Busnes ffermio yng Ngheredigion yn dangos sut mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned yn arwain at lwyddiant

Ceredigion farming business shows how a focus on sustainability, innovation and a sense of community brings success: Chuckling Goat 1

 Busnes ffermio yng Ngheredigion yn dangos sut mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned yn arwain at lwyddiant. Mae doniau cyfunol Americanes sy’n ystyried ei hun yn ferch y ddinas a ffermwr o Sir Aberteifi wedi arwain at fusnes llewyrchus iawn yng nghanol dyffryn Teifi.

Lansiwyd Chuckling Goat yn 2014 pan ymunodd y cyn-gyflwynydd radio o Dexas, Shann Nix-Jones â’r ffermwr o Gymru, Richard Jones, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn ei fferm 25 acer ger Brynhoffnant, Llandysul, i gynhyrchu kefir o laeth geifr.

Erbyn hyn mae’r cwmni’n fenter ffyniannus sydd â chwsmeriaid ledled y byd. Ond er gwaetha’r demtasiwn amlwg i symud i uned ddiwydiannol sy’n nes at y seilwaith trafnidiaeth, mae’r cwpl wedi ymwrthod â hynny er mwyn datblygu eu gallu i brosesu ar y fferm wreiddiol.

Mae cynaliadwyedd a datblygu mewn harmoni â’r tir a’r amgylchedd wrth galon holl waith y cwmni. Mae’r Jonesiaid yn falch o’r ffaith bod y adeilad lle cynhyrchir y kefir, sy’n cynnwys ardaloedd pacio, unedau eplesu, cyfleuster labelu a chantîn staff, wedi’i suddo i’r ddaear ac wedi’i amgylchynu â thros 2,000 o goed, fel ei fod bron yn diflannu i’r dirwedd.

Mae hyn oll yn rhan o egwyddor arweiniol sy’n seiliedig ar werthoedd teuluol a datblygu mewn harmoni â’r drefn naturiol. Meddai Richard: “Mae Shann bob amser yn dweud ei fod fel cylch bywyd. Mae’r geifr yn cynhyrchu’r dom, mae’r dom yn mynd ar y caeau, yna mae’r caeau’n cael eu cynaeafu i gael gwair – ry’n ni’n dal i wneud byrnau bach traddodiadol – ac mae’r geifr yn bwyta’r gwair. Mae’n gylch cyflawn.”

Chuckling Goat 2Dechreuodd Chuckling Goat yn sgil cymysgedd o arloesedd cadarn a chyd-ddigwyddiad. Yn briod erbyn hyn, roedd y cwpl wedi penderfynu cadw gafr, gan deimlo efallai y byddai ei llaeth amrwd yn helpu i leddfu salwch bronciol eu mab, ond mi wnaethon nhw sylweddoli’n fuan iawn bod ganddyn nhw laeth dros ben bob dydd.

Meddai Shann, sy’n llawn egni: “Ro’n i’n meddwl o hyd, mae gennon ni eifr. Sut allwn ni ddefnyddio llaeth y geifr? Ble mae’r cyfle yn hyn? Dyna sut mae fy meddwl i’n gweithio. Dyna’r cwestiwn dwi bob amser yn ei ofyn: sut mae hwn yn gyfle?”

Cafodd Shann ‘fflach o ysbrydoliaeth’ pan glywodd hi feddyg o Rwsia’n siarad am laeth geirf kefir, a’i rinweddau therapiwtig, ar y radio. Gyda’i meddwl yn rasio, cysylltodd â’r meddyg i ddysgu sut i wneud kefir therapiwtig o’r safon uchaf.

Wrth iddi wrando, mi sylweddolodd eu bod wedi dod o hyd i’w cyfle. Cynghorodd y meddyg hi i ddefnyddio llaeth geifr yn hytrach na llaeth buchod, i ddefnyddio grawn byw, real, a pheidio ag ychwanegu siwgr na chyflasynnau oherwydd byddai’r pethau hynny’n diraddio’r probiotigau. Mae’n set o egwyddorion mae’r cwmni’n glynu ati hyd heddiw.

Mae kefir yn ddiod llaeth wedi’i feithrin a’i eplesu, sy’n debyg i iogyrt, ond o ansawdd teneuach. Mae hefyd yn ffynhonnell dda o galsiwm ac mae’n llawn bacteria probiotig sy’n hanfodol i gadw’r coluddion yn iach.

Meddai Richard: “Roedden ni’n meddwl bod modd inni wneud hwnnw, felly mi wnaethon ni beth yn y gegin. Roedd angen gweithio rhywfaint ar y blas ond roedd e’n hynod, hynod iach. Aeth popeth yn ei flaen o’r fan honno. O wneud pethau yn llythrennol yn sinc y gegin, i’r hyn welwch chi heddiw.

“Fel yna y dechreuodd pethau. O fewn pum mlynedd roeddem wedi cynyddu’r trosiant yn aruthrol. Rwy’n cyflogi 24 o staff yma nawr. Dim ond tua 30 o eifr sydd gyda ni am nad yw’r tir gen i, felly mae’n rhaid inni brynu’r rhan fwyaf o’n llaeth, sydd ddim yn ddelfrydol, ond dyna fel mae pethau’n gorfod bod.”

Mae’r geifr yn ganolog i’r busnes. Esbonia Richard: “Mae geifr yn fodlon pori caeau garw. Maen nhw bob amser yn rhedeg at y gwrychoedd ac yn eu bwyta.

“Ry’n ni’n prynu bwydydd naturiol iddyn nhw. Rwy’n gwrthod prynu unrhyw beth sy’n cynnwys soia oherwydd dwi braidd yn amheus am beth mae’n ei wneud. Mae pobl wedi cadw geifr ers canrifoedd. Mae rhai ni wedi’u bridio i gynhyrchu mwy o laeth nag y byddent wedi gwneud ganrifoedd yn ôl, dyna’r cyfan.”

Ychwanega Richard: “O ran ffermio, rwy’n credu ein bod ni’n gynaliadwy iawn oherwydd ry’n ni’n ei wneud mewn ffordd mor hen-ffasiwn ag y gallwn. Mae gennym wrychoedd trwchus ac ry’n ni wedi plannu mwy o wrychoedd.

Chuckling Goat 5“Ry’n ni hefyd wedi plannu 2,000 o goed dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae geifr yn fodlon pori caeau garw. Does dim rheswm pam na all pobl ymhen can mlynedd gadw geifr, yn union fel ry’n ni’n gwneud.”

 Mae’r cwmni’n rhoi pwyslais ar gyflogi teulu a phobl leol, gyda nifer ohonynt yn dod yno’n syth o’r ysgol ac yn dod yn rhan o’r teulu estynedig, y cyfan gyda’r bwriad o wella’r economi leol.

Meddai Richard: “Maen nhw’n prynu’u tanwydd yn lleol. Maen nhw’n prynu cryndipyn o’u bwyd yn lleol. Mae’n ongl ychydig yn wahanol ar gynaliadwyedd, ond ry’n ni’n helpu i ddarparu cyflogaeth ar gyfer y siop Londis fach leol pan fydd dau neu dri ohonon ni’n mynd yno bob dydd i brynu cinio.

“Mae cael ein busnes fan hyn yn cyfrannu at yr economi wledig ac ry’n ni’n cymryd rhan yn y gymuned. Mae fy ŵyr pump oed yn mynd i’r ysgol gynradd leol hefyd, ac ry’n ni’n gobeithio y bydd pethau’n parhau fel hyn.”

Wrth i’r cwmni – a’r elw – dyfu, felly hefyd graddfa logistaidd y broses, a bu’n rhaid i’r cwpl symud y gwaith allan o’r gegin i ysgubor a addaswyd yn arbennig, ac yn nes ymlaen i adeilad a godwyd i’r pwrpas.

Erbyn hyn, ar wythnosau prysur maen nhw’n prosesu hyd at 10,000 o litrau o laeth gafr sy’n cyrraedd bob wythnos mewn tancer.

Mae’r teulu hefyd wedi datblygu cynnyrch gofal croen seiliedig ar kefir, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy’n arbennig o effeithiol ar gyfer trin cyflyrau megis soriasis ac ecsema.

