Y caredigrwydd ysbrydoledig

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

A dyma ni! Wedi cyrraedd Cornel Clecs diwethaf 2022! Lle aeth y flwyddyn dywedwch?! Ar ddiwedd blwyddyn ddigon heriol arall mae’n braf gallu dod a’r flwyddyn i ben ar nodyn calonogol a phositif. Ynghanol yr holl helbul sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn wleidyddol ac economaidd, dewch i ni gael ystyried y pethau pwysig sy’n cael eu hanghofio weithiau, sef caredigrwydd pobl, a’r rhai hynny sy’n meddwl am eraill.

Mae’n siŵr bod y mwyafrif ohonoch yn cofio Mr Emyr O Roberts a fu’n gweithio fel swyddog rhanbarthol UAC yn Ne Ddwyrain Sir Ddinbych o 1990 hyd nes 2003. Ond nid dyna gychwyn ei gysylltiad gyda’r Undeb. Bu ei diweddar dad yn aelod brwdfrydig am flynyddoedd maith, ac Emyr hefyd yn aelod ffyddlon o gangen Sir Ddinbych a Fflint. Yn ddiddorol iawn, mae’n cofio eilio cynnig gan Mr Tom Jones Cwm Nant yr Eira ynglŷn â dyfodol y fferm deuluol mewn cyfarfod blynyddol rywbryd o bosibl ar ddiwedd y chwedegau, rhywbeth sydd wrth gwrs mor berthnasol i ni heddiw.

Ond daeth yr amser i feddwl am ymddeol yn gyfan gwbl yn 2015 ar ôl gweithio ym myd amaeth am 50 mlynedd, gan gynnwys y cyfnod ar y fferm gartref. Ar ôl cadw defaid ar hyd ei oes, a mwynhau llwyddiant nodedig mewn sioeau, arweiniodd llwyddant y ddiadell at weithred arbennig iawn er budd elusen sy’n agos iawn at galon Emyr. Dyma ychydig o’r hanes ganddo: “Rwyf wedi bod ynglŷn â defaid ar hyd fy oes, a chadw defaid Wensleydale Longwool am gyfnod ac yn weddol lwyddiannus mewn sioeau, ond yn 1998, cymerodd y brid Charmoise fy sylw.  

“Sefydlwyd y ddiadell ‘BONT’ yn 1999, ac mae’r gweddill yn hanes. Yn y flwyddyn 2000 enillais dair pencampwriaeth brid, un is-bencampwriaeth a phencampwriaeth rhyngfrid mewn pedair sioe mewn 8 diwrnod gyda’r Wensleydale a Charmoise. Roedd hyn yn bosibl cyn cyfyngiadau yn dilyn y clwy’r traed a’r genau wrth gwrs!

“Yna, sefydlwyd diadell ‘FAMAU’ o ddefaid Charmoise yn 2010 pan brynodd ffrind, y ddiweddar Jane Walsh, hanner siâr mewn pedair dafad wrth i mi werthu’r defaid magu o’r ddiadell a chadw’r wyn benyw yn unig.    Yn ystod y blynyddoedd diweddar, cymerodd fy mhartner, Tracy Salisbury, hanner siâr yn y ddiadell yma. Yn 2010 enillais bencampwriaeth adran Charmoise yn y Sioe Frenhinol am y tro cyntaf a dilynais hyn trwy ennill y bencampwriaeth yn  2011, 2012, 2013, 2015 a 2017. Enillodd un ddafad y bencampwriaeth yn 2010, 2011 a 2013 - cyn belled ag yr wyf yn ymwybodol nid oes unrhyw anifail arall wedi gwneud hyn o fewn y brid.

“Yn Hydref 2020 fe wnaethom benderfynu gwerthu’r mamogiaid cyfeb ym marchnad Rhuthun ym mis Ionawr 2021 a rhannu 10% o elw’r arwerthiant rhwng y DPJ Foundation a Cancer Research UK, elusen sydd yn golygu llawer i ni ein dau gan ein bod fel llawer o rai eraill wedi colli anwyliaid i gancr. Y pris uchaf ar y diwrnod oedd 1750 gini (£1,837.50) gyda Mr David Trow o Landinam ger y Drenewydd, a fu yn ysgrifennydd y brid am 16 mlynedd yn prynu, a hyd yn hyn dyma’r pris uchaf sydd wedi ei dalu am ddafad Charmoise drwy ocsiwn. Derbyniodd y ddwy elusen £600 yr un wedi’r arwerthiant.

“Ym mis Ionawr 2022, gwerthwyd y 5 dafad oedd yn weddill ym marchnad Rhuthun, ac fe wnaethom benderfynu fod elusen cancr i elwa eto gyda 10% o bris gwerthiant y pedair dafad gyntaf i’w gyflwyno i’r elusen ynghyd a holl bris gwerthiant y ddafad olaf o’r ddiadell.  Roedd y ddafad yma yn dipyn o ffefryn am ei bod wedi cael amser digon anodd pan yn oen bach gan i’w mam fod yn wael iawn, ac fe’i magwyd yn rhannol ar botel. Ar ôl tipyn o gynnig cystadleuol fe’i gwerthwyd am 1450gini (£1,522.50) i Mr David Trow ynghyd a dwy arall hefyd.  

“Ar ôl arwerthiant oedd reit emosiynol ar adegau, roedd yn gymorth mawr cael hen ffrindiau yn dod atom i’n llongyfarch ar arwerthiant gwych ac yn dymuno yn dda i ni i’r dyfodol.

“Cyflwynodd Cwmni Arwerthwyr Rhuthun comisiwn ar y ddafad olaf i’r elusen hefyd a phleser oedd cael cyflwyno siec am £1,808.29 i Ms Nadine Isaacs, cydlynydd lleol Gogledd Cymru Cancer Research UK ym marchnad Rhuthun.”

Ond nid dyna ddiwedd y stori, mae’r ysbryd cymunedol yn parhau gan fod yna ddefnydd arbennig iawn bellach yn cael ei wneud o’r cae, lle bu’r defaid yn pori.  

“Wedi gwerthu’r defaid rydym wedi newid cyfeiriad,” esbonia Emyr “ac wedi troi’r cae bach lle fyddai’r defaid yn pori yn randiroedd ar gyfer garddwyr lleol. Mae’n bleser gweld y cae yn fwrlwm o weithgaredd unwaith eto, er yn wahanol iawn i’r nifer o flynyddoedd y byddai’r defaid yn dwyn y sylw.”

Am hanes hyfryd ac ysbrydoledig a pob hwyl i’r ddau yn y dyfodol ac mae’n hyfryd clywed bod y cae yn parhau i roi mwynhad i eraill.  

Cyn cloi, dymunaf Nadolig Llawen a dedwydd iawn i chi a’ch teuluoedd i gyd.  Diolch am eich cefnogaeth ac am fod yn ddarllenwyr ffyddlon unwaith eto. Welai chi gyd yn 2023, a chofiwch gysylltu os fydd gyda chi unrhyw stori neu hanesyn a fydd o ddiddordeb i Gornel Clecs - byddai’n braf iawn clywed wrthych.