gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Blwyddyn Newydd Dda, a chroeso i golofn gyntaf Cornel Clecs yn 2023 - gobeithio wir y bydd pob un ohonom yn cael blwyddyn lawn o iechyd da, llwyddiant a hapusrwydd.
Edrychwn ymlaen gyda brwdfrydedd am galendr llawn o ddigwyddiadau unwaith eto eleni, a braf oedd cael y rhan fwyaf o’n prif ddigwyddiadau yn ôl i’w harfer llynedd. Roedd ein holl fudiadau cenedlaethol yn awchu am ddychwelyd i’r drefn arferol a gallu trefnu digwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau unwaith eto, ac roedd mudiad y CFfI yn enghraifft berffaith o hyn wrth sicrhau bod pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn medru cymdeithasu a chystadlu unwaith eto.
Un o gyfleoedd mwyaf gwerthfawr y CFfI yw’r Cynllun Pesgi Moch Menter Moch Cymru. Mae’r fenter, sy’n anelu at ddatblygu’r sector moch yng Nghymru, yn brosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ac yn ymuno â CFfI Cymru i ddarparu cyfle unigryw a chyffrous i’w aelodau fagu profiad o gadw moch, ynghyd â chyfle i ddatblygu menter newydd.
Roedd y cynllun, sy’n agored i aelodau CFfI ledled Cymru, wedi dechrau ym mis Gorffennaf 2022, pan ddewiswyd chwe enillydd, sef Rebecca John o Sir Benfro (CFfI Abergwaun); Carys Jones o Sir Gaerfyrddin (CFfI Llangadog); Jack a Rhys Morgan o Abertawe (CFfI Gŵyr), Frances Thomas o Aberhonddu (CFfI Pontsenni), a Leah ac Alis Davies o Sir Ddinbych (CFfI Nantglyn).
Derbyniodd pawb pum porchell i fagu a rhaglenni hyfforddi pwrpasol a ddyfeisiwyd gan Fenter Moch Cymru i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i sefydlu a rheoli eu mentrau moch newydd. Roedd yr hyfforddiant yn cwmpasu pob agwedd o fagu moch, o hwsmonaeth, deddfwriaeth, a maeth, i helpu gyda marchnata eu porc - ynghyd â chymorth mentoriaid parhaus trwy Menter Moch Cymru.
Ar ôl wythnosau o ofalu, magu a pharatoi’r moch, cyhoeddwyd yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd mai Rebecca John o Sir Benfro oedd enillydd y gystadleuaeth, ac mae Cornel Clecs yn falch iawn dweud bod Rebecca’n aelod ifanc o gangen UAC Sir Benfro. Ar ôl prysurdeb y Ffair Aeaf, cafwyd cyfle i sgwrsio gyda Rebecca am ei phrofiad a’i llwyddiant diweddar.
“Mwynheais yn fawr ac rwyf mor ddiolchgar o fod yn rhan o Gynllun Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2022,” dywedodd Rebecca. “Yn dod o gefndir llaeth a heb unrhyw brofiad gyda moch yn flaenorol, mae’r rhaglen wedi bod yn agoriad llygad go iawn.
O’r dechrau i’r diwedd roedd y rhaglen yn llawn sesiynau ar-lein defnyddiol ar amrywiaeth o bynciau wedi’u cyflwyno gan bobl wybodus o fewn y diwydiant moch. Yn ogystal â’r sesiynau ar-lein, cawsom ymweliad â fferm Mr Dave Lang yn Llanelwedd. Roedd yn wych gallu gweld cenfaint Mr Lang o foch Du Mawr pedigri a dysgu am ei fenter moch. Mae’r fenter wedi dysgu cymaint i mi am fagu a dangos moch, a gwerthu’r porc. Mae cael y profiad o werthu fy mhorc fy hun a chael adborth cadarnhaol iawn gan gwsmeriaid wedi bod yn werth chweil.”
Ar ôl yr holl waith caled, sut deimlad oedd ennill?
“Roedd dangos y moch yn Ffair Aeaf CAFC yn uchafbwynt gwych i mi, a’r goron ar y cyfan oedd clywed mai fi oedd enillydd y gystadleuaeth!” eglurodd Rebecca. “Cefais sioc pan glywais mai fi oedd yr enillydd gan fy mod yn teimlo y gallai unrhyw un ohonom ennill gan ein bod i gyd wedi gwneud gwaith gwych yn magu’r moch ar amrywiaeth o systemau gwahanol.
“Mae’r gystadleuaeth wedi rhoi’r hyder i mi weithio gyda moch ac wedi fy annog i gadw mwy o foch ar y fferm yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Menter Moch Cymru a CFfI Cymru am y cyfle gwych hwn! Diolch hefyd i bawb sydd wedi fy helpu gyda’r moch ac wedi prynu’r porc wrthai. Da iawn pawb arall oedd yn rhan o’r fenter, roedd eich moch i gyd yn wych!”
Mae cangen UAC Sir Benfro yn hynod o falch o lwyddiant diweddar Rebecca, ac ar eu rhan dywedodd y Swyddog Gweithredol Sirol Rebecca Voyle: “Hoffem longyfarch Rebecca ar ei llwyddiant yng Nghystadleuaeth Menter Moch yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, mae’n ysbrydoliaeth gweld ffermwr ifanc o Sir Benfro yn mentro i brosiectau newydd.”
Llongyfarchiadau enfawr i Rebecca, ac am fanteisio ar gyfle sydd, nid yn unig wedi rhoi profiadau newydd iddi, ond hefyd wedi arwain at lwyddiant a’r hyder i barhau gyda’r fenter newydd yn y dyfodol.
Stori wych yn llawn brwdfrydedd ar ddechrau blwyddyn newydd, mae’n argoeli’n dda am 2023!