Roedd yn ffordd newydd o weithio i Shann, sydd wedi dysgu ffordd newydd o fodmewn cysylltiad â’i theulu, y busnes, a’r gymuned ers dod i Gymru.

“Yn dod o America, ry’n ni’n torri a llosgi. Dyna sut mae hi. Ry’n ni’n cael hynny o’r arloeswyr. Ry’ch chi’n symud i ardal, yn ei thorri a’i llosgi ac yna’n ei ffermio am ychydig, ac unwaith y gwelwch chi gymdogion ar y gorwel, mae’n amser symud ymlaen,” meddai. “Dyna’r hen fodel. Mae’r ffordd ry’n ni’n rhedeg ein busnes nawr yn gwbl groes i hynny.”

I Richard, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn y tir a’r gymuned ffermio, roedd y cysyniad o gynaliadwyedd yn golygu, yn syml, ffordd gyfrifol, draddodiadol o gynnal busnes. Meddai: “Nid yw cynaliadwyedd yn golygu’r un peth i bawb. I mi, mae cynaliadwyedd yn golygu gofalu am y tir i wneud yn siŵr y gall ddal ati i roi. Mae’n rhaid inni roi i’r tir, cyn i’r tir allu rhoi nôl i ni.

Mae Shann yn cytuno: “Rwy’n credu bod cynaliadwyedd hefyd yn ymwneud â pherthynas. Mae gennych chi berthynas â’r tir – dy’ch chi ddim yn dympio dros y cyfan. Ry’ch chi’n rhoi sylw iddo. Beth sydd ei angen ar y tir? Beth sydd ei eisiau ar y tir? Beth sydd angen ichi ei wneud i ofalu am y tir? Mae’n rhaid ichi wneud mwy na draenio’r holl ddaioni ohono, dympio’ch holl sbwriel yno, a gadael.

“Mae hynna’n rhywbeth emosiynol i mi oherwydd am fy mod i’n Americanes chefais i erioed ymdeimlad o le a gwreiddiau. Mae gan Rich gysylltiadau dwfn â’i ymdeimlad o le a’i wreiddiau. Dyna’r cysyniad Cymreig o ‘berthyn’ ac mi ddysgais i’r wers honno â llawenydd mawr.”

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd Chuckling Goat; ar lefel bersonol ac ar lefel ehangach. O’r 24 o staff sy’n gweithio i’r cwmni, mae nifer yn dod o deulu Richard ac maent yn byw mewn tai newydd a adeiladwyd ar y fferm.

Chuckling Goat 4Mae gwneud pethau fel teulu wrth wraidd popeth a wnânt. Mae’n golygu mwy na chynaeafu cnwd yn gorfforol, mae’n ymwneud hefyd â’r profiad o greu cwlwm agosrwydd yn sgil hynny. Mae Richard yn cyfeirio at gynhaeaf tatws diweddar i bwysleisio hyn.

Meddai: “Ry’n ni’n tyfu’n tatws ein hunain. Dim ond rhyw acer o datws fyddwn ni’n eu tyfu ac roedd gennym bedair cenhedlaeth wrthi’n codi’r tatws. Mae fy mam-yng-nghyfraith yn 82 oed ac mae gen i ddau o wyrion deuflwydd oed ac un pump oed.

“Roedd pawb wrthi’n codi’r tatws. Efallai nad oedd yn fenter gost-effeithiol yn ariannol; mi allwch chi brynu tatws yn rhad iawn. Ond roedd o fudd i’r tir i gael ei droi; cael cnwd gwahanol arno; ac yn bendant roedd o fudd i’n teulu ni, yn feddyliol ac yn gorfforol.”

Ychwanegu Shann: “Roedd fy mam, sy’n 82 oed, yn eistedd yno mewn cadair ganfas yn gwylio, a’r holl wyrion wrthi’n chwarae, yn bwyta mwd, tatws a mwydod, ac yn cael eu hunain yn frwnt. Roedd yn wych. Dyna sy’n rhaid inni ddal ati i’w wneud. Ry’n ni’n gobeithio y byddan nhw’n cadw’r traddodiadau hyn yn fyw ar ôl i ni fynd.”

