UAC yn amlygu materion difrifol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir

Amlygodd a thrafododd Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd y materion mwyaf difrifol sy’n effeithio ar y diwydiant amaethyddol trwy gyfres o weminarau yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Roedd wythnos diwethaf yn un prysur i dîm UAC ac roedd gennym ni bresenoldeb gwych yn Sioe Frenhinol Cymru rithwir. Fe wnaethom gynnal amrywiaeth o weminarau yn amrywio o'r argyfwng tai gwledig, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, cysylltedd digidol a diogelwch fferm - cyffyrddodd pob un ohonynt â materion hanfodol bwysig i'n diwydiant.

“Os nad oeddech yn gallu ymuno â nhw yn ystod wythnos y sioe, maent ar gael i chi eu gwylio yn adran aelodau gwefan UAC ac wrth gwrs tudalennau digwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru. Hoffwn ddiolch i'n holl siaradwyr am eu cyfraniadau gwych ac wrth gwrs hefyd Sioe Frenhinol Cymru am ddarparu'r platfform fel y gallem, er gwaethaf popeth, barhau i ddod â sioe rithwir i bawb.” 

Yn ogystal â'r gweminarau, lansiodd yr Undeb hefyd declyn lobïo trwy ei gwefan, sy’n caniatáu i aelodau a'r cyhoedd ysgrifennu at eu cynrychiolwyr etholedig i dynnu sylw at eu pryderon dybryd am y Cytundeb Fasnach Rydd ag Awstralia.

Ar ddechrau'r wythnos sioe rithwir, canolbwyntiodd UAC ar yr argyfwng tai gwledig a chlywodd y weminar, a gadeiriwyd gan Brif Ohebydd y Farmers Guardian Abi Kay, gan AS Cymbria a chyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron; Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a chyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC Dyfrig Siencyn ac arweinydd Cyngor Tref Nefyn ac ymgyrchydd Hawl i Fyw Adra Rhys Tudur. 

“Mae cymunedau gwledig ledled y DU wedi bod dan bwysau oherwydd perchnogaeth ail gartref ac effeithiau cysylltiedig ers degawdau, yn enwedig mewn ardaloedd poblogaidd fel Parciau Cenedlaethol, ond mae'r pandemig wedi cyflymu'r duedd, gan achosi chwyddiant cyflym mewn prisiau tai a gosod tai gwledig hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i gyrraedd ariannol cymunedau gwledig ac amaethyddol.  Ymchwiliodd ein siaradwyr yn llawer dyfnach i'r pwnc ac os nad oeddech yn gallu ymuno â ni ar y diwrnod gallwch ddal i fyny â nhw trwy'r wefan,”  meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts. 

Mae’r weminar ‘Mynd i’r afael a’r argyfwng Tai Gwledig’ ar gael i’w wylio eto yma:

https://royalwelsh.digital/mynd-ir-afael-ar-argyfwng-tai-gwledig/?lang=cy 

Gan fynd i’r afael â phryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu bwyd, trafododd panel o arbenigwyr ‘Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd’.  Clywodd y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Ddirprwy Lywydd UAC, Ian Rickman, gan Bennaeth Polisi UAC Dr Nick Fenwick a aeth i'r afael â'r mater o leihau nifer y da byw a phlannu coed yng Nghymru; Laura Ryan o'r Gynghrair Cig Byd-eang a aeth i'r afael â chig byd-eang a sgwrs yr Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig; siaradodd Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas Hybu Cig Cymru, John Richards ynglŷn â rôl ffermio da byw i wella bioamrywiaeth a chynefinoedd yn gadarnhaol wrth ddarparu bwyd cynaliadwy, maethlon; rhoddodd Prif Weithredwr Dairy UK, Dr Judith Bryans gyflwyniad ar bersbectif llaeth byd-eang a thrafododd Llywydd UAC Glyn Roberts a'i ferch Beca Glyn newid yn yr hinsawdd a ffermio gyda'r amgylchedd mewn golwg o safbwynt llawr gwlad.

