Ydych chi’n byw ar y cyfryngau cymdeithasol? Dangoswch pam bod #AmaethAmByth yn y Sioe Frenhinol

Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth Teleri Fielden

Yw blogio, Snapchat, Instagram, Facebook a Twitter yn rhan hanfodol o’ch bywyd? Diolch i Undeb Amaethwyr Cymru, bydd modd i chi gymryd mantais o Wifi am ddim a medru parhau i fwynhau’r cyfryngau cymdeithasol ar faes y Sioe Frenhinol eleni.

Unwaith eto, mae UAC yn noddi’r wifi am ddim, ac yn deall pa mor bwysig yw hi i gael mynediad at y rhyngrwyd ac yn gofyn i bawb sy’n mynd i’r sioe rannu eu lluniau a’u profiadau ar-lein.

Dywedodd Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden: “Rwy’n edrych ymlaen at y sioe, ac yn gobeithio bydd pawb yno yn mwynhau’r Wifi am ddim. Bellach mae pawb eisiau ac angen mynediad i’r rhyngrwyd a ni fydd rhaid poeni am beidio cael Wifi yn sioe amaethyddol fwyaf Cymru.

“Mae technoleg ddigidol wedi trawsnewid cymaint o fywydau mewn meysydd arall, ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar hyn yn amaethyddiaeth hefyd. Efallai nad yw’n cyffroi rhai cenedlaethau ond mae’n rhywbeth naturiol iawn i ffermwyr ifanc.

“Felly rhannwch eich lluniau a thrydar #AmaethAmByth gyda ni yn ystod wythnos y sioe ar Twitter @FUW_UAC a Facebook @FarmersUnionofWales. Bydd cyfle i ennill par o docynnau am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru am y trydar a’r lluniau gorau sy’n dangos pam bod #AmaethAmByth”.

UAC yn edrych ymlaen at brysurdeb Sioe Frenhinol Cymru

Llywydd UAC Glyn Roberts

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at wythnos brysur o hyrwyddo #AmaethAmByth yn Sioe Frenhinol Cymru (24-27 Gorffennaf) ac wedi trefnu cyfres o seminarau a grwpiau trafod, gan ganolbwyntio ar y prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant.

“Mae Sioe Frenhinol Cymru, nid yn unig yn gyfle i gymdeithasu, ymlacio a gweld ffermio, da byw a chynnyrch Cymru ar eu gorau, mae hefyd yn gyfle i ffermwyr ofyn am gyngor gan y llu o gyrff a gynrychiolir yno.

“Mae UAC yn cymryd agwedd ymarferol a llawn gwybodaeth yn y sioe eleni, gan ganolbwyntio ar faterion megis troseddau gwledig, rôl merched mewn amaethyddiaeth, ffermwyr ifanc ac olyniaeth, cysylltedd digidol, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig," meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

“Gyda sylw pawb yn troi tuag at faes y sioe yn Llanelwedd, mae’r Undeb yn cychwyn yr wythnos gyda seminar ‘agwedd rhagweithiol’ tuag at atal troseddau gwledig ar ddydd Llun Gorffennaf 24 am 1.00yp ym mhafiliwn UAC.

"Bob blwyddyn mae troseddau cefn gwlad yn costio miliynau o bunnoedd ac yn achosi pryder i ffermwyr a busnesau gwledig. Mae'r seminar yn anelu at bwysleisio’r materion, gwella dealltwriaeth a gwella diogelwch cymunedol a gobeithiwn y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y dydd,” meddai Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden.

“Mae’r siaradwyr yn cynnwys Heddwas Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed Powys Matthew Howells, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru Rob Taylor, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Amaethyddol Barclays Kathryn Whitrow, a fydd yn siarad am ddiogelwch seiber a Rheolwr Gyfarwyddwr Plant-I Jason McAuley yn sôn am rai’r o’r atebion ymarferol i droseddau gwledig.  Olivia Midley, Pennaeth Newyddion a Busnes y Farmers’ Guardian fydd yn cadeirio’r seminar.

Caiff y sylw ei droi at bobl ifanc y diwydiant ar nos Fawrth y sioe (Gorffennaf 25) pan fydd UAC yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer ffermwyr ifanc (o dan 40 mlwydd oed) rhwng 4 a 6yh.

Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden

Yn ymuno gyda’r sesiwn rhwydweithio fydd Jon MacCalmont, cynorthwy-ydd ymchwil mewn Bio-ynni, IBERS; Ruth Wonfor, Darlithydd mewn Gwyddor Anifeiliaid, IBERS; Sarah Lewis, Rheolwr Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio-Lantra; Einir Haf Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio; Alison Harvey, Rheolwr Amaethyddol ?yn, Dunbia; Julie Finch, Rheolwr Polisi a Strategaeth Gorfforaethol HCC; Delyth Davies, Pennaeth Datblygu Llaeth Cymru, Dairy Co ac Andy Middleton, Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy sy’n trefnu’r digwyddiad rhwydweithio: “Mae hyn yn gyfle gwych i’n pobl ifanc ddod ynghyd, mwynhau bwyd Cymreig gwych a sgwrsio gyda chyrff y diwydiant a ffermwyr arall mewn awyrgylch anffurfiol. Rwy’n gobeithio gweld nifer ohonoch yn bresennol ar y noson ac edrychaf ymlaen at drafod materion yn ymwneud â #AmaethAmByth.”

Rhwng 4-5yp ar y prynhawn dydd Mercher (Gorffennaf 26), bydd UAC yn cynnal grwp trafod yn canolbwyntio ar y newid yn rôl menywod mewn amaethyddiaeth. Bydd y siaradwyr yn cynnwys y Farwnes Eluned Morgan, ffermwraig ceirw o Frycheiniog Kath Shaw, y ffermwraig o Feirionnydd ac aelod o Fwrdd HCC Rachael Davies a siaradwr gwadd cyfrinachol i’w ddatgelu ar y dydd.

“Prif bwrpas y seminar yw trafod cyfraniad merched i amaethyddiaeth a'u rôl ehangach wrth lunio'r diwydiant. Rwyf wir yn edrych ymlaen at glywed am eu gweledigaeth ar gyfer menywod mewn amaethyddiaeth yn y dyfodol, yn ogystal â'u profiad fel menyw yn y diwydiant” meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy

Dydd Iau o’r sioe (Gorffennaf 27) bydd yr Undeb yn edrych ar ba fath o gymorth sydd ar gael yn y cymunedau gwledig i’r rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn croesawu Gareth Davies o Tir Dewi a David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Farming Community Network i’w pafiliwn.

Mae’r seminar, 'Mae'n iawn i ddweud' - rhoi sylw ar iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol' yn dechrau am 11yb ac yn agored i bawb.

“Ynghanol cyfnodau drwg, mae ffermwyr yn dueddol o gario ymlaen gan anwybyddu problemau a chuddio pethau oddi wrth y teulu a ffrindiau; mae nifer yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad am eu teimladau.

“Rydym wedi wynebu cyfnodau drwg iawn fel cymuned amaethyddol yn ystod y blynyddoedd gyda TB, ansefydlogrwydd prisiau ac ansicrwydd ynghylch ein dyfodol ar ôl Brexit, mae hyn i gyd yn rhoi straen ar bethau. Ond mae’n bryd torri’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac os ydych yn teimlo’n fregus, siaradwch a rhywun.

“Bydd y seminar hwn yn taflu rhywfaint o oleuni ar y cymorth sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o arweiniad a sicrwydd i'r rhai sy'n dioddef â phroblemau iechyd meddwl, a'u teuluoedd," ychwanegodd Glyn Roberts.

Cyn Lywydd UAC yn cael ei ethol fel Aelod am Oes yr Undeb

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ethol cyn Lywydd yr Undeb Emyr Jones fel Aelod am Oes UAC mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i’r Undeb ac amaethyddiaeth yng Nghymru dros nifer fawr o flynyddoedd.

Mae Mr Jones, a safodd i lawr fel Llywydd UAC yn dilyn 15 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i'r sefydliad ar lefel genedlaethol ym mis Mehefin 2015, eisoes wedi derbyn gwobr fewnol yr Undeb am ei wasanaethau i’r diwydiant amaethyddol.

Cafodd yr argymhelliad ei fod yn cael ei wneud yn aelod am oes ei dderbyn yn unfrydol gan Brif Gyngor yr Undeb.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rwyf bob amser wedi edmygu Emyr am y ffordd yr oedd yn cynrychioli ni gydag urddas ac egni yn ystod cyfarfodydd preifat gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Roedd ganddo dalent gwych i gydnabod y materion sy'n effeithio ar Gymru gyfan, ond ddim yn colli golwg ar y rhai yn nes at adref. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch faint o feddwl sydd gan Emyr o’r diwydiant, y teuluoedd sy’n ffermio a'n heconomi wledig. Mae'n ffigwr blaenllaw yn y byd amaethyddol ac yn hyrwyddwr gwych o UAC."

Bu Emyr Jones yn Gadeirydd Cangen Meirionnydd o 1998 i 2000 pan gafodd ei ethol i gynrychioli Gogledd Cymru ar bwyllgor cyllid a threfn ganolog yr Undeb.

