Gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir
Braint ac anrhydedd yw cael rhannu ychydig o newyddion da, a hynny am un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru. Er bod Eisteddfod Ceredigion wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd coronofeirws, cyhoeddodd Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ddiweddar ei bod nhw am anrhydeddu Glyn Powell, Pontsenni, un o aelodau oes yr Undeb gyda’r Wisg Las yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2021 yn Nhregaron.
Yn draddodiadol, mae’r Wisg Las yn cael ei chyflwyno i’r rhai sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro/neu genedl, ac heb os nac oni bai, mae Glyn yn llwyr haeddiannol o’r anrhydedd yma. Ond sut mae mynd ati i ddisgrifio cyfraniad oes Glyn mewn ychydig eiriau? Ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl - mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd, a hynny wrth gwrs heb sôn am ei gyfraniad amhrisiadwy a ffyddlon i Undeb Amaethwyr Cymru.
I ddweud ychydig mwy o hanes Glyn ac i estyn ei longyfarchiadau personol, dyma ein Llywydd Glyn Roberts: “Fel Llywydd mae llawer o bethau y byddaf yn mwynhau ei gwneud, ac i fod yn onest, weithiau mae pethau pur anodd i’w gwneud. Ond pleser pur yw cael llongyfarch Glyn Powell ar dderbyn y wisg las fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i’w ardal ac i Gymru, ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod Tregaron y flwyddyn nesaf i’w weld yn cael ei dderbyn i urdd derwydd, y wisg las, gwasanaeth i’w Genedl yng ngorsedd Cymru.
“Mab i fugail ar stad Cnewr gyfagos oedd ei dad, a’i fam o’r Epynt. Er i Glyn ddringo i lefel uchel yn y byd addysg drwy fod yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Aberhonddu, (gobeithio bod astudio ym mhrifysgol yn y gogledd wedi cael dylanwad arno!), ni anghofiodd ei wreiddiau, gan iddo fod yn weithgar iawn gyda phob peth yn ymwneud a’r Epynt, a brwydrodd i arbed boddi Cwm Seni. Mae wedi bod, ac yn dal yn gymwynaswr mawr i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
“Fel llysgennad i’r byd amaeth rwy’n sicr fod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Y Tir yn adnabod Glyn, gan iddo fod yn Is Lywydd i ni fel Undeb rhwng 1995 a 2000, ac yna’n ddirprwy o 2000 i 2002. Yn ystod y cyfnod yma un o’i heriau mwyaf oedd yng nghyfnod y Clwy Traed a’r Genau. Pleser oedd clywed Glyn yn trin a thrafod materion dybryd y byd amaeth ar y cyfryngau, drwy godi safon y drafodaeth ac ymwybyddiaeth o’r byd amaeth i lefel uchel iawn.
“Un o’r troeon cyntaf i mi glywed Glyn yn siarad yn gyhoeddus oedd yng Nghyngor yr Undeb ym 1995 pan gafodd ei ethol yn Is lywydd. Roedd rhywbeth yn urddasol yn y ffordd y cododd o’i set i’n hannerch a pharhaodd yr urddas hynny nes iddo eistedd ar ddiwedd ei anerchiad. Cawsom araith i’w chofio gan orffen drwy ddyfynu Saunders Lewis “Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad: I’w thraddodi i’m plant: Ac i blant fy mhlant: Yn dreftadaeth dragwyddol”, hawdd iawn dyfynu darn gyda cymaint o arddeliad, peth arall yw gwireddu’r weledigaeth, ond dyna wnaeth Glyn, drwy sicrhau dyfodol i Gwm Senni ac hefyd gosod ei fferm i berson ifanc.
“Fel mae’r llyfr Mawr yn dweud “yn ôl ei ffrwythau yr adnabyddir hwynt”. Llongyfarchiadau Glyn, rydych yn llwyr haeddu’r anrhydedd.”
Trwy gymorth ei ferch Bethan, cefais gyfle i holi i Glyn shwt deimlad yw derbyn anrhydedd y wisg las: “Mae'n braf cael bod mewn cwmni anrhydeddus yn y wisg las gyda Bob Parry, Emyr Jones a Glyn Roberts. Mae’r anrhydedd hon yn deyrnged i gefnogaeth cyfeillion a chymunedau fu’n gymorth ac yn gefn i mi dros y blynyddoedd.”
Pan ddechreuais weithio i’r Undeb bron iawn deunaw mlynedd yn ôl, Glyn Powell oedd un o’r pobl gyntaf i fi gyfarfod, yn y Brif Swyddfa yn Aberystwyth. Roeddwn yn ymwybodol o’i gyfraniad helaeth, a’i wasanaeth i’w ardal leol ac yn genedlaethol, ac felly roedd hi’n hyfryd iawn cael cwrdd a’r dyn ei hun.
Ymgyrchodd i wrthwynebu defnyddio mynydd Epynt fel safle difa yn ystod cyfnod heriol Clwy’r Traed a’r Genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad o’i foddi er mwyn cyflewni dŵr i Gaerdydd, arweiniodd Glyn y ffordd, fel Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Cwm Senni, brwydr a barodd o 1963 i 1972. Mae’n hawdd iawn gweld sut oedd yn llwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned oherwydd mae pobl yn bwysig iddo, ac yn rhoi’r un barch i bawb sydd yn ei gwmni.
Rwy’n siwr y cytunwch bod hynny’n cael ei adleisio yn ei eiriau uchod, wrth iddo ddiolch i bawb arall. Felly dyma’r diolch ni i chi Glyn. Ychydig sy’n gwybod effallai bod Glyn, yn dawel bach, yn parhau i gadw cysylltiad agos gyda beth sy’n digwydd o fewn yr Undeb. Yn bersonol rwy’n gwybod ei fod yn codi’r ffôn i gael sgwrs ac i drosglwyddo canmoliaeth am gynnwys Y Tir, ac mae ei eiriau a’i annogaeth yn mynd ymhell ac yn rhoi hyder i ni gario ymlaen i wneud yr hyn allwn ni er mwyn sicrhau bod yr Undeb yn mynd o nerth i nerth.
Felly, yn syml iawn, ar ran pawb yn Undeb Amaethwyr Cymru, diolch i chi Glyn.