Crynodeb o newyddion Ebrill 2023

Plaid brotest ffermwyr yn newid hinsawdd wleidyddol yr Iseldiroedd

Mi enillodd plaid wleidyddol ‘Farmer-Citizen Movement’ yr Iseldiroedd 15 allan o 75 o seddi yn etholiadau rhanbarthol yr Iseldiroedd ym mis Mawrth.  Mae’r canlyniad annisgwyl hwn yn golygu mai nhw yw’r blaid wleidyddol fwyaf yn yr Iseldiroedd bellach.

Ffurfiwyd y blaid o ganlyniad i brotestio ar raddfa fawr yn 2019 yn erbyn bwriad y llywodraeth i reoleiddio gwrtaith nitrogen, yn ogystal â pholisïau amgylcheddol eraill.  

Mae’r blaid hefyd yn gwrthwynebu cynlluniau gan y llywodaeth a fydd yn lleihau allyriadau nitrogen ac amonia gymaint â 50% dros y ddegawd nesaf.  Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflawni hyn drwy brynu miloedd o ffermydd, a lleihau’n ddrastig y nifer o dda byw domestig.

Disgwylir y bydd canlyniadau’r etholiadau rhanbarthol yn gwneud hi’n anoddach i lywodraeth yr Iseldiroedd roi’r cynlluniau ar waith ar lefel ranbarthol.

 

HCC yn cydweithio â Countryside Classroom

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi ffurfio partneriaeth â’r platfform Countryside Classroom sy’n darparu adnoddau dysgu i athrawon ledled y DU.

Mae HCC wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o adnoddau ar gyfer rhai 3 – 16 oed, sy’n anelu at gael y plant i ddysgu o ble mae eu bwyd yn dod, pwysigrwydd deiet cytbwys, a ffermio a’r amgylchedd.

Mae’r adnoddau, sy’n cynnwys cynlluniau gwersi, ryseitiau a gweithgareddau, ar gael bellach yn Gymraeg a Saesneg ar blatfform HCC ei hun, yn ogystal â nifer o rai eraill ar blatfform Countryside Classroom, sydd ar gael i dros 12,000 o athrawon.

 

Prisiau bwyd yn codi ar y gyfradd uchaf ers dros 45 mlynedd

Cododd prisiau bwyd a diodydd dialcohol ar y gyfradd uchaf ers dros 45 mlynedd yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.

Roedd y gyfradd chwyddiant flynyddol yn 19.2%, i fyny o 18.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2023. Bernir bod y gyfradd yn uwch na hynny am y tro diwethaf yn Awst 1977, pan amcangyfrifwyd ei bod yn 21.9%.

Y nwyddau a gyfrannodd fwyaf at y cynnydd o ran chwyddiant bwyd oedd bara a grawnfwyd, gyda’r prisiau cyfartalog ar gyfer y rheiny’n codi 19.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2023.

Y gobaith yw y bydd y prisiau’n gostwng yn fuan, yn dilyn cwymp byd-eang yn y prisiau cyfanwerthu dros y misoedd diwethaf.

 

Cymorth ychwanegol i wledydd yr UE sy’n ffinio ag Wcráin

Mae’r UE wedi cadarnhau y bydd dros €100 miliwn pellach o gymorth ar gael i Wlad Pwyl, Hwngari, Slofacia, Rwmania, a Bwlgaria oherwydd effaith y nwyddau amaethyddol sy’n dod i mewn i’r gwledydd hynny o Wcráin.  Mae’r cymorth yn dilyn pecyn gwerth €56 miliwn a gytunwyd ym mis Mawrth.

Mae mewnforion cynyddol o Wcráin yn amharu ar farchnadoedd cenedlaethol a rhanbarthol y gwledydd cyfagos, gan roi pwysau ar brisiau yn sgil gorgyflenwi.

Bydd y cymorth ychwanegol yn cael ei ariannau gan gronfa amaethyddol wrth gefn y Polisi Amaethyddol Cyffredin.