UAC yn pwysleisio’r angen am Fframwaith Amaethyddol ar gyfer y DU yng Nghynhadledd Plaid Cymru

[caption id="attachment_7755" align="alignleft" width="300"] Llywydd UAC, Glyn Roberts a Rheolwr Gyfarwyddwr UAC, Alan Davies yn siarad ym mhrif drafodaeth Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru.[/caption]

Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru bwysigrwydd fframwaith Amaethyddol ar gyfer y Deyrnas Unedig, sy’n parchu datganoli a’r rôl bwysig mae ffermio’n ei chwarae yn yr economi wledig, yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru’n ddiweddar, ar y thema ‘Cryfhau Cymunedau, Cryfhau Cymru’.

Yn siarad yn ystod trafodaeth y prif lwyfan dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC, Alan Davies:  “Os gosodir fframwaith amaethyddol, bydd hwnnw ar gyfer Lloegr yn bennaf.  Rhaid inni gael pob gwlad i gytuno i fframwaith ar gyfer y Deyrnas Unedig, sy’n atal cystadleuaeth annheg rhwng y rhanbarthau datganoledig.

“Rhaid i amaethyddiaeth yn y DU a Chymru fod yn broffidiol ac yn gynaliadwy, a rhaid cydnabod y rôl bwysig mae ffermydd teuluol yn ei chwarae o ran troi olwynion yr economi wledig, yn ogystal â chydnabod nad yw Cymru yr un fath â Lloegr yn nhermau angen, cynnyrch a phwysigrwydd cymdeithasol amaethyddiaeth.

“Hefyd, mae’n hanfodol bod cymorth amaethyddol yn cael ei gynnal ar lefelau sy’n adlewyrchu’r lefelau petai’r DU wedi pleidleisio i aros yn yr UE.  Amaethyddiaeth a ffermio yw’r grym sy’n gyrru’n heconomi wledig, ac os ydyn ni am weld Cymru’n ffynnu y tu allan i’r UE, yna rhaid cydnabod hynny.”

Aeth UAC ymlaen i drafod cyfraniad ffermio i’r economi, gan bwysleisio mai ffermio yw conglfaen diwydiant cadwyn bwyd a diod Cymru, sy'n werth £6.1 biliwn, a bod 76,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector bwyd ac amaeth, gan helpu i gadw pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.

[caption id="attachment_7756" align="alignright" width="225"] Llywydd UAC, Glyn Roberts yn croesawu arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood i stondin yr Undeb yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru[/caption]

[caption id="attachment_7757" align="alignleft" width="225"] Llywydd UAC, Glyn Roberts yn croesawu Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, Plaid Cymru i stondin UAC.[/caption]

Meddai Glyn Roberts, Llywydd UAC: “Os ydyn ni’n gwerthfawrogi’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cefn gwlad, ein treftadaeth, ein hysgolion, a’n swyddi, yna rhaid inni eu gwarchod.  Felly mae’n hanfodol bod cyllid sydd wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei ddyrannu i Gymru y tu all i Fformiwla Barnett, a bod hwnnw wedyn yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

“Mae modd inni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector ar ôl inni adael yr UE, ac mae digon o gyfleoedd y gellir eu harchwilio, ond mae llawer yn dibynnu ar barodrwydd ein gwleidyddion i gydnabod pa mor wahanol yw ffermio ar draws y gwledydd datganoledig, a pha mor wahanol yw eu hanghenion.

“Mae ffermio’n gwneud cyfraniad mor werthfawr i’n heconomi.  Mae cefn gwlad yn cael ei reoli a’i gynnal yn sgil amaethyddiaeth, sydd yn ei dro’n dod â thwristiaeth.  Rhaid inni beidio ag anghofio bod cefn gwlad Cymru, sy’n cael ei reoli gan ein ffermwyr, yn darparu cefnlen ar gyfer y diwydiant twristiaeth, sy’n werth dros £2.5 biliwn.

