UAC yn cwrdd â llefarydd amaethyddol Plaid Cymru i drafod cytundeb cydweithredu Llafur-Plaid

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cwrdd yn ddiweddar â llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig ac amaethyddiaeth Cefin Campbell AS i drafod manylion Cytundeb Cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd dydd Llun (22 Tachwedd) bod y ddwy blaid, yn amodol ar gefnogaeth gan aelodau’r blaid, wedi cytuno i weithio ar y cyd am y tair blynedd nesaf ar 46 o bolisïau lle mae budd cyffredin gan gynnwys ail gartrefi, plannu coed, llygredd amaethyddol, yr iaith Gymraeg a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod ag Aelod Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng dyheadau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn eu maniffestos yn y gwanwyn, ond o ystyried y cydbwysedd cyfredol o bleidleisiau yn y Senedd, roedd Llafur yn barod i drafod ar ystod o faterion.”

Mae'r cytundeb yn nodi y bydd cyfnod pontio yn cael ei gyflwyno tra bod y system taliadau fferm yn cael eu diwygio felly bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i dymor y Senedd hon.

Ychwanegodd Mr Roberts: "Rydyn ni wedi dadlau'n gyson dros gynnwys taliadau sefydlogrwydd sy'n amddiffyn ffermydd teuluol Cymru mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol, ac er bod yr ymrwymiad yn un lefel uchel iawn rydyn ni'n sicr yn ei groesawu."

Dywedodd Mr Roberts ei fod felly'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwleidyddion o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy'n llwyr barchu'r ymrwymiad i daliadau sefydlogrwydd.

Mae'r cytundeb hefyd yn ymrwymo i weithio '... gyda'r gymuned ffermio i wella ansawdd dŵr ac aer, trwy’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan ddefnyddio dull wedi'i dargedu at y gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd'.

"Fe wnaethon ni drafod hyn gyda Mr Campbell a'r ffaith bod penderfyniad unfrydol gan Aelodau'r Senedd yn ôl ym mis Mehefin i adolygu'r rheoliadau - proses sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.

"Byddwn felly'n monitro datblygiadau ac yn ceisio sicrhau gweithredoedd cymesur ac wedi'u targedu bydd ddim yn effeithio'n annheg ar ffermwyr," ychwanegodd.

Roedd adrannau eraill o'r cytundeb a drafodwyd yn ystod y cyfarfod yn cynnwys yr ymrwymiadau i weithredu strategaeth bwyd cymunedol i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru; gweithio gyda ffermwyr i sicrhau bod y coed iawn yn cael eu plannu yn y lleoedd iawn ac amddiffyn perchnogaeth a rheolaeth leol ar goetiroedd; a gweithredu rheolau radica ar unwaith er mwyn mynd i'r afael a’r doreth o ail gartrefi a thai anfforddiadwy.

"Rydym yn ddiolchgar i Mr Campbell am roi ei amser i drafod materion sy'n cael effaith uniongyrchol ar amaethyddiaeth a chymunedau amaethyddol.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fonitro gweithrediad y cytundeb hwn, os caiff ei basio gan aelodau’r blaid, neu unrhyw ddatblygiadau eraill er mwyn sicrhau’r dyfodol gorau i’n ffermydd teuluol,” meddai Mr Roberts.