Mwynhaodd aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad â busnes maeth cynnyrch llaeth blaengar Volac yng Ngorllewin Cymru, a gynhaliwyd diwrnod cyn Sioe Laeth Cymru (Llun 23 Hydref).
Mae achosion o TB ymhlith gwartheg godro a bîff yn parhau i fod yn ben tost i ffermwyr yng Nghymru. Er gwaethaf y rhaglenni dileu niferus dros y blynyddoedd, mae'r afiechyd yn parhau i achosi anawsterau emosiynol ac ariannol, ac yn dinistrio llawer iawn o deuluoedd sy’n ffermio.
Mae’r ffermwr llaeth o Sir Gaerfyrddin Brian Walters wedi cael ei anrhydeddu gyda Gwobr UAC-HSBC am wasanaethau neilltuol i’r diwydiant llaeth Cymreig yn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin.
Mae ffermwr ac entrepreneur o Orllewin Cymru, Brian Jones a sefydlodd Castell Howell yn yr 1980au cynnar, wedi cael ei gydnabod am ei wasnaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr UAC - Sioe Amaethyddol y Siroedd Unedig a Chymdeithas Helwyr.
Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod diweddar yn Aberystwyth.
Cymerodd Dai Miles a’i wraig Sharron denantiaeth Fferm Barnsley, Crowhill, Hwlffordd ym 1997. Bryd hynny, roedd y fferm yn ymestyn i 143 o erwau ac yn uned stoc/âr cyn i’r cwpwl ei newid hi i uned llaeth organig gan ddechrau gyda buches o 33 a chwota llaeth ar brydles.
Mae Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gamarwain i wneud argymhelliad llym fydd yn fêl ar fysedd cwmnïau telathrebu aml-filiwn, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.
- UAC yn rhannu pryderon am ymgynghoriad Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy gyda AC Arfon
- UAC yn atgoffa ffermwyr bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd
- UAC yn atgoffa ffermwyr bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd
- Fferm fynydd ym Meirionnydd yn dangos sut mae cynhyrchu bwyd a chadwraeth amaethyddol yn mynd law yn llaw