Gweithdai Gwerthuso Cyswllt Ffermio

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gynnal gwerthusiad allanol annibynnol o Cyswllt Ffermio, ac mae’n awyddus i gael barn y rhai sydd wedi derbyn cymorth gan Cyswllt Ffermio rhwng 2014 a 2022.

Maent yn chwilio am ffermwyr i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein awr o hyd, i gasglu adborth ar Cyswllt Ffermio, er mwyn helpu i siapio’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Cynhelir y gweithdai ar y dyddiadau canlynol rhwng 7 ac 8pm:

  • Dydd Mawrth 2il Mai
  • Dydd Mercher 3ydd Mai
  • Dydd Iau 4ydd Mai
  • Dydd Mawrth 9fed Mai
  • Dydd Mercher 10fed Mai

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â’r tîm gwerthuso:  This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Miller Research: https://www.miller-research.co.uk/farming-connect-evaluation/