Gwasanaeth cynghori wedi’i ariannu ar gael gan Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor arbenigol i wella perfformiad busnes a thechnegol.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer Ffermwyr Cymru

.

Y nod yw sicrhau eich bod yn:

  • elwa o gymorth busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i anghenion eich busnes 
  • pontio’n effeithiol i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
  • lleihau costau drwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o'ch busnes 
  • meincnodi eich perfformiad ac yn gweithio tuag at gynnydd a thwf 
  • nodi meysydd i’w gwella a chanfod atebion i broblemau 

Mae’r cyngor wedi’i ariannu 90% hyd at uchafswm o £3000 ar gyfer pob busnes cymwys, i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol.  Mae Swyddogion Datblygu wrth law i gnorthwyo ffermwyr gyda’r broses ymgeisio. 

Cyngor un i un: Wedi’i ariannu 80% hyd at uchafswm o £1400 am bob achos o gyngor.

Grŵp Gweithredu Busnes: Wedi’i ariannu 90% hyd at uchafswm o £450 i bob aelod o’r grŵp.  Gall rhwng tri ac wyth o fusnesau ymgeisio ar gyfer cyngor fel grŵp.                                                                                                                                                                                                                                                                           

Menter ar y Cyd: Wedi’i ariannu 100% hyd at uchafswm o £1750 i bob aelod o’r grŵp.                                                                                                                                                                                                                                                                                                 

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cael mynediad at y gwasanaeth cynghori fel unigolyn neu fel rhan o grŵp fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.  Dim ond dau achos o gyngor technegol y gall busnes eu cyrchu yn ystod y rhaglen.

Cyn gwneud cais am gyngor cynllunio busnes neu gyngor technegol sydd ar gael fel rhan o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bydd angen ichi:

  • gofrestru gyda Cyswllt Ffermio - bydd angen i bob busnes sy’n gwneud cais ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori fod wedi derbyn e-bost neu lythyr gan Cyswllt Ffermio’n cadarnhau eu bod wedi cofrestru.
  • wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori.

Am fwy o wybodaeth:

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/gwasanaeth-cynghori