Ffermwyr Meirionnydd yn dysgu am ddiogelwch ac atal troseddau ar ffermydd

Daeth ffermwyr Meirionnydd ynghyd yn ddiweddar i drafod diogelwch ar ffermydd ac atal troseddau gwledig.

Trefnwyd y digwyddiad gan gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru, ac fe’i cynhaliwyd ar ddydd Iau, Tachwedd 9 yng Nghefn Creuan Isaf, Rhydymain drwy garedigrwydd Robin Lewis.

Ffermwr bîff o Geredigion yw arweinydd newydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi penodi ffermwr bîff o Geredigion fel cadeirydd newydd y pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid mewn cyfarfod diweddar yn Aberystwyth.

Mae Ian Lloyd yn ffermio 115 erw yn Hafan Hedd, Beulah ar gyrion Castell Newydd Emlyn, Ceredigion ac yn cadw 25 o wartheg sugno Aberdeen Angus, 25 o loi a 27 o rhai blwyddi.

UAC Sir Gaernarfon yn cynnal Cyfarfod Blynyddol

Mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal cyfarfod blynyddol dydd Gwener, Tachwedd 10 i drafod materion o bwys gyda’r aelodau yn y sir.

Cefnogaeth iechyd meddwl yn parhau ar frig agenda UAC

Heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i Gymdeithas Alzheimer Cymru a Farming Community Network (FCN) fel ei achosion elusennol Llywyddol nesaf.

Cofiwch nid yw da byw ac anifeiliaid anwes yn hoff o Dachwedd 5ed

Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn aflonyddu da byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa hefyd o beryglon coelcerthi.

“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy.

"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mrs Priddy.

Ymosodiadau ar dda byw yn achosi gofid mawr i ffermwr o Forgannwg

Mae cyfres o ymosodiadau trychinebus ar dda byw wedi arwain at un ffermwr o Forgannwg yn cyrraedd pen ei dennyn.Mae Ben Jones, sy’n rhedeg fferm defaid tenant 65 erw ar gyrion Hensol ym Mro Morgannwg gyda'i wraig Julia, wedi colli bron i bumed o'i stoc oherwydd ymosodiadau c?n.

Treuliodd y cwpwl, sydd â merch pum mis oed, flynyddoedd yn adeiladu eu busnes, ond erbyn hyn maent yn agos i anghofio am y cyfan.Dechreuodd Ben rentu tir yn Nyffryn ac yno lladdwyd dwy ddafad gan gi ac achosodd straen yr ymosodiad i’r rhan fwyaf o'i ddiadell erthylu eu h?yn.

“Roedd llwybr cerdded yn mynd trwy’r cae, ac mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio i gerdded eu c?n.  Roedd dod o hyd i'r defaid fel hyn yn drychinebus.  Nid wyf yn deall pam na all y rhai sy'n cerdded yng nghefn gwlad gadw eu c?n ar dennyn. Roedd yr ymosodiadau hyn yn hollol ddiangen," meddai Ben Jones.

I geisio osgoi unrhyw ddigwyddiadau pellach, dechreuodd rentu tir ar denantiaeth flynyddol yn Hensol ym mis Mai 2015 ond ers hynny mae wedi gorfod dioddef tri ymosodiad ar wahân ar ei ddefaid yno.