Gyda noson tân gwyllt ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pobl i gofio bod tân gwyllt a llusernau awyr yn aflonyddu da byw ac anifeiliaid anwes ac yn atgoffa hefyd o beryglon coelcerthi.
“Gofynnwn i bobl gofio’r cod diogelwch tân gwyllt bob amser, yn enwedig dros gyfnod tân gwyllt a chalan gaeaf er mwyn lleihau’r perygl i dda byw, anifeiliaid anwes a phobl,” dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy.
"Mae amser hyn o'r flwyddyn yn llawn peryglon ar gyfer anifeiliaid a phlant - felly peidiwch â gadael i esgeulustod ac anwybodaeth arwain at sefyllfa drychinebus," ychwanegodd Mrs Priddy.