Allwch chi gredu bod hi’n fis Mawrth yn barod? Mis sy’n arwyddocaol am nifer o resymau - mae’r dynion tywydd yn cyfeirio at y cyntaf o Fawrth fel y diwrnod cyntaf o wanwyn - gobeithio wir y bydd y tywydd yn fwy gwanwynol, a hynny i’r rhan fwyaf ohonom ni fydd yng nghanol y tymor wyna erbyn hyn.
Erbyn y byddwch chi’n darllen hwn, byddwn ond rhyw dair wythnos hyd nes bydd y clociau’n newid ac yn golygu diwrnodau hirach a thywydd gwell a mwy caredig - gobeithio! Ond mae yna ddiwrnod bach go arbennig arall yn digwydd ym mis Mawrth hefyd - diwrnod cyfan i ddathlu ni ferched!
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth, mewn gwahanol ffyrdd ledled y byd er mwyn dathlu llwyddiannau menyw yn y byd gwleidyddol, gwyddonol, ariannol ayyb. Gallwn hefyd ychwanegu un maes arall i’r rhestr yma sef amaethyddiaeth, ac mae un fenyw o Sir Gaerfyrddin yn ysbrydoliaeth i ni gyd wrth brofi bod hi’n bosib cydbwyso gwahanol gyfrifoldebau a gwneud gwahaniaeth.
Mae Ann Davies yn wraig, mam, mam-gu, ffarmwraig, aelod gweithgar o Undeb Amaethwyr Cymru, yn Aelod Seneddol angerddol yn San Steffan ers 2024 ac wedi torri cwys newydd a chadarn i ferched ym myd amaeth.
Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cefais gyfle i holi Ann am ei phrofiad personol o sut mae’n gwneud gwahaniaeth, dyma Ann i egluro mwy: “Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei ddathlu ar yr 8fed o Fawrth, mae’n bwysig cymryd eiliad i adlewyrchu a gwerthfawrogi cyfraniad menywod i’r diwydiant amaeth a thu hwnt,” eglura Ann. “Fel menywod, rydym yn aml yn cymryd sawl rôl ar yr un pryd, ac fel mam, mam-gu, ffarmwraig ac Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, rwy’n gwybod yn iawn pa mor bwysig yw’r gallu i gydbwyso gwahanol gyfrifoldebau.
“Mae bod yn fenyw mewn diwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a gwleidyddiaeth yn gofyn am wydnwch ac ymroddiad, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i wneud gwahaniaeth.
“O fod yn athrawes gerdd beripatetig i weithio yn San Steffan, mae fy nhaith wedi bod yn un o waith caled a dyfalbarhad. Fel Cadeirydd Cangen Sir Gâr Undeb Amaethwyr Cymru, rwyf wedi gweld menywod ar draws ein cymunedau’n cymryd eu lle wrth lunio dyfodol amaethyddiaeth. Rhaid i ni sicrhau bod lleisiau menywod o fewn y diwydiant yn cael eu clywed a’u bod yn derbyn yr adnoddau i lwyddo - boed hynny ar y fferm, mewn busnes, neu yn y Senedd.
“Mae’r diwydiant amaethyddol wedi denu cryn sylw yn y wasg yn ddiweddar, ac nid oes amheuaeth ei fod o dan bwysau. Gyda newidiadau i drