Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru 2024 ar fin dod i rym

Mae DEFRA wedi cyhoeddi bod Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru 2024 wedi’u gosod, a disgwylir y bydd y rheoliadau newydd yn dechrau ar 9fed Gorffennaf 2024 ar gyfer pob contract prynu llaeth newydd.  Ar yr un pryd bydd y cyfnod pontio o ran sicrhau bod contractau presennol yn cydymffurfio yn dod i ben ar 9fed Gorffennaf 2025.

Mae’r rheoliadau hyn yn deillio o ddatblygiad y cod ymarfer gorau gwirfoddol ar gyfer perthnasoedd contractiol a gyflwynwyd o fewn y sector llaeth yn 2012. 

Cafodd y cod llaeth gwirfoddol ei sefydlu i gael gwared â threfniadau contractiol annheg rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr llaeth, a allai yn ei dro helpu i sefydlogi diwydiant llaeth y DU.

Er bod nifer o broseswyr yn cefnogi gwerthoedd y cod llaeth gwirfoddol, roedd y diffyg deddfwriaeth yn golygu bod rhai proseswyr yn parhau i fod â disgwyliadau contractiol annheg a llechwraidd, gan adael ffermwyr llaeth yn hynod o agored i newidiadau yn y farchnad.

Ym Mehefin 2020 cyhoeddwyd ymgynghoriad ar ‘ymarfer contractiol o fewn sector llaeth y DU’ a defnyddiwyd yr ymatebion i hwnnw fel sail ar gyfer Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024.

Trafododd UAC ddrafftiau gwahanol o’r rheoliadau wrth i bwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth a’r Undeb gyflwyno’r safbwyntiau hyn gerbron Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr  DEFRA.

Yn bwysicaf oll, llwyddodd UAC i sicrhau bod y rheoliadau’n berthnasol i bob contract prynu llaeth ledled y DU, gan osgoi’r perygl o greu marchnad dwy haen.

Bellach, mi fydd yn ofynnol i broseswyr adolygu eu contractau dros y deuddeg mis nesaf er mwyn iddyn nhw gydymffurfio â’r rheoliadau hyn, ac mae UAC yn obeithiol y bydd yna sylfaen tecach ar gyfer gwerthu llaeth ledled Prydain o ganlyniad i’r newidiadau hyn.