Mae ffarmwraig defaid o Geredigion wedi cael ei phenodi fel Cadeirydd newydd pwyllgor addysg a hyfforddiant canolog Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod diweddar yn Aberystwyth.
Mae Anwen Hughes wedi bod yn is gadeirydd y pwyllgor ers 2015, ac yn cymryd yr awenau gan gyflwynydd Ffermio Alun (Elidyr) Edwards sydd wedi bod yn gadeirydd y pwyllgor ers 11 mlynedd.
Bydd nifer yn adnabod Mrs Hughes fel Cadeirydd cangen sir Ceredigion o UAC ac Is-gadeirydd pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio.
Mae’n ffermio oddeutu 138 erw, yn berchen ar 99 erw ohono, 22.5 erw ar denantiaeth fferm gydol oes, yn rhentu 17 erw ac yn cadw 100 o ddefaid Lleyn pur, 30 o ddefaid Highland a 300 o ddefaid croes Lleyn a Highland ac mae wedi bod yn ffermio ers 1995 ar fferm Bryngido, ar gyrion Aberaeron, Ceredigion.
Yn siarad ar ôl ei phenodiad, dywedodd Anwen: “Mae’n anrhydedd cael cymryd awenau’r pwyllgor hollbwysig hwn, ac rwyf am ddiolch i Alun am ei holl waith caled dros y blynyddoedd, tipyn o gamp i’w ddilyn.
“Wrth edrych tuag at y dyfodol, a’r gwaith sydd gan y pwyllgor, bydd ein ffocws ar sut y gall y sector ddatblygu drwy addysg, hyfforddiant ac ymchwil.
“Byddwn wrth gwrs yn parhau i weithio gyda sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, Lanta, FACE, HCC a’r colegau amaethyddol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n haelodau a chynnig arweiniad.”