Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio’r posibilrwydd o gytundeb fasnach rydd gyda Seland Newydd a cholli marchnadoedd cyfandirol o ganlyniad i ‘Brexit caled’ fel storm berffaith ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.
Deilliodd y sylwadau o’r dybiaeth gynyddol y bydd y Llywodraeth, wythnos hon yn cyhoeddi ei bwriad i ddilyn trywydd ‘Brexit caled’ wrth adael marchnad sengl yr UE a’r undeb dollau, a diwrnodau ar ôl i’r Prif Weinidog Theresa May ddatgelu bod y DU yn chwilio am gytundeb fasnach rydd gyda Seland Newydd.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn gynhyrchwyr da byw ac yn dibynnu ar allforion i’r cyfandir, ac mae ein neges wedi bod yn glir ers y refferendwm bod mynediad llawn a rhydd yn hanfodol i Gymru.”
Dywedodd Mr Roberts bod oddeutu 30 y cant o ?yn Cymreig yn cael eu hallforio i Ewrop a bod cymhlethdod y gadwyn gyflenwi Ewropeaidd yn golygu bod yna fygythiadau llym i sectorau arall.
“Mae rhai darnau o gig yn cael eu ffafrio yn y DU, tra bod eraill yn cael eu ffafrio ar y cyfandir, felly er mwyn gwneud gwerth y carcas i fyny mae'n hanfodol bod y marchnadoedd presennol yn cael eu cadw ar agor.”
Wrth ymateb i'r bygythiad o gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd, dywedodd Mr Roberts: "Ysgrifennais at y cyn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf, gan bwysleisio ein pryderon ynghylch cytundeb o'r fath gyda gwlad sydd yn gystadleuaeth uniongyrchol â ni ein hunain."
Cyn belled ag y mae’r cyfleoedd sy’n cael eu creu gan gytundeb o'r fath yn y cwestiwn, disgrifiodd Mr Roberts y rhain yn ddibwys.
"Mae gan Seland Newydd boblogaeth o tua 4.5 miliwn, sef tua un y cant o faint yr UE, ac yn 11,500 o filltiroedd i ffwrdd.
"Efallai y bydd cytundeb masnach rydd yn gyfle gwych i Seland Newydd, ond, ar y cyfan, does dim manteision i'r DU, ac yn hynod o negyddol ar gyfer amaethyddiaeth."
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn bryderus fod y cytundeb yn cael ei diystyru am resymau hwylustod gwleidyddol, ac na allai ennill marchnad o 4.5 miliwn o ddefnyddwyr ar yr ochr arall y byd wneud yn iawn am golli marchnad 500 miliwn o ddefnyddwyr ar garreg ein drws.