Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru yr haf hwn i ddileu BVD. Mae dolur rhydd feirysol buchol (BVD) yn glefyd feirysol sy'n effeithio ar wartheg. Gall arwain at erthylu, anffrwythlondeb, a lloi sydd wedi'u hanffurfio – a gall beryglu iechyd a lles y fuches, yn enwedig y stoc ifanc.
Yn aml, mae buchesi sydd wedi'u heintio â BVD yn gweld mwy o achosion o niwmonia ac o sgwrio mewn lloi.
O 1 Gorffennaf 2024, bydd yn ofynnol i geidwaid gwartheg:
- Sgrinio’u buchesi bob blwyddyn drwy gynnal profion ar nifer bach o wartheg
- Ynysu anifeiliaid sydd â haint parhaus oddi wrth weddill y fuches am weddill eu hoes
- Bydd gan geidwaid gwartheg tan 1 Gorffennaf 2025 i gwblhau eu profion blynyddol ar y fuches.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn dilyn llwyddiant rhaglen sgrinio Gwaredu BVD. Nododd rhaglen Gwaredu BVD fod 27% o ffermydd wedi sgrinio’n positif ar gyfer BVD yn 2018. Yn 2022, roedd hyn wedi gostwng i 23%, sy’n golygu bod 77% o’r ffermydd a brofwyd bellach yn rhydd o BVD.
Mae’r gofynion yn ffurfio rhan o Orchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng cynrychiolwyr y sector gwartheg a Llywodraeth Cymru.