Cydblethu amaethu a chanu yn berffaith

 

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Sgen di dalent?! Canu, adrodd, actio? Nid wyf yn cyfri’n hunan yn berson talentog iawn, rhyw botsian mewn sawl peth a ddim yn arbenigo mewn dim byd penodol! Er fy mod wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth o bob math, allai ddim canu nodyn i achub fy nghroen! Pleser felly yw cael ymfalchïo yn nhalentau eraill, a dyma’n union beth sy’n cael ei ddathlu mewn llyfr newydd sbon, O’r Gwlân i’r Gân sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

Dyma i chi hanes y ffermwr Aled Wyn Davies, neu Aled Pentremawr fel mae’n cael ei adnabod. Er mae dyn ei filltir sgwâr yn Llanbrynmair yw Aled, mae wedi cael cyfle i deithio’r byd, diolch i’w dalent fel canwr.

Yr hyn sy’n amlwg iawn trwy’r hunangofiant yw’r ffordd mae ffermio a chanu wedi cydblethu’n berffaith drwy’r amser.  Chwaraeodd Mudiad y Ffermwyr Ifanc rôl bwysig yn nyddiau cynnar Aled fel canwr wrth iddo gystadlu mewn amryw o gystadlaethau cerddorol, yn ogystal â’r rhai doniol hefyd - y sgets, y ddeuawd ddoniol a’r meim i gerddoriaeth.

Cawn wybod mwy am sut ddatblygodd yr ochr canu a arweiniodd at ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn 2006. Ond er bod talent canu Aled wedi mynd ag ef ar deithiau lu ar draws y byd, roedd y fferm, amaethu a’i filltir sgwâr yn ormod o dynfa nôl, a dewisodd aros adref i ffermio, yn hytrach na mentro fel canwr llawn-amser, a hynny diolch i’r ysbrydoliaeth a gafodd o bapur newydd Ninnau yng Ngogledd America, hanes difyr iawn!

Mae hanes teulu Pentremawr, sydd wedi bod yn aelodau o’r Undeb ers dechrau’r 1960au, a’r ochr amaethyddol yr un mor bwysig a diddorol a’r canu.

Cyfeiriodd Cornel Clecs mis Medi eleni at Frianne, ac aberth teuluoedd amaethyddol yr ardal i adael eu ffermydd er mwyn adeiladu cronfa ddŵr. Dyma’n union beth ddigwyddodd i deulu Aled, wrth i’r teulu orfod gadael Aberbiga, fferm a foddwyd er mwyn adeiladu cronfa ddŵr Clywedog yn 1964-67.

Er bod y teulu wedi byw yno am bron chwarter canrif, doedd dim dewis ganddynt ond gadael, er bod y trigolion lleol wedi ymgyrchu’n chwyrn i rwystro’r argae. Ofer fu’r ymdrechion a chaewyd drws tŷ Aberbiga am y tro diwethaf yn 1964 ynghyd a nifer o ffermdai arall.

Symudodd y teulu i Bentremawr, a dyma sylfaen angerdd Aled at ffermio a chefn gwlad Cymru. Ynghyd a’i dalent cerddorol, mae Aled hefyd yn gneifiwr o fri, ac mae’n rhannu ei brofiadau difyr yn y maes. Cawn fwynhau’r daith o’r sioe leol yn Llanbrynmair i ddarganfod ei ochr gystadleuol ac ymlaen i ennill gwobr goffa ei ffrind Huw Harding yn y Sioe Frenhinol.

Mae yna elfen gref arall i fywyd Aled, yr un bwysicaf oll.  Cawn fewnwelediad manwl i fywyd teuluol Aled, o’i fagwraeth hapus ef a’i chwaer ar aelwyd Pentremawr, i’w deulu bach ef nawr, sef ei wraig Karina, a’r plant Aria ac Aron. Daw’n amlwg iawn pa mor bwysig yw teulu, a hyd yn oed wrth weld holl atyniadau’r byd, wedi pythefnos i ffwrdd, mae Aled yn cyfaddef bod yr hiraeth am adre a’r teulu’n ormod - ‘Yma wyf inna’ i fod.

Ond pam dewis nawr i roi’r cyfan lawr ar bapur? Dyma Aled i egluro mwy, ac am ei angerdd tuag at ei filltir sgwar:

“Mae’n deimlad arbennig cael dweud fy stori mewn cyfrol fel hon - rhywbeth na feddyliais i fyth y bydden i’n ei wneud yn 46 blwydd oed - ond wedi blynyddoedd o gystadlu mewn gwahanol feysydd a chael profiadau lu wrth deithio’r byd, roedd o’n amser delfrydol i gofnodi f’atgofion cyn i mi eu hanghofio!

“Mae fy nghalon wedi bod yma ym myd amaeth yng nghanolbarth Cymru erioed, a bydde angen rhywbeth go fawr i’m denu i fyw mewn dinas brysur, ymhell o harddwch a mwynder Maldwyn. Dwi’n caru’r ffaith fy mod yn gallu cyfuno’r canu a’r ffarmio a chael cydbwysedd rhwng y ddau gyfrwng.”

Mae O’r Gwlân i’r Gân yn gyfrol 268 tudalen llawn hwyl a hiwmor, ac mae’n sicr y bydd pawb sy’n ei darllen yn gallu uniaethu gyda sawl stori fach wahanol! Mae iaith ac arddull gartrefol Aled yn ennyn y diddordeb, ac mae’n gyfrol ddelfrydol i’w darllen o flaen y tan gyda phaned o de, bargen am £12.99.