TEITL SWYDD
Swyddog y Senedd a Materion Seneddol (Cyfnod Mamolaeth) - Undeb Amaethwyr Cymru
CYFLOG
£25,000 - £29,000
CYFFREDINOL
Bydd Swyddog y Senedd a Materion Seneddol yn gweithio o gartref a/neu o un o swyddfeydd UAC ledled Cymru, ond bydd, lle bo hynny’n ymarferol ac yn angenrheidiol, yn mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb â staff eraill UAC neu gyrff ac unigolion allanol. Bydd disgwyl i Swyddog y Senedd a Materion Seneddol fod ar gael ac i weithio’n agos at y Senedd pan fydd y Senedd yn eistedd.
Rhagwelir y bydd rôl Swyddog y Senedd a Materion Seneddol yn cynnwys 0.6 FTE o ymgysylltu gwleidyddol a 0.4 FTE tasgau polisi ar gyfartaledd. Fodd bynnag, bydd angen i'r ymrwymiadau hyn amrywio'n sylweddol yn seiliedig ar ddigwyddiadau gwleidyddol a gofynion polisi.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Gweithredu cynllun materion cyhoeddus UAC a fydd yn cynnwys;
- Datblygu cysylltiadau â rhanddeiliaid gwleidyddol gan gynnwys gwleidyddion, staff cymorth, swyddogion, clercod pwyllgorau, gweision sifil a chynrychiolwyr sefydliadau eraill sy’n gweithio o fewn meysydd o ddiddordeb i UAC.
- Monitro gweithgarwch gwleidyddol a pholisi.
- Rhoi diweddariadau gwleidyddol ysgrifenedig a llafar i staff a swyddogion UAC, gan gynnwys canllawiau ar newidiadau polisi sydd ar ddod, deddfwriaeth ac ymchwiliadau sy’n berthnasol i amaethyddiaeth yng Nghymru, boed yng Nghaerdydd neu yn San Steffan.
- Cynhyrchu briffiau ar gyfer rhanddeiliaid gwleidyddol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y tîm polisi.
- Gweithio gyda’r swyddogion etholedig a thimau polisi a chyfathrebu ar ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd amserol ac effeithiol a fydd yn dylanwadu ar randdeiliaid etholedig yng Nghymru a San Steffan.
- Mapio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Trefnu cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill.
- Paratoi sesiynau briffio ar gyfer cynrychiolwyr UAC cyn cyfarfodydd.
- Cynrychioli UAC yn ôl yr angen.
- Cynnal ymchwil a briffio yn ôl yr angen.
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwleidyddol a pholisi.
- Darparu adroddiadau rheolaidd i'r Prif Weithredwr ar gynnydd yn erbyn y cynllun materion cyhoeddus
- Gweithio’n agos gyda Thîm Llywyddol yr Undeb i fynychu a chynrychioli UAC mewn cyfarfodydd gwleidyddol.
- I arwain a chynghori ar faterion sy'n ymwneud â pholisi yn seiliedig ar ddiddordebau ac fel sy'n ofynnol gan yr Adran Bolisi.
- Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr a bydd yn cynnwys unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a roddir gan eich rheolwr llinell.
Cyffredinol
Cynorthwyo i gefnogi gwaith Pwyllgorau Sefydlog Cyngor yr Undeb a phwyllgorau eraill a drefnwyd yn ôl yr angen i ymdrin â materion yn ymwneud â pholisi amaethyddol.
Cymryd rhan yng ngweithgareddau cyffredinol UAC.
Dyletswyddau ychwanegol a all fod yn ofynnol o bryd i'w gilydd gan yr Adran Polisi Amaethyddol.
Manyldeb Bersonol
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar;
- Dealltwriaeth fanwl o'r cyd-destun polisi a gwleidyddol yr ydym yn gweithredu ynddo.
- Dealltwriaeth dda o'r ffordd y mae gweithdrefnau’r llywodraeth a Senedd yn gweithio.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog gan gynnwys y gallu i ysgrifennu adroddiadau, ac i ysgrifennu copi ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd mewn amrywiaeth o fformatau.
- Lefel uchel o hunan-gymhelliant a sgiliau trefnu.
- Arddangos sgiliau gofal cwsmer effeithiol.
- Cydnabod a rhoi ystyriaeth i gadw cyfrinachedd.
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu i weithio ar flaengaredd eich hun ac i gwrdd ag amserlenni penodol a blaenoriaethu rhai ffrydiau gwaith a chyflawni dan bwysau.
- Parodrwydd i ddatblygu fel unigolyn trwy fynychu cyrsiau, cyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai a seminarau. Bydd gweithgaredd o'r fath yn helpu i ddatblygu'r ymgeisydd ac i wasanaethu'r sefydliad yn well.
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond darperir cefnogaeth i ymgeisydd addas sy'n dymuno gwella ei allu yn y Gymraeg.
AMODAU GWASANAETH
Telir y cyflog yn fisol.
Yr oriau gwaith arferol yw 35 awr yr wythnos - 9.00yb i 5.00yp, gydag 1 awr i ginio - ond efallai y bydd angen gweithio oriau ychwanegol o bryd i'w gilydd.
(Mae'r adran yn cynnig oriau gwaith hyblyg o fewn rheolau llym)
Rhoddir 25 diwrnod o wyliau blynyddol, heb gynnwys Gwyliau Cyhoeddus. Bydd gwyliau blynyddol yn cael eu tynnu yn ystod cyfnod cau'r Cwmni dros y Nadolig sy’n gyfartal at uchafswm o 3 diwrnod. Mae Grŵp UAC hefyd yn rhoi Dydd Gŵyl Dewi fel gwyliau ychwanegol.
Mae bod yn berchen ar gar a thrwydded yrru neu'r gallu i deithio o amgylch Cymru heb ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd treuliau ar gyfer teithiau a wneir ar fusnes UAC yn cael eu had-dalu ar gyfraddau y cytunwyd arnynt ar ôl cyflwyno derbynebau boddhaol yn unol â’n polisi treuliau.
YN ADRODD I
Bydd Swyddog y Senedd a Materion Seneddol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Pennaeth Polisi
I YMGEISIO
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Phrif Swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru ar
Anfonwch lythyr eglurhaol a chopi o’ch CV i Gareth Parry, Pennaeth Polisi:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14/03/2025