Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024

Mae cyfraith newydd wedi’i phasio ar allforio anifeiliaid byw o Brydain Fawr.

O 22 Gorffennaf 2024, mae’n drosedd allforio da byw a cheffylau i’w lladd a’u pesgi o Brydain Fawr.  Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 yn gwahardd allforio gwartheg, defaid, moch, geifr a cheffylau i’w pesgi a’u lladd o Brydain Fawr.

Mae’n berthnasol ar gyfer siwrneiau i, a siwrneiau drwy Brydain Fawr i gyrchfannau y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw.  Mae’r ddeddfwriaeth yn atal anifeiliaid rhag dioddef straen, gorludded ac anafiadau ar siwrneiau allforio hir a diangen ac mae hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd yn eu gwlad gartref, mewn lladd-dai o fewn y DU sydd â safonau lles uchel.

Caniateir allforio anifeiliaid byw at ddibenion eraill o hyd, er enghraifft, bridio a chystadlaethau, cyn belled â bod yr anifeiliaid yn cael eu cludo yn unol â gofynion cyfreithiol sy’n gwarched eu lles.  Nid yw’r gwaharddiad yn berthnasol ar gyfer allforio anifeiliaid byw eraill, megis dofednod, ac nid yw’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.  Nid yw’r ddeddfwriaeth yn effeithio ar symudiadau da byw a cheffylau o fewn y DU.