Cynorthwy-ydd Gweinyddol UAC Sir Feirionnydd Ffion Edwards yn derbyn Gwobr Owen Slaymaker[/caption]
Mae gwobr Owen Slaymaker, sy’n cael ei gyflwyno’n flynyddol i’r gangen sirol sydd wedi hybu buddiannau aelodau a UAC orau wedi mynd i Swyddog Gweithredol Sirol cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru Huw Jones a’r Cynorthwyydd Gweinyddol Ffion Edwards.
Mae’r wobr, sy’n cael ei chyflwyno er cof am gyn Ysgrifennydd Sirol a Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Gaerfyrddin Mr Slaymaker, yn cydnabod y Swyddog Gweithredol Sirol sy’n defnyddio pob cyfle posib i godi ymwybyddiaeth yr Undeb drwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd.
Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae cangen Meirionnydd wedi bod yn hynod o weithgar yn 2016 ac wedi cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ar gyfer aelodau, yn ogystal â hybu gwaith yr Undeb yn y wasg leol a drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
“Rwyf am longyfarch Huw a Ffion ar eu llwyddiant ac am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaol i bwysleisio pam bod #AmaethAmByth. Mae’r wobr hyn yn haeddiannol dros ben.”
Cafodd y gangen sirol ddechrau prysur i’r flwyddyn wrth drefnu cyfarfod i gyflwyno’r system EID Cymru newydd, cynnal pum brecwast ac yna trefnu ymweliad ar gyfer y Prif Weinidog ar y pryd David Cameron i Fferm Tyfos, Llandrillo.
Hefyd, trefnodd cangen Meirionnydd hystings yn etholaeth Meirion Dwyfor ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cymru, mynychu rali CFfI Meirionnydd yn Nhyncelyn, Dinas Mawddwy a pharhau i adeiladu’r cysylltiad hynny gyda’r CFfI drwy noddi digwyddiadau.
Mae’r sir wedi bod ar flaen y gad wrth bwysleisio’r broblem barhaol o fand eang yng Nghymru wledig a manteisiwyd ar y cyfle i gyfarfod gyda Martin Jones, Rheolwr Gweithrediadau BT yng Nghymru; Rhodri Williams, Cyfarwyddwr OFCOM Cymru a Liz Saville Roberts AS.
Bu’n haf prysur gyda’r sir yn weithgar iawn fel sir nawdd y Sioe Frenhinol, Treialon C?n Defaid Cymru a’r Treialon C?n Defaid Rhyngwladol, yn ogystal â’r sioe sir ar Ystâd y Rhug yng Nghorwen.
Bu Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Meirionnydd hefyd yn cerdded Llwybr Clawdd Offa ar gyfer elusen y Llywydd, BHF Cymru, gan godi ymwybyddiaeth UAC yn y broses a chodi llawer o arian ar gyfer yr elusen.
I gloi’r flwyddyn, bu swyddfa’r sir yn rhoi sylw i gynlluniau ynni adnewyddadwy, trefnwyd dwy ymweliad fferm arall ar gyfer gwleidyddion lleol a Gr?piau Rhanddeiliaid ac wedi cynnal 10 cyfarfod cangen llwyddiannus ar gyfer aelodau.