Dywedodd Dirprwy Lywydd UAC Ian Rickman: “Yn y weminar yma, parhasom ni a’r sgwrs ynglŷn â chynhyrchu bwyd a newid yn yr hinsawdd, gan godi ymwybyddiaeth ymysg defnyddwyr a ffermwyr am y materion sy'n wynebu'r diwydiant yn y cyd-destun hwn. Diolch i’r panel am eu cyfraniadau gwych, ac os nad oedd modd i chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad, cofiwch ei fod ar gael ar-lein.”

Mae’r weminar ‘Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd’ ar gael i’w wylio eto yma: 

https://royalwelsh.digital/cadwyni-cyflenwi-bwyd-a-chynhyrchu-rhagolwg-byd-eang-gyda-strategaeth-leol-beth-mae-covid-19-wedii-ddysgu-inni/?lang=cy 

Yn ystod wythnos y sioe rithwir, a oedd yn cyd-ddigwydd ag Wythnos Diogelwch Fferm, rhoddwyd sylw hefyd i ddiogelwch ar ffermydd a sut y gall ffermwyr amddiffyn eu hunain a'u busnes mewn gweminar, a gynhaliwyd gan Wasanaethau Yswiriant FUW Ltd.

Ymhlith y prif siaradwyr ar y diwrnod oedd Tony Succamore, Cyfarwyddwr Gwerthu a Gweithrediadau, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd; Georgina Davis, Rheolwr Datblygu Busnes (Canolbarth Lloegr), British Engineering Services; cynrychiolydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Christopher Maher ac arbenigwr a hyfforddwr diogelwch fferm, Brian Rees. 

Mae’r weminar ‘Amddiffyn eich busnes, Amddiffyn eich teulu - canolbwyntio ar ddiogelwch fferm’ ar gael i’w wylio eto yma:

https://royalwelsh.digital/protect-your-business-protect-your-family-farm-safety-under-the-spotlight/ 

Glynodd UAC hefyd wrth ei hymrwymiad i gadw'r sylw ar faterion iechyd meddwl cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig. Wrth agosáu at y bumed flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i dorri'r stigma, gwnaethom ofyn - sut wyt ti?

Ynghyd â'r elusennau ffermio blaenllaw yng Nghymru, edrychon ni ar yr hyn sydd wedi newid, pa mor bell yr ydym wedi dod a pha faterion sy'n parhau. Yn dwyn y teitl ‘Iechyd Meddwl - sut wyt ti?’, ymunodd cynrychiolwyr o’r DPJ Foundation, y Rhwydwaith Cymuned Ffermio, Tir Dewi a'r Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol gyda UAC.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts, a gadeiriodd y digwyddiad: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer ohonom. Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi gweld llawer ohonom yn cael ein gwahanu oddi wrth ffrindiau, teulu ac anwyliaid. Ychwanegodd straen bywyd bob dydd, cynnal busnes fferm a dysgu plant gartref at y pwysau.

“Yn ychwanegol at hynny mae’n rhaid i’r gymuned ffermio ymdopi â’r rheoliadau Llygredd Amaethyddol newydd, TB, ansicrwydd ynglŷn â chytundebau masnach ac edrych ar newidiadau mawr i’r polisi ffermio. Mae’n deg dweud ein bod yn wynebu’r storm berffaith.

“Gyda hyn i gyd yn digwydd, rydym unwaith eto yn ymuno â’n helusennau i drafod sut maen nhw wedi gallu helpu dros y 12 mis diwethaf, pa help sydd ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl ac archwilio’r hyn rydyn ni ein hunain yn ei wneud i gynnal iechyd meddwl da.”

Mae’r weminar ‘Iechyd Meddwl - sut wyt ti? ar gael i’w wylio eto yma: https://royalwelsh.digital/iechyd-meddwl-sut-hwyl-sydd-arnoch/?lang=cy 

Yn dilyn arolwg, a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, a ddangosodd fod mwy na 50% o’r ymatebwyr o ardal wledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yr oedd ganddynt fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy, cynhaliwyd digwyddiad arbennig hefyd ar gysylltedd digidol i drafod y canfyddiadau a dyfodol cysylltedd digidol i Gymru. 

Mae’r weminar ‘Cysylltedd digidol: Mynd i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad’ ar gael i’w wylio eto yma: 

https://royalwelsh.digital/digital-connectivity-on-rural-wales/