Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw at yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu oherwydd y tywydd gwlyb, a galwodd yr Undeb am ymyriadau posib yn ystod uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar (19 Ebrill).
Wedi’i threfnu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS
, nod yr uwchgynhadledd oedd edrych ar effeithiau’r cyfnod hir o dywydd gwlyb presennol, ac archwilio’r ymyriadau all fod eu hangen o du’r gadwyn gyflenwi i ddelio â’r amgylchiadau eithriadol y mae rhai ffermwyr yn eu hwynebu.
Mae UAC yn croesawu’r cyfle i drafod y problemau hynod amserol hyn sy’n wynebu ffermwyr yn dilyn gaeaf eithriadol o wlyb. Roedd yn galondid gweld amrywiaeth mor eang o randdeiliaid o bob rhan o gadwyn gyflenwi’r DU yn cymryd rhan.
Roedd rhai o’r ymyriadau y galwodd UAC amdanynt yn cynnwys llacio gofynion ambell i gynllun; mae nifer o ddeiliaid contractau Tyfu Er Mwyn yr Amgylchedd wedi methu â bodloni’r dyddiadau hau gofynnol oherwydd y tywydd gwlyb. Bu’n amhosibl i rai ffermwyr gydymffurfio â’u contractau Grantiau Bach – Amgylchedd oherwydd y tywydd, a’r dyddiadau a bennwyd ar gyfer cwblhau gwaith penodol.
Mae ymyriadau eraill angenrheidiol, ym marn UAC, yn cynnwys mwy o hyblygrwydd o ran y rheolau trawsgydymffurfio ac archwiliadau fferm. Hefyd, mae angen mynd ati cyn gynted â phosib i ddarparu grantiau cyfalaf i ffermwyr ar gyfer seilwaith slyri a gorchuddio iardiau, i leihau’r baich i’r rhai sy’n ceisio cwblhau gwaith i fodloni gofynion rheoleiddiol newydd.
Serch y galwadau niferus a wnaed gan UAC i ohirio trydydd cam rheoliadau ‘NVZ’ Rheoli Llygredd Amaethyddol nes bod yr adolygiad o’r rheoliadau wedi’i gwblhau, mae’r cyfnod diweddaraf o dywydd gwlyb wedi gwneud hi’n amhosibl i gontractwyr adeiladu barhau â’u gwaith. Mae hyn yn golygu bod y dyddiad cau yn Awst ar gyfer cynyddu storfeydd slyri’n edrych mor heriol ag erioed.
Yn anad dim, mae’r misoedd diwethaf hyn wedi dangos pa mor angenrheidiol ydy hi fod unrhyw gynllun cymorth ariannol yng Nghymru yn y dyfodol yn sicrhau hyfywedd economaidd ffermydd teuluol, er mwyn iddyn nhw allu ymdopi ag amgylchiadau annisgwyl o’r fath yn y dyfodol.
Tra bod UAC yn aros am newyddion gan Lywodraeth Cymru ar ganlyniadau’r uwchgynhadledd, argymhellir bod unrhyw ffermwr sy’n wynebu anawsterau difrifol yn gofyn am gymorth ac yn siarad â’r sefydliadau perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys UAC, Taliadau Gwledig Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, rheolwyr banc, Sefydliad DPJ, neu unrhyw elusennau iechyd meddwl eraill. Ni ddylai unrhyw un deimlo ei fod ar ei ben ei hun yn ystod y cyfnod anodd hwn.