Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ar 29 Ebrill gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, y bydd dau gynllun cymorth ar gyfer buddsoddi ar ffermydd yn agor yn fuan, gyda dyraniad cyllideb o £20 miliwn.
Serch y pryderon a godwyd gan UAC yn flaenorol y byddai’r cyllid hwn a addawyd yn dod fel cyfran o’r costau cyffredinol amcangyfrifedig i’r diwydiant o dros £360 miliwn, mi fydd y cymorth hirddisgwyliedig hwn yn cael ei groesawu gan lawer yng ngoleuni’r tywydd gwlyb diweddar.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn Uwchgynhadledd Tywydd Eithafol a gynhaliwyd yn ddiweddar, lle galwodd UAC am gyllid brys ar ffurf grant cyfalaf yng ngoleuni’r heriau mae ffermwyr yn eu hwynebu wrth geisio cynyddu eu gallu i storio slyri.
Bydd y grant uchaf a gynigir drwy’r Cynllun Buddsoddi Mewn Maethynnau yn ogystal â’r Cynllun Grantiau Bach - Gorchuddio Iardiau, yn cynyddu i 50%. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn annog ymgeiswyr i ystyried paratoi eu ceisiadau cynllunio ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig cyn gynted â phosibl.
Mi alwodd UAC am lacio’r rheolau a hyblygrwydd mewn perthynas â rhai o ofynion y cynllun. Mae’n galonogol felly bod Taliadau Gwledig Cymru yn barod i ystyried y posibilrwydd o lacio’r rheolau fesul achos, ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster bodloni rhai o ofynion y contract o ganlyniad i’r cyfnodau hir o dywydd gwlyb.
Mae’r datganiad hwn yn enghraifft o gydweithio, lle mae pryderon UAC yn arwain at weithredu di-oed o du Llywodraeth Cymru. Mae UAC yn wirioneddol obeithio y bydd yr ymgysylltu positif hwn yn parhau yng nghyd-destun datblygu polisïau sylfaenol eraill.