a ddim yn cael eu taflu naill ochr gan y rhai hynny sydd a fawr ddim o ddealltwriaeth o anghenion ymarferol busnesau a ffermydd teuluol.
Gyda 2018 yn debygol o gynnwys rhagor o gyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion Cymru a’r DU, yn ogystal â phwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan, bydd UAC yn parhau i godi pwyntiau o'r fath, a hefyd yn pwyso am atebion ymarferol drwy'r nifer o bwyllgorau yr ydym yn mynychu.
Rhaid i ni hefyd fod yn realistig ynghylch yr heriau sy'n ein hwynebu dros y flwyddyn i ddod: Bydd y trafodaethau am berthynas fasnachu'r dyfodol rhwng y DU a'r UE yn cael effaith ar bob busnes a busnes fferm yng Nghymru sy'n rhyngweithio â hwy; bydd gan bob un o'r 27 Aelod-wladwriaethau sydd ar ôl flaenoriaethau o ran cytundeb masnach y dyfodol, ac felly rhaid i ni sicrhau nad yw amaethyddiaeth Cymru yn cael anghofio neu yn cael cam yn y cytundeb masnach derfynol.
Yn y cyfamser, bydd materion megis TB mewn gwartheg, symudiadau anifeiliaid a'r dull newydd o fynd i'r afael â lefelau nitrad a llygredd arall yn mynd a chryn dipyn o’n hamser wrth i ni weithio i sicrhau canlyniadau synhwyrol ar gyfer busnesau fferm, a lobïo am newidiadau sy'n adlewyrchu'r nifer o broblemau a rhwystrau a wynebir ein haelodau.
P'un a yw'n ymdrin â phroblemau unigol ar ran yr aelodau, gweithio er mwyn cyflawni newidiadau synhwyrol i ddeddfwriaeth sy'n helpu busnesau fferm neu lobïo am ganlyniad synhwyrol i Brexit, bydd UAC yn parhau i wneud ei gorau ym 2018 er mwyn sicrhau bod ffermydd teuluol Cymru yn cael eu cydnabod a’u diogelu.
O gofio'r ansicrwydd a wynebwn dros y blynyddoedd i ddod, mae'n anoddach nag erioed i'r ffermydd teuluol hynny wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. O ran sicrhau sefydlogrwydd busnesau fferm yn y blynyddoedd i ddod, credaf ei bod yn hanfodol i ddadansoddi sefyllfaoedd ariannol yn drylwyr, a gweithio tuag at effeithlonrwydd. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda’r cynllunio gorau posibl ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau'r dyfodol gorau posibl i'n busnesau.
Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a ffyniannus i chi gyd.