Arolwg yn bwriadu tynnu sylw at gyflwr cysylltedd digidol

 Mae arolwg newydd, a gynhelir ar y cyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, yn bwriadu edrych ar gyflwr presennol cysylltedd digidol yng Nghymru.

Yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni, a dynnodd sylw at y ffaith bod mwy na 50% o’r ymatebwyr o ardal wledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yr oedd ganddynt fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy, mae’r grŵp wedi cyfarfod â gwahanol randdeiliaid ac wedi cynnal gweminar i drafod y problemau ymhellach yn ystod y Sioe Frenhinol rithiol ym mis Gorffennaf 2021.

Bydd yr arolwg newydd yn ceisio edrych ar sut mae pobl yn teimlo am lefel y cyfathrebu sydd rhyngddynt a’u darparwr, gwerth cost y gwasanaeth ac yn edrych ymhellach ar y ffordd y bydd newidiadau arfaethedig i’r systemau cofnodi da byw ar-lein yn effeithio ar y gymuned ffermio.

Mewn cyd-ddatganiad, dywedodd y sefydliadau: “Dangosodd ein harolwg diwethaffod gan lai na 50% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig fand eang safonol, a dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn. Dywedodd 66% o’r ymatebwyr bod band eang gwael wedi effeithio arnynt neu ar eu haelwydydd, o gymharu â phobl mewn ardaloedd trefol lle dywedodd 18% fod ganddynt fynediad i fand eang safonolac roedd 67% â band eang cyflym iawn.

“Rydym wedi tynnu sylw rhanddeiliaid, darparwyr a gweinidogion Llywodraeth Cymru at yr holl ganfyddiadau dros yr haf. Fel grŵp, rydym bellach yn awyddus i ddysgu i ba raddau mae’r gymuned wledig yn barod i ymdrin â’r newidiadau sydd ar y gweill i’r rheoliadau ffermio a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud llawer iawn o waith papur ar lein.”

“Rydym yn annog ein holl aelodau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cysylltedd digidol i lenwi’r arolwg er mwyn helpu i lywio ein camau nesaf a’r cyfathrebu a wnawn gyda rhanddeiliaid yn y dyfodol.”

Mae’r arolwg ar gael yma hyd 12 Rhagfyr: https://www.surveymonkey.co.uk/r/2262W22

Gall y rhai nad ydynt yn gallu cyrchu’r fersiwn ar-lein lenwi copi papur o’r arolwg yn y stondinau priodol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ar ddydd Llun 29 a dydd Mawrth 30 Tachwedd.