Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cefnogaeth y blaid Lafur i gadw'r DU yn y farchnad sengl a’r undebau tollau am gyfnod trosiannol ar ôl gadael yr UE.
Wrth siarad yng Nghyngor mis Medi yr Undeb, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts mai Llafur oedd y diweddaraf o lawer o gyrff i gefnogi barn hirdymor yr Undeb am yr angen am gyfnod trosiannol Brexit diogel.
Rydym yn croesawu bod y ffaith ein bod wedi galw am amserlen ddiogel, a amlygwyd gennym ym mis Mehefin 2016 a'r galw mwyaf blaenllaw a amlinellir yn ein Maniffesto ym mis Mai 2017, bellach yn cael ei gydnabod gan lawer," meddai.
Wrth ysgrifennu yn yr Observer, soniodd ysgrifennydd cysgodol Brexit, Syr Keir Starmer, am safbwynt newydd Llafur, gan ddweud bod angen cyfnod trosiannol er mwyn osgoi simsanu’r economi a byddai Llafur yn ceisio darganfod cytundeb trosiannol sy’n golygu aros yn rhan o’r undebau tollau gyda'r UE ac o fewn y farchnad sengl yn ystod cyfnod trosiannol.
Hefyd, amlygodd Mr Roberts ei bryderon yngl?n â Mesur Ymadael a’r DU oherwydd bod y Senedd yn pleidleisio'n hwyrach heddiw (10 Medi), gan ddweud wrth aelodau'r Cyngor: "Ar ddiwrnod refferendwm yr UE gofynnwyd i'r etholwyr a oeddent am i ni adael neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ni ofynnwyd iddynt a ddylem ni newid cydbwysedd y pwerau rhwng gweinyddiaethau datganoledig, ac ni ofynnwyd a ddylem adael neu aros yn y farchnad sengl neu'r undeb tollau. "
Ategodd Mr Roberts ymateb diweddar yr Undeb i Ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru, lle dywedodd yr Undeb: "Dylai trafodaethau trefniadau trosiannol Brexit gyda'r UE sy'n caniatáu digon o amser i gytuno ar fasnachu a materion eraill, ac archwilio a gweithredu newidiadau i ddeddfwriaeth cartref, gan gynnwys unrhyw Fesur ymadael fod yn flaenoriaeth.”
Mae’r angen am gyfnod trosiannol diogel hefyd wedi cael ei gydnabod gan nifer sydd y tu allan i’r DU – mis diwethaf, mewn cynhadledd, dywedodd cyn y cyn Brif Weinidog Gwyddelig a llysgennad y DU yn yr UDA John Bruton bod y pwysau cynyddol yn sgil y trafodaethau...” wedi'i lliniaru gan "... ymestyn llinell amser trafod y cytundeb o ddwy flynedd i chwe blynedd, gan ganiatáu i'r DU aros yn yr UE tan ddiwedd y cyfnod hwnnw."
"Ni fyddai newid o'r fath yn newid yr hyn sy’n mynd i ddigwydd o ran y DU yn gadael yr UE, ond byddai'n caniatáu i hyn ddigwydd dros amserlen fwy realistig a chymesur," meddai Mr Roberts.