Cafodd ei ethol yn Is Lywydd cenedlaethol yn 2002, Dirprwy Lywydd yn 2003 ac yn Lywydd yn 2011.

Mae Mr Jones yn briod gyda thri o blant ac mae ganddo bedwar o wyrion.  Yn siaradwr Cymraeg, cafodd ei eni a’i fagu ar y fferm deuluol Rhiwaedog, Rhosygwaliau ger Y Bala.

Mae’r fferm yn ymestyn i 360 acer, gyda 400 acer ychwanegol yn cael eu rhenti, ac yn cynnal buches o 70 o wartheg sugno Duon Cymreig pur a 1,700 o ddefaid magu.

Mae Mr Jones yn aelod blaenllaw o nifer o sefydliadau, yn flaenor yn ei gapel lleol ac yn Gyfarwyddwr Sioe Sir Meirionnydd.

Cafodd ei gyfraniad i amaethyddiaeth ei gydnabod pan gafodd ei wneud yn aelod cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, ac yna derbyniodd yr anrhydedd o Gymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2001.

Un o hoelion wyth y byd amaethyddol yn Sir Benfro yn cael ei ail ethol fel Dirprwy Lywydd

Mae un o hoelion wyth y byd amaethyddol yn Sir Benfro, Brian Thomas wedi cael ei ail ethol fel Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod o Brif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth (Llun, Mehefin 19).

Mae Brian Thomas wedi bod yn ffermio Fferm Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach ers 1988.  Mae’r fferm deuluol yn cynnwys 280 acer, 30 acer sy’n goedir.  Mae’r fferm yn gartref i 100 o wartheg bîff byrgorn a diadell o 300 o ddefaid, ac mae ?d hefyd yn cael ei dyfu.

Mae’n gyn cadeirydd cangen UAC yn Sir Benfro ac wedi bod yn aelod o bwyllgor tenantiaid canolig UAC.  Cafodd Brian ei ethol fel aelod De Cymru o bwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011 ac yn is lywydd UAC yn 2013.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Brian Thomas: “Hoffwn ddiolch i’r rhai hynny bleidleisiodd i mi fel bod modd i fi barhau yn y swydd o Dirprwy Lywydd yr Undeb.  Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Glyn Roberts dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio gydag ef a Bwrdd Cyfarwyddwyr UAC newydd.”

Yn ystod argyfwng BSE ym 1996, arweiniodd Mr Thomas ymgyrch yn Ne Cymru yn gwrthwynebu mewnforio cig eidion gwael i Gymru.  Ym 1997, arweiniodd gr?p o 10 o ffermwyr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru i bwysleisio’r ffordd annheg roeddent yn trin y diwydiant.

Mae Brian yn teimlo’n angerddol am TB.  Pan aeth ei fuches i lawr â'r clefyd yn niwedd y 1990au, mi ddywedodd mewn cyfweliadau y byddai'r clefyd yn fwy o broblem o lawer na BSE petai ddim yn cael y sylw priodol.

Yn anffodus, i nifer, mi roedd yn dweud y gwir, ac ar hyn o bryd mae’n rhan o weithgor lleol y Cynulliad ar gyfer Ardal Triniaeth Ddwys Gogledd Sir Benfro yn cynrychioli ffermwyr yn yr ardal.

Ail ethol ffermwr bîff a defaid o Gonwy fel Llywydd UAC

Glyn Roberts, a ail-etholwyd yn Llywydd UAC gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths

Mae ffermwr b?ff a defaid adnabyddus o Gonwy, Glyn Roberts, wedi cael ei ail-ethol fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod o Brif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth (Llun, Mehefin 19).

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Mr Roberts o Dylasau Uchaf, Padog, Betws-y-Coed, Conwy sydd wedi bod yn Lywydd UAC ers 2015: “Rwy’n falch iawn cael bod wrth lyw UAC yn ystod cyfnod hanesyddol.

“Fel Llywydd yr Undeb hon, rwyf am weld cyfleoedd mewn problemau yn hytrach na gweld problemau mewn cyfleoedd.  Y flaenoriaeth i ni nawr yw sicrhau ein bod ni’n cynnal sector ffermio cynaliadwy ac ymarferol yma yng Nghymru.

"Rydym am weld dyfodol bywiog go iawn ar gyfer pobl wledig go iawn. Mae llawer o'n haelodau yn ofni, os nad yw ffermio yn ddigon uchel ar agenda'r llywodraeth, bydd Cymru yn troi i mewn i amgueddfa awyr agored. Mae yna bryder gwirioneddol, petai amaethyddiaeth yn methu, byddwn yn gweld cynnydd mewn diboblogi gwledig, a fydd nid yn unig yn cael effaith garw ar ein heconomi wledig, ffordd o fyw ac iaith, ond hefyd yn achosi straen ychwanegol ar ein trefi a'n dinasoedd.

“Heb y fargen iawn ar gyfer ffermwyr, bydd ein cymunedau gwledig yn diflannu ac yn mynd yn angof.  Y nod nawr yw creu diwydiant amaethyddol cynaliadwy o fewn cymuned wledig gynaliadwy.  Mae modd cyflawni hyn ond mae’n rhaid i ni weithio’n rhagweithiol.”

Ym 1977, llwyddodd Glyn i ennill tenantiaeth fferm fynydd 100 acer, Ynys Wen, Ysbyty Ifan tra’n gweithio’n rhan amser yn ystod y cyfnod yn Nhalasau Uchaf.

Ym 1983, enillodd Mr Roberts tenantiaeth Dylasau Uchaf, fferm 350 acer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’n parhau i ffermio gyda’i ferch Beca.  Mae ei wraig Eleri yn rhedeg busnes arlwyo yn Ysbyty Ifan.  Mae ganddynt bump o blant, oll wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth.

Bu Mr Roberts yn aelod Gogledd Cymru o Bwyllgor cyllid a threfn UAC o 2003 i 2004; Is Lywydd UAC o 2004 i 2011 a cafodd ei ethol fel Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2011.

Mae Glyn wedi darlithio nifer o weithiau ar faterion amaethyddol a’r uchafbwynt personol iddo oedd darlithio ar Ddyfodol yr Ucheldir yng Nglynllifon ym 1997 gan rannu llwyfan gyda phennaeth adran amaethyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth, yr athro Mike Haines a John Cameron NFU yr Alban.  Uchafbwynt personol arall iddo oedd gwahoddiad gan Franz Fischler, Comisiynydd Amaethyddol y UE i fynychu cyfarfod ar ddyfodol Datblygu Gwledig yn Strasburg yn 2003.

Yn ystod 2006-2008 roedd yn cynrychioli UAC ar fwrdd Hybu Cig Cymru ac o 2008 i 2015 bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Hybu Cig Cymru sef penodiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ym mis Ionawr 2001, bu Carwyn Jones AC yn ymweld â Dylasau Uchaf ac Ysbyty Ifan a Glyn oedd yn gyfrifol am baratoi dogfen gynhwysfawr yn edrych ar y cysylltiad anorfod rhwng amaethyddiaeth a dyfodol cymunedau gwledig, “Pwysigrwydd Amaethyddiaeth yng nghymunedau gwledig”.

Hefyd arweiniodd Glyn y gr?p UAC cyntaf o Sir Gaernarfon i Frwsel i drafod EID ym mis Hydref 2000.

Enillodd gystadleuaeth Rheoli Fferm yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn golygu crynhoi cynllun tair blynedd, ac ym 1992 pan oedd Coleg Glynllifon o dan fygythiad cau, cafodd Glyn ei ddewis fel aelod o Weithgor o dri i edrych ar y posibiliadau o gadw Glynllifon ar agor.

Gwobr arbennig i gydnabod gwasanaeth hir i UAC

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo arbennig gan Undeb Amaethwyr Cymru i gydnabod yn gyhoeddus ac i ddiolch i’w Swyddog Gweithredol Sirol yng Nghaernarfon Gwynedd Watkin am ei wasanaeth o dros 25 mlynedd i’r Undeb.

Yn wreiddiol, ymunodd Gwynedd Watkin gyda UAC fel Swyddog Ardal ar gyfer Gogledd Caernarfon ar Fedi 23 1991 ac yna cafodd ei benodi fel Swyddog Gweithredol Sirol yng Nghaernarfon ar Hydref 1 1999.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae Gwynedd yn hynod o frwdfrydig, angerddol, tu hwnt o ymroddedig i UAC ac yn rhoi gwasanaeth gwych i aelodau.

“Gwynedd oedd yn gyfrifol am ddechrau cynnal y brecwastau llwyddiannus sydd bellach yn cael eu cynnal ar draws Cymru, ac mae’n rhaid i mi hefyd sôn am eu ymdrechion codi arian diflino dros y blynyddoedd.

“Boed yn frecwast, dringo mynyddoedd, cerdded ar draws Cymru neu ar hyd yr arfordir, mae Gwynedd bob amser yn barod am her i godi arian ar gyfer achosion da a’n elusen Llywydd ni, yn ogystal a dyletswyddau arall ar gyfer yr Undeb.

Mae’n bleser mawr i mi gyflwyno hyn i Gwynedd heddiw ac i ddiolch iddo am ei wasanaeth neilltuol i UAC ac i amaethyddiaeth yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.”