 Wrth i Richard fyfyrio am y ffordd mae’n ffermio, mae’n siarad am y rôl mae ffermwyr yn ei chwarae fel gwarcheidwaid y tir a’r amgylchedd. Ar hyn o bryd mae wrthi’n trin y tir ar gae newydd a gafwyd. Mae cyfuno dewisiadau teuluol ag anghenion masnachol ac amgylcheddol yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol.

“Mae’r cae yn dair acer a hanner ac mae’r perchnogion blaenorol wedi gadael iddo fynd yn wyllt. Erbyn hyn mae’r geifr wedi bwyta’r mieri ac rwyf innau wedi tocio rhai o’r llwyni eithin er mwyn cael mynediad. Ry’n ni gwneud y lle’n addas i fy mhlant a phlant fy mhlant ei ddefnyddio. Mae pwll yno, ac mae fy wyrion wrth eu boddau’n chwarae yno.

“Petaen ni’n gadael iddo fynd yn wyllt, fel y gwnaeth y perchennog blaenorol, ac yn gwrando ar ei ddadl yntau, y cyfan fyddai gennym yn y pen draw fyddai jyngl. Does dim diben i fy wyrion gael cae o fieri deg troedfedd o uchder allwch chi ddim cerdded trwyddo.”

Chuckling Goat 3Y cyfuniad hwn o’r traddodiadol a’r arloesol sy’n caniatáu i Chuckling Goat ffynnu a symud ymlaen mewn harmoni ag anghenion yr amgylchedd.

Nawr mae’r cwpl am ehangu eu canfyddiadau am iechyd y perfedd. Mae’r ymchwil gwyddonol diweddaraf yn dangos y gall iechyd y perfedd effeithio ar amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd sy’n ymddangos yn ddigyswllt, o soriasis i orbryder.

Mae Chuckling Goat yn gwerthu Prawf Microbiome ar hyn o bryd sy’n dangos poblogaethau bacteria yn y perfedd, all dracio heintiau gweddillol gwenwyn bwyd, UTIs neu heintiau deintyddol, all fod wedi bodoli o fewn y system ers degawdau.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n paratoi i lansio ei Brawf Microbiome ei hun yn 2022, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt.

Dywed Shann: “Yn ddiweddar rydym wedi cyflogi’r microbiolegydd enwog Dr. Miguel Toribio-Mateas fel ein Pennaeth Ymchwil a Datblygu, a chyda’n gilydd rydym yn gweithio ar gyhoeddiadau gwyddonol amrywiol. Peidiwch â chael eich twyllo gan y golygfeydd godidog. Mae ymchwil arloesol ar droed yma.”

I ddod nesaf, mae gan y cwpl fenter arloesol arall o’r enw Ana’s Farmacy, sy’n anelu at gynhyrchu bwyd meddygol therapiwtig sy’n lleol, yn gynaliadwy, ac yn iachus i’r perfedd.

Rwyf am brynu llysiau di-siâp gan dyfwyr lleol organig a fyddai fel arall yn cael eu taflu o’r neilltu. Felly mi fyddwn ni’n delio â’r broblem gwastraff bwyd hefyd. Ry’n ni am wneud siytni, piclau a finegr llysieuol sydd â buddiannau therapiwtig,” meddai Shann.

Mae’r cwpl yn defnyddio’r profiad a’r wybodaeth sydd ganddynt yn sgil datblygu Chuckling Goat i barhau i roi eu delfrydau ar waith.

Meddai Shann i gloi: “Mae’n rhaid iddo fod yn dda o’r ddaear i fyny. Yn dda i’r microbau yn y pridd, yn dda i blanhigion, yn dda i anifeiliaid, pobl, y gymuned, cwsmeriaid a’r blaned. Os nad yw’n dda bob cam o’r ffordd yna nid yw’n gynaliadwy. Os nad yw’n gynaliadwy – does gennon ni ddim diddordeb. Ry’n ni yma i brofi y gallwch chi wneud yn dda, drwy wneud daioni.”