Bydd y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni ar gael am 12 mis o 1af Ebrill 2023 hyd 31ain Mawrth 2024.
Mae’r cynllun hwn yn disodli’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni a oedd yn cefnogi busnesau a sefydliadau rhwng 1af Hydref 2022 a 31ain Mawrth 2023.
Bydd y gostyngiad sylfaenol yn darparu cymorth gyda biliau ynni i gwsmeriaid annomestig cymwys ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon – bydd y cymorth hwn ar gael yn awtomatig.
Bydd y cynllun ar gael i bawb sydd â chontract cyflenwi ynni annomestig gyda chyflenwr ynni trwyddedig, gan gynnwys:
- busnesau
- sefydliadau’r sector gwirfoddol, megis elusennau
- sefydliadau’r sector cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal
sydd:
- eisoes ar gontractau pris sefydlog a gytunwyd ar, neu ar ôl 1 Rhagfyr 2021
- wrthi’n arwyddo contractau pris sefydlog newydd
- ar dariffau tybiedig/dim contract neu dariffau newidiol, neu
- ar gontract pryniant hyblyg (neu debyg)
Bydd cwsmeriaid annomestig cymwys yn derbyn gostyngiad fesul uned i’w biliau ynni yn ystod y cyfnod o 12 mis o Ebrill 2023 hyd at Fawrth 2024. Gosodwyd uchafswm ar faint y gostyngiad.