Cryfder meddwl mewn sgwrs gref i bron 1000 o wylwyr

Gwelodd bron i 1000 o wylwyr sgwrs rhwng dau bersonoliaeth chwaraeon eithafol o’r radd flaenaf mewn digwyddiad rhithiol arbennig a drefnwyd gan sefydliad cryfder meddwl cefn gwlad yn ddiweddar.

Y gŵr lleol sy’n dal teitl Cneifiwr Peiriant Gorau’r Byd, Richard Jones o Glyndyfrdwy a'r rhedwraig antur eithafol a chyflwynydd teledu, Lowri Morgan rannodd eu profiadau nhw gyda'i cynulleidfa rithiol dan law’r darlledwr profiadol Nic Parry yn Stad y Rhug yn ddiweddar.

Nerth Dy Ben*, sefydliad gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau cadarnhaol yn y Gymry wledig drefnodd y digwyddiad i rannu'r dygnwch, y dyfalbarhad a'r nerth meddyliol sydd eu hangen ar unigolion i gyflawni heriau corfforol.

Yn ôl y cneifiwr, Richard Jones: “Os wyt ti’n mwynhau beth wyt ti’n ei wneud, does dim byd gwell. Fyddwn i byth yn newid fy swydd. Does gen i ddim i’w ddweud wrth beiriannau, ond dwi wrth fy modd yn gweithio efo anifeiliaid.

“Rhai dyddiau, mae pethau’n mynd o chwith. Ond mae’n bwysig anghofio amdano a symud ymlaen i’r diwrnod nesaf. Gydag anifeiliaid, beth bynnag ydi’r tywydd, mae’n rhaid i ti ddal i fynd.”

I Lowri Morgan y rhedwraig ultra, dyw methiant ddim yn ei phoeni: “I mi peidio anelu’n uchel sy’n fy mhryderu fi. Os cai ras wael heddiw, mae fory yn ddiwrnod newydd. Dysga’r wers a charia mlaen.”

Wrth ymateb i gwestiwn Iwan Meirion Lloyd-Williams o Landrillo ger Corwen a gyflwynwyd ar y noson am daro’r wal wrth hyfforddi a cheisio goresgyn hynny, meddai Lowri: “Dwi’n bwrw wal trwy’r amser. Mae hi’n mynd i fyny ac i lawr, i fyny ac i lawr. A rhai dyddiau, mae pethau yn mynd o chwith. Ond mae’n rhaid i ti anghofio amdano a mynd mlaen i’r diwrnod wedyn. Dwi’n aml yn atgoffa fy hun, pam dwi yma yn gwneud hyn?

“Yn ystod y cyfnod clo, pan oeddwn i’n stryglo, dyma benderfynu osgoi cymharu fy hyfforddi fi efo hyfforddiant bobl eraill o’m cwmpas. Dyma fi’n creu targedau bach i fi fy hun. Torri’r goliau i mewn i goliau bach, yn union fel camau babi. A chyn bo hir, dyma edrych nôl a meddwl ‘waw dwi wedi cyflawni hynna!’

“Peth arall fyddai’n ei wneud wrth geisio creu cymhelliant i mi fy hun yw sgwennu nodyn sy’n cyfleu’r ffordd bositif dwi’n teimlo ar ôl hyfforddi a’i osod ar ddrws yr oergell. Y tro nesa dwi’n ei chael hi’n anodd i fynd allan i hyfforddi, pan mae hi’n wynt a glaw ac mae’r soffa a’r teledu mor gartrefol a chlyd, ydi mynd at yr oergell ac atgoffa fy hun pa mor dda dwi’n teimlo ar ôl hyfforddi. Mae hynny’n ddigon i mi afael ynddi.”

Wrth ateb cwestiynau Nic Parry am ei brofiad o gneifio a chynrychioli Cymru, meddai Richard Jones: “Pan oeddwn i’n dechrau cneifio, ro’n i’n wirioneddol mwynhau. Ac wrth ddechrau ennill cystadlaethau a dechrau cneifio efo tîm Cymru, mi ro’n i’n awyddus i gymryd bob cyfle a siawns. 

“Ar ddyddiau eraill mae’n rhaid i ti gofio nad cystadlaeuaeth a chyflymder ydi bob camp. Pan mae angen cneifio ar ddyddiau chwilboeth, ti’n cael dy atgoffa bod raid i ti gneifio heddiw, fory a’r diwrnod wedyn. Dwi ddim y cneifiwr cyflymaf bob tro, ond mae’n rhaid i ti ganolbwyntio ar safon y gwaith a sicrhau y cryfder a’r stamina i ddal ati.” 

Yn ôl Alaw Owen o Ddinbych, un o sylfaenwyr Nerth Dy Ben a threfnydd y digwyddiad yn y Rhug: “Mi gawson ni ddigwyddiad hynod o lwyddiannus ac rydan ni’n mor ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth, eu cydweithio a’u presenoldeb.

“Diolch o galon i’r tri fu’n rhan o’r noson, y gynulleidfa wnaeth ymuno, y criw technegol a staff Stad y Rhug fu mor weithgar gyda’i nawdd a’i cefnogaeth.

“Diolch hefyd i’n noddwyr Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant yr Undeb ac am gefnogaeth Menter Iaith Sir Ddinbych a’r Bwrdd Gwlân. 

“Bu’n noson i’n hysbrydoli ni, i’n hatgoffa am ein cryfder meddwl ni’n hunain, ac i rannu’r hyn rydyn ni’n gyd yn ei gyflawni yn ddyddiol, yn gorfforol ac yn feddyliol, a’r nerth a’r dyfalbarhad sy’n bodoli o fewn ein bywydau gwledig amaethyddol.”

Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), Glyn Roberts: “Mae grŵp UAC Cyf yn falch o gefnogi sefydliad Nerth Dy Ben a’r digwyddiad penodol hwn sy’n rhoi’r ffocws clir ar y cryfder meddwl a chorfforol sy’n bodoli ym myd amaeth. Rydym yn haeddu dathlu’r dyfalbarhad sy’n bodoli o fewn y diwydiant ac fe gyflawnodd y digwyddiad hwn hynny. Er ein bod yn siomedig na ellir cynnal Y Sioe Fawr yn y ffordd arferol eto eleni, roeddem yn falch o fod yn rhan o ddigwyddiad a bwysleisiodd y cryfder a'r gwytnwch hwnnw sydd gennym fel diwydiant.”

Mae’r sgwrs yn parhau ar gael trwy dudalen Facebook ac YouTube Nerth Dy Ben www.nerthdyben.cymru ac mae clipiau gydag is-deitlo Saesneg hefyd ar gael ar Facebook Clwyd TiFi.