Ffermwr o Sir Drefaldwyn yn llawn gobaith am ddyfodol gwlân

[caption id="attachment_7720" align="alignleft" width="185"] Steve Smith[/caption]

Mae Steve Smith, sy’n adnabyddus o fewn y byd amaeth ar draws Cymru a’r DU yn gyn-enillydd Ffermwr Defaid y Flwyddyn, ac mae wedi ennill sawl gwobr gyda’i ddiadell, sef diadell Texel Penparc.

Gwireddodd uchelgais yn 2010 pan enillodd bencampwriaeth y parau yn  Ffair Aeaf Cymru. Mae’n gyfarwydd iawn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â bod yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf, ond mae’n realistig am y blaenoriaethu sydd angen ei wneud i wireddu’ch  breuddwyd.

Mae Steve wedi ehangu’i fenter ffermio, sydd erbyn hyn yn ymestyn dros ryw 1200 o aceri, ac mae’r busnes wedi’i rannu rhwng dau ddaliad yn Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd, lle mae system ddefaid gwbl haenedig ar waith.

Mae’n cydnabod greddf famol wych a hirhoedledd y ddiadell fynydd Gymreig, a’i dylanwad wrth adeiladu sylfaen mamol genetig cadarn ar gyfer menter cynhyrchu cig oen.  Mae Buches Hirgron Pedigri Penparc hefyd yn rhedeg ochr yn ochr â’r fenter, ac mae’n canolbwyntio ar farchnata hon ar gyfer y farchnad ansawdd uchel.

Mae’r daliadau’n rhan o gyfres cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir Llywodraeth Cymru, a nod y teulu o’r dechrau fu paru rheolaeth tir cynaliadwy â stoc bridio o’r safon uchaf, ac mae’r ddwy egwyddor sylfaenol hyn yn ganolog i lwyddiant y busnes.

Mae Steve bob amser wedi gwerthfawrogi natur a’r angen creiddiol i sicrhau cynaladwyedd.  Meddai:  “Rwyf bob amser wedi parchu byd natur a’r amgylchedd, cyn i hynny ddod yn ffasiynol.”

Tua diwedd y 90au arallgyfeiriodd y teulu ymhellach gyda bythynnod gwyliau, ac yn fwy diweddar, ynni adnewyddadwy.

Ers 9 mlynedd bellach, Steve yw cynrychiolydd Sir Drefaldwyn ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain, ac erbyn hyn mae’n gobeithio dod yn aelod etholedig Rhanbarth Gogledd Cymru, gan gynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru, a hyrwyddo  gwaith ffermwyr Cymru a’r Bwrdd Gwlân ymhellach.

Mae ganddo bersbectif byd-eang a dealltwriaeth o sut mae’r marchnadoedd yn gweithio a beth sydd ei angen i greu diwydiant llwyddiannus, sy’n bwysicach nawr nag erioed yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd angen i bob ased ar y fferm, gan gynnwys gwlân, gwrdd yn y ffordd fwyaf effeithlon â gofynion y defnyddiwr.  Mae’n hawdd anghofio pam y cafodd mentrau cydweithredol eu creu yn y lle cyntaf.  Cawsant eu sefydlu mewn cyfnod o adfyd er mwyn cryfhau llais amaethyddiaeth,  ein cyndeidiau oedd rhai o entrepreneuriaid mwyaf eu hoes.  Yn ystod y degawdau diwethaf mae ffermwyr mewn mynd yn fwy a mwy ynysig yn sgil yr angen i fod yn fwy effeithlon a mecaneiddio cynyddol,” meddai.

Yn sgil grymoedd byd-eang a masnachu rhydd yn y dyfodol, gall yr amser ddod unwaith eto pan fydd angen i ffermwyr gryfhau eu lleisiau i gael eu clywed.  Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain i bob pwrpas yw’r corff cynhyrchwyr cydweithredol mwyaf ym Mhrydain, gyda dros 40,000 o ffermwyr defaid cofrestredig, ac mae bob amser wedi gweithredu ar draws y farchnad fyd-eang, sy’n ei roi mewn sefyllfa dda i symud ymlaen yn y dyfodol.

Mae Steve yn ymwybodol bod yna fwy o waith i’w wneud i sicrhau effeithlonrwydd, a dywed:  “Rwyf am gael mwy o’r pris a delir am y gwlân yn ôl i’r cynhyrchwyr oherwydd mai dyna yw’r gwir nod yn y pen draw.

“Yn ddiweddar penododd y Bwrdd Joe Farrell  i gymryd yr awenau fel y Prif Weithredwr newydd.    Mae Mr Farrell yn gyn-fargyfreithiwr gyda sgiliau rheoli ardderchog, ac mae’n cydnabod yr angen i gefnogi rhaglenni hyfforddiant a darparu’n ffermwyr â gwerth am arian.  I ryw raddau gellid gwneud hynny trwy leihau’r costau gweinyddu, marchnata a hyrwyddo.  Fodd bynnag, gellir ond cyflawni hynny os bydd pob cynhyrchydd gwlân yn cefnogi Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain.  Os collwn ni hyn, a bod y diwydiant yn mynd ar chwâl, bydd pawb ar eu colled.

Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n cynhyrchu gwlân yn deall sut mae’r broses yn gweithio, ac yn gweld faint sy’n cael ei fuddsoddi yn safleoedd prosesu gwlân y wlad hon.  Mae cadw’r gallu i brosesu’r gwlân yn y DU yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein marchnadoedd yn parhau i fod yn resymol gystadleuol.

“Gellid dweud yr un peth am ein diwydiant cig coch a’n diwydiant llaeth.  Rhaid bod ‘gwerth ychwanegol’ wrth wraidd ein holl weithgareddau yn y dyfodol.  Mae ‘na amseroedd cyffrous o’n blaenau ac, ydw, dwi’n gwybod bod pris gwlân wedi gostwng ychydig ar y foment, ond mae’n gynnyrch gwyrdd sy’n cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid heddiw,” meddai Steve.

Mae Steve yn cydnabod bod y byd yn newid a bod ffermwyr yn wynebu dyfodol ansicr yn nhermau’r arena wleidyddol.  Dywed:  “Nid yw ffermwyr wedi gorfod cwrdd â gymaint o ofynion erioed o’r blaen.   Cadw  nifer digonol o ddefaid i allu goroesi a llwyddo fydd un o’r heriau nesaf yn sgil newidiadau i’r cymorth ar gyfer ffermydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwn ni gynllunio ar gyfer ein dyfodol, ymchwil newydd a datblygiad.

“Mae’r defnydd cynyddol o adnoddau naturiol a’r lleihad angenrheidiol yn y defnydd o danwydd ffosil yn golygu y bydd angen i ddefnyddwyr wneud dewisiadau mwy hirdymor wrth brynu.  Mae gwlân yn enghraifft wych o hynny, a gyda chydweithrediad cynllunwyr newydd cyffrous, rwy’n hyderus y bydd y term ‘Twf Gwyrdd’ yn denu prynwyr ar gyfer gwlân Cymru a’r DU gan greu dyfodol disglair.”

Wrth annog ffermwyr i gefnogi Steve Smith yn ei uchelgais i gael ei ethol yn Aelod Rhanbarth y Gogledd, dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Drefaldwyn, Emyr Wyn Davies: “Mae Steve yn llawn brwdfrydedd ac yn fwy na dim, mae’n gwybod sut mae Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain yn gweithio, ar ôl bod yn gynrychiolydd Sir Drefaldwyn ers dros naw mlynedd.  Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi derbyn papur pleidleisio i gefnogi Steve yn ei ymdrech i hyrwyddo gwaith y Bwrdd Gwlân ymhellach.

Cyfnod anodd o ran taclo TB

Tua diwedd yr 1960au roedd y Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn ceisio datrys dirgelwch:  roedd profion gwartheg a rheoli symudiadau wedi llwyddo i ostwng lefelau TB mewn gwartheg i ffracsiwn o un y cant, gan arwain at ddileu’r clefyd o’r rhan fwyaf o’r DU; ac eto nid oedd y rheolau hyn i’w gweld yn cael fawr ddim effaith ar lefelau’r clefyd yn rhannau o Dde Orllewin Lloegr, lle’r oedd nifer yr achosion o leiaf bum gwaith yn uwch na’r gyfradd genedlaethol.

Cafwyd cadarnhad o’r hyn yr oedd llawer wedi’i amau yn 1971, pan gafwyd bod mochyn daear marw wedi’i heintio'n ddifrifol â TB.  Roedd dwy nodwedd arbennig yn perthyn i’r ardal lle daethpwyd o hyd i’r mochyn daear; roedd yno lefelau uchel o TB, yn ogystal â’r hyn a ystyrid bryd hynny yn nifer uchel o foch daear.

Arweiniodd y darganfyddiad at gyfres o bolisïau cenedlaethol oedd yn anelu at gael gwared â moch daear mewn ardaloedd o’r fath - polisïau a gefnogwyd gan gadwraethwyr amlwg fel Peter Hardy AS, noddwr Deddf Moch Daear 1973 - ond o ganol yr 1980au ymlaen aeth y rhain yn llai dwys, ac yn 1997, gosodwyd gohiriad ar y difa, sy’n parhau i fod mewn grym yng Nghymru hyd heddiw.

Ers 1971, amcangyfrifir bod nifer y moch daear wedi cynyddu ddengwaith yn sgil deddfwriaeth gwarchod moch daear - i’r fath raddau fel bod dwysedd y boblogaeth moch daear ar draws rhannau helaeth o Gymru a’r DU erbyn hyn ar yr un lefel â’r hyn a welwyd cynt mewn pocedi o Dde Orllewin Lloegr yn unig, lle'r oedd TB wedi para.

Mae cryn dystiolaeth o effaith y cynnydd hwn ar anifeiliaid gwyllt eraill, yn arbennig yn nhermau’r effaith drychinebus ar nifer y draenogod - wedi’r cyfan, y mochyn daear yw ein hanifail cigysol daearol mwyaf.

Nid yw’n syndod felly bod TB wedi dychwelyd ar lefelau epidemig ar draws y rhan fwyaf o Gymru, wrth i ddulliau o reoli gwartheg sydd wedi profi’n effeithiol mewn gwledydd heb gronfeydd bywyd gwyllt fethu â rheoli’r clefyd.

Ers 1997, mae’r ganran flynyddol o fuchesi yng Nghymru sydd wedi colli eu statws rhydd o TB swyddogol wedi codi ddengwaith, ac mae’r nifer o wartheg sy’n cael eu difa yng Nghymru bob blwyddyn i reoli’r clefyd wedi codi o 613 yn 1997 i 9,934 yn y 12 mis hyd Hydref 2016.  Yn ystod yr un cyfnod, ni chafodd yr un mochyn daear ei ddifa yng Nghymru oherwydd TB, er gwaethaf ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, sy’n dangos bod lefelau TB mewn moch daear pedwar gwaith ar ddeg yn uwch nag mewn gwartheg.

Rhwng  2007 a 2011, penderfynodd clymblaid Llafur-Plaid Cymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, fwrw’r maen i’r wal trwy roi cynllun difa moch daear ar waith yng Ngogledd Penfro, ond rhwystrwyd eu cynlluniau; yn gyntaf gan y llysoedd, a farnodd nad oedd y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd yn sail i’r difa wedi’i drafftio’n gywir, ac yna gan weinyddiaeth Llafur 2011-2016, a benderfynodd frechu yn hytrach na difa moch daear yn yr ardal - er gwaethaf cyngor swyddogol y byddai rhaglen frechu mor aneffeithiol fel y byddai’n costio £3.5 miliwn net, tra byddai’r difa wedi lleihau nifer yr achosion a lefel y difa o fewn buchesi, gan fwy na gwneud iawn am y gost.

Cefnogwyd y safbwynt hwn gan is-gr?p TB mewn Gwartheg Tasglu’r UE ar gyfer Monitro Rhaglenni Dileu Clefydau Anifeiliaid, a feirniadodd Cymru am newid cyfeiriad yn 2012 gan ddweud “There is no scientific evidence to demonstrate that badger vaccination will reduce the incidence of TB in cattle. However there is considerable evidence to support the removal of badgers in order to improve the TB status of both badgers and cattle.”

Nid yw’n syndod felly bod yr adroddiad swyddogol diweddaraf ar y rhaglen brechu moch daear yng Ngogledd Penfro, a gostiodd £3.7 miliwn yn dod i’r casgliad - “Consistent trends in indicators of bTB incidence have not yet been seen…”

I ffermwyr Cymru sy’n dioddef canlyniadau emosiynol ac ariannol dyddiol cael eu busnesau wedi’u cau i lawr am fisoedd oherwydd cyfyngiadau symud, a gweld eu gwartheg yn cael eu casglu, neu’u difa ar y fferm, blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddwysáu’r rheolau TB, sydd eisoes y llymaf yn y byd, wedi creu dicter mawr – ond nid oherwydd y rheolau eu hunain.

Yn wir, er mai prin yw’r rhai sy’n cytuno â’r holl gynigion - sy’n cynnwys rhannu Cymru’n bum rhanbarth, gyda phob un â rheolau symud ychwanegol llym - mae nifer yn deall rhinweddau’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ceisio’i gyflawni, ond gydag un rhybudd:  mae methu â chynnwys cynigion cadarn i ddelio â’r gronfa glefyd mewn moch daear yn gwbl ddisynnwyr.

Mynegwyd pryderon tebyg yn ystod gwrandawiad diweddar o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd,  Amgylchedd a Materion Gwledig, pan gyfeiriodd Dr Paul Livingstone, a arweiniodd rhaglen lwyddiannus i ddileu TB yn Seland Newydd, at foch daear fel ‘yr eliffant yn yr ystafell’, gan honni bod dim yn cael ei wneud yng Nghymru ynghylch cronfa clefyd allweddol.

Gallai Llywodraeth Cymru ddadlau bod honiadau o’r fath yn annheg – wedi’r cyfan, maent wedi rhoi rhaglen brechu moch daear (er yn aflwyddiannus hyd yn hyn) ar waith, ac yn ddiweddar dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol Christianne Glossop y gallai grwpiau heintus o foch daear gael eu maglu a’u lladd heb greulondeb lle gellir profi’n wrthrychol bod moch daear yn heintus.

Yn bendant mae’n wir fod Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ffermio fel ei gilydd yn cydnabod bod moch daear yn ffynhonnell haint, a bod angen gwneud rhywbeth am y mater; mae’r ddadl ynghylch beth i’w wneud a phryd.

Mae ffermwyr yn ofni y bydd safbwyntiau personol a llwfrdra gwleidyddol ar ran y gwleidyddion yn parhau i arafu’r broses o gael gwared â TB, wrth i bob esgus gael ei ddefnyddio i osgoi gweithredu, a gwelir difa moch daear ‘lle gellir profi’n wrthrychol’ fel tacteg gohirio sy’n osgoi taclo’r hyn sy’n debygol o fod yn achosi’r haint dros yr hirdymor.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths yn ystyried p’un ai i roi cynigion Llywodraeth Cymru ar waith ai peidio.

Tra bod datganiadau Llywodraeth Cymru ynghylch difa moch daear pan fydd digon o dystiolaeth wedi’i chasglu’n awgrymu bod yna lygedyn o obaith, bydd diffyg cadernid a methu â lledaenu mesurau o’r fath yn gyflym ac ar raddfa digon eang, yn gohirio ac yn ychwanegu degawdau at y broses ddileu, gan ymestyn y gost a’r torcalon i deuluoedd ffermio.

Byddai’r sefyllfa’n ddigon gwael dan amgylchiadau arferol, ond gyda Brexit ar y gorwel, mae cystadleuwyr mewn gwledydd eraill yn cadw un llygad ar ein statws TB, a sut y gallant ei ddefnyddio er eu budd nhw - a’n colled ni - mewn trafodaethau masnach.  Mae’r cloc yn tician.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn agor swyddfa UAC newydd

[caption id="attachment_7674" align="aligncenter" width="300"] O'r chwith, Llywydd UAC, Glyn Roberts, Lesley Griffiths, Cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams, a Swyddog Gweithredol Sirol UAC Emyr Wyn Davies.[/caption]

Roedd ffermwyr yn Sir Drefaldwyn wrth eu boddau’n croesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i agor swyddfa newydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Y Drenewydd yn swyddogol. Mae’r adeilad newydd, modern wedi’i leoli ar Uned 2, Parc Busnes St. Giles, Pool Road, Y Drenewydd.

 

Meddai Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am agor ein swyddfa’n swyddogol yma yn Y Drenewydd heddiw.  Mae agor y swyddfa newydd hon yn pwysleisio ymrwymiad parhaol UAC i’w strwythur sirol, sy’n caniatáu i aelodau dderbyn gwasanaethau un i un, wyneb yn wyneb.

 

“Un o’r rhesymau craidd dros gael y swyddfa hon, a’n deg swyddfa sirol arall, yw er mwyn galluogi UAC i ddeall y problemau gwahanol a wynebir gan ffermwyr ar draws Cymru, i grynhoi sawl persbectif gwahanol, ac i ymateb i bryderon ar lefel briodol yn lleol a chenedlaethol.”

 

Wrth siarad yn yr agoriad, atgoffodd Llywydd UAC, Glyn Roberts Ysgrifennydd y Cabinet fod y broblem TB mewn gwartheg angen ei datrys ar frys.

 

“Roedd un o’r negeseuon cryfaf i ddod o’r sir hon y llynedd yn gysylltiedig â TB mewn gwartheg a’r bwriad i rannu Cymru’n bum rhanbarth.  Petai’r cynigion hyn yn cael eu cyflwyno, mi fyddai gennym bum rhanbarth gyda setiau o reolau TB gwahanol o fewn 20 milltir o’r swyddfa hon.

 

“Rydym yn deall yn llwyr beth mae Llywodraeth Cymru’n ceisio’i gyflawni ac yn croesawu’r cyfeiriadau a wnaed at weithredu mewn perthynas â bywyd gwyllt. Mae  pawb yn cefnogi’r nod, ac yn deall y rhesymeg tu ôl i’r rhanbarthau.  Ond dim ond lle mae’r camau gweithredu’n wirioneddol holistig.

 

“Mae ofn dychrynllyd ar bobl y bydd y rhan hon o Gymru’n cael ei rhwygo ar wahân, ac y byddwn yn parhau i weld sefyllfa lle mae offer di-fin yn cael ei ddefnyddio ar ein gwartheg, tra bod y lefel o dystiolaeth sydd ei hangen i weithredu yn erbyn bywyd gwyllt lle bo angen y tu hwnt i gyrraedd,” ychwanegodd Mr Roberts.

Trafod dyfodol ffermio ar ôl Brexit

[caption id="attachment_7699" align="aligncenter" width="300"] O’r chwith, Tom Jones, Prysor Williams, llywydd UAC Meirionnydd Tegwyn Jones, a Huw Tudor.[/caption]

Daeth ffermwyr ym Meirionnydd at ei gilydd yn ddiweddar i drafod dyfodol posib y byd amaeth unwaith y mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth iddyn nhw ymuno â’u cangen UAC leol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol yn Nolgellau.

Ymhlith y rhai a gyflwynodd rhywbeth i gnoi cil drosto ar y noson roedd cyn is-lywydd UAC Tom Jones, sy’n cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop ym Mrwsel, ac yn gyfarwyddwr Anweithredol yn Swyddfa Cymru, uwch ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor Dr Prysor Williams a rheolwr amaethyddol rhanbarthol gyda HSBC Huw Tudor.

Meddai swyddog gweithredol sirol UAC Meirionnydd, Huw Jones: “Gyda’r dyfalu ynghylch beth allai Brexit ei olygu yn nhermau graddfeydd amser, cytundebau masnachu, a newidiadau beunyddiol i’r ddeddfwriaeth, mae’r diwydiant yn wynebu lefel o ansicrwydd a risg na welwyd mo’i fath ers cenedlaethau.

“Yn ddiamau, dyma’r broblem fwyaf sy’n wynebu ffermio yn y dyfodol agos, ac nid yw’n ormodiaeth dweud bod y diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig yn wynebu’r her fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

“Hoffwn ddiolch i’n panelwyr am rannu’u meddyliau gyda ni ar y noson, a fydd yn ysgogi llawer iawn mwy o drafod yn y dyfodol dwi’n si?r.”

Ffermwyr Meirionnydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fynediad masnach di-dariff i’r farchnad UE

[caption id="attachment_7530" align="alignleft" width="300"]Ffermwyr Meirionnydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fynediad masnach di-dariff i’r farchnad. Ffermwyr Meirionnydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fynediad masnach di-dariff i’r farchnad.[/caption]

Yn ddiweddar daeth ffermwyr Meirionnydd ynghyd i ddangos pwysigrwydd ffermio yn y sir ac i rannu syniadau a phryderon am y diwydiant yn sgil yr ansicrwydd sy’n deillio o benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y Farwnes Eluned Morgan hefyd yn bresennol yn Esgairgyfela, Aberdyfi, sy'n cael ei redeg gan Dewi Owen a'i wraig Meinir.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod pwysigrwydd mynediad parhaus i'r farchnad sengl a dywedodd ffermwyr eu bod yn ofni'r posibilrwydd o wynebu tollau wrth allforio cynnyrch i'r UE, yn ogystal â'u pryder am ba gymorth bydd ar gael i amaethyddiaeth unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE.

Mae fferm cynrychiolydd Pwyllgor Cyllid a Threfn Undeb Amaethwyr Cymru Dewi Owen yn ymestyn i oddeutu 280 erw ac yn cadw 400 o ddefaid Mule Cymreig a 10 o wartheg Charolais pur.  Dywedodd Mr Owen: “Mae mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE yn hanfodol, yn enwedig i’r sector defaid Cymreig ac rydym wedi atgyfnerthu’r neges honno wrth gyfarfod ag Eluned Morgan yma ar y fferm.

Mae UAC wedi ac yn mynd i barhau i bwysleisio y dylai allforion ar ôl-Brexit i'r DU fod yn unol â’r un safonau amgylcheddol ac iechyd anifeiliaid, a dylai unrhyw gytundeb sy'n caniatáu mynediad rhydd i farchnadoedd y DU ar gyfer cynnyrch amaethyddol yr UE gynnwys cymorth ariannol i gynhyrchwyr y DU sy'n cyfateb i'r gefnogaeth sy’n cael ei dderbyn gan ffermwyr yr UE.

[caption id="attachment_7531" align="alignright" width="300"](ch-dd) Meinir Owen, Eluned Morgan a Dewi Owen. (ch-dd) Meinir Owen, Eluned Morgan a Dewi Owen.[/caption]

"Mae'n gwbl hanfodol bod llywodraethau hefyd yn cefnogi bwyd a ffermio yn y DU drwy eu polisi caffael eu hunain, a thrwy sicrhau bod rheolau cystadleuaeth yn ffafriol yn hytrach na’n anfantais i ddiwydiannau’r DU."

Wrth drafod masnach pwysleisiodd aelodau UAC bod aelodaeth o’r undeb dollau wedi diogelu amaethyddiaeth rhag allforion bwyd o wledydd oedd ddim yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, cynnydd yn y gystadleuaeth o gynnyrch yr Aelod Wladwriaethau eraill, a mynediad rhydd i farchnadoedd yr UE - i gyd o fewn fframwaith cymorth fferm unigol a system o reolau cyffredin.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones: “Trafodwyd ymhellach cysylltiadau masnach posib yn y dyfodol gyda gweddill y byd mewn cyfnod ôl-Brexit a’r perygl o weld cystadleuaeth gynyddol oddi wrth economïau mwy sydd â safonau iechyd anifeiliaid, diogelwch bwyd ac amgylcheddol is.

“Yr hyn sy’n achosi’r mwyaf o bryder i’n ffermwyr yw’r cynigion gan uwch wleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i gynyddu’r allforion o fwydydd rhatach o wledydd sydd â safonau amgylcheddol, iechyd anifeiliaid, ac mewn rhai achosion, hawliau dynol is na beth sy’n ofynnol yn y DU.”

Pwysleisiodd aelodau’r Undeb, nid yn unig y byddai polisïau o'r fath yn cael effaith andwyol ddifrifol ar amaethyddiaeth y DU a chymunedau gwledig fel y rhai sydd ym Meirionnydd, ond byddai hefyd yn arwain at gynnydd cyffredinol yn nirywiad amgylcheddol a gostyngiad mewn safonau lles anifeiliaid – mae gan etholwyr y DU farn gref ar y ddau fater yma.

Ychwanegodd Mr Jones bod yna bryder gwirioneddol am golli marchnadoedd cyfandirol agos a cymharol gefnog, ac yn realistig i ba raddau y gall y rhain gael eu disodli gan farchnadoedd sy'n ymhellach llawer i ffwrdd, o ystyried y costau, logisteg a realiti o gael mynediad tebyg i ddewis arall, sy’n farchnadoedd pellach.

"Ar y wyneb, mae ffigurau cydbwysedd masnach yn awgrymu y gall gadael ardal masnach rydd yr UE fod o fudd i rai cynhyrchion trwy gael gwared ar gynnyrch sy’n cael ei fewnforio. Fodd bynnag, gallai manteision o'r fath ond gael eu gwireddu os oes yna gefnogaeth wleidyddol i bolisïau masnach sy'n lleihau mewnforion o bob gwlad arall.

"Mae cynhyrchu tymhorol yn cymhlethu'r manteision posib ac i ba raddau mae sectorau yn dibynnu ar allforio rhai mathau o gynnyrch a thoriadau ('chwarteri') sydd ddim yn apelio i gwsmeriaid y DU er mwyn cydbwyso carcas a gwerth cynnyrch.

Mae hyn yn bryder penodol ar gyfer y sector defaid yng Nghymru, lle mae cynhyrchu yn hynod o dymhorol ac yn cynnwys cyfran sylweddol o ?yn ysgafnach (tua 15 y cant) gyda dim llawer o alw amdanynt yma, gydag allforion i'r cyfandir o doriadau penodol a offal yn gyfrifol am gyfran sylweddol o werth carcas am yr un rheswm," ychwanegodd Mr Jones.

Bu swyddogion yr undeb ac aelodau hefyd yn trafod yr ymgynghoriadau diweddar ar TB mewn gwartheg, NVZ, pwysigrwydd cynlluniau Amaeth-Amgylchedd i sir fel Meirionnydd, y cyfleoedd ar gyfer arallgyfeirio gyda thwristiaeth ac ynni adnewyddadwy, diffyg cyfleusterau prosesu a phwysigrwydd olyniaeth o fewn busnesau amaethyddol.

[caption id="attachment_7532" align="alignleft" width="300"]Mae mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer y diwydiant defaid Cymreig, dywedodd ffermwyr Meirionnydd wrth AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y Farwnes Eluned Morgan yn Esgairgyfela, Aberdyfi. Mae mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer y diwydiant defaid Cymreig, dywedodd ffermwyr Meirionnydd wrth AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y Farwnes Eluned Morgan yn Esgairgyfela, Aberdyfi.[/caption]

Ar ôl y cyfarfod dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Eluned Morgan: "Roedd yn hynod o werthfawr i gwrdd â chynrychiolwyr o UAC cangen Meirionnydd. Maent wedi rhannu eu pryderon gyda mi ynghylch eu hofnau yngl?n â’r diwydiant ôl-Brexit. Rwy’n gobeithio fy mod wedi medru rhoi sicrwydd iddynt fy mod am leisio barn yn y Cynulliad am yr angen i ganolbwyntio ar ddatblygu gwledig a rhan ganolog amaethyddiaeth yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru sy’n cyflogi dros 220,000 o bobl.”