Yn ddiweddar (21 Mawrth) mi ddarparodd Undeb Amaethwyr Cymru dystiolaeth lafar fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gyflwyno achos cryf dros yr angen i ailfeddwl y cynigion presennol.
Mae UAC yn credu’n ddi-os y byddai sicrhau bod elfen orfodol (haen sylfaenol) y cynllun yn ymarferol, yn hygyrch ac yn economaidd gynaliadwy i bawb yn arwain at ganlyniadau llawer gwell yn yr hirdymor, yn hytrach na chanolbwyntio ar dargedau tymor byr sydd chwe blynedd yn unig i ffwrdd.
Os na fydd y cynllun hwn yn un economaidd gynaliadwy i bob busnes fferm gweithredol, gall Llywodraeth Cymru anghofio am ymgorffori targed gorchudd coed gorfodol o fewn haen sylfaenol y cynllun, ar gyfer unrhyw ganran o dir.
Mewn ymateb i gwestiwn a holwyd gan y Pwyllgor, sef a ydy’r amserlen bresennol yn caniatáu ar gyfer ail-gynllunio’r cynllun i’r graddau angenrheidiol, gwnaeth UAC hi’n glir bod unrhyw beth yn bosibl. Fodd bynnag, bydd cael y cynllun yn barod ac yn ymarferol erbyn diwedd eleni’n dibynnu’n llwyr ar y penderfyniadau a wneir gan Ysgrifennydd y Cabinet ar Newid Hinsawdd a Materion Gwledig o ran cydweithio â’r diwydiant dros y misoedd nesaf.
Mae’r diwydiant wedi cael gwybod dro ar ôl tro na fydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod. Cafodd y Pwyllgor wybod yn ddi-os gan UAC, os byddwn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw’r cynllun yn addas i’r diben erbyn diwedd eleni, yna dylid ystyried ymestyn Cynllun y Taliad Sylfaenol, sy’n cynnig cymorth i ffermwyr ar hyn o bryd, ar y cyfraddau presennol fel opsiwn go iawn.
Mae UAC am i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig osod trywydd clir o ran sut mae’n bwriadu cydweithio mewn ffordd ddilys gyda’r diwydiant ar yr adeg hanfodol hon, ac mae UAC yn wirioneddol obeithio cael cyfarfod brys yn union ar ôl toriad y Senedd.
Mae UAC am weld grŵp bach o randdeiliaid yn cael ei sefydlu i ganolbwyntio ar ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, all ystyried newidiadau i ddyluniad y cynllun a’r cyfraddau tâl cysylltiedig, gyda’r opsiwn o greu is-grwpiau neu baneli i ystyried manylion elfennau gwahanol o’r cynllun.
Mae dull o’r fath wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol i gyflwyno newidiadau mawr i gynlluniau, ac felly mae UAC o’r farn y dylid rhoi’r dull hwn ar waith i sicrhau bod modd ail-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i’r graddau angenrheidiol o fewn yr amser sydd ar gael.
Roedd UAC yn croesawu’r cyfle i ddarparu tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor a chyfrannu at ddigwyddiad rhanddeiliaid diweddar y Pwyllgor, ac mae’n gwbl ffyddiog bod yr angen i ailfeddwl wedi’i fynegi’n bendant yn ystod tystiolaeth yr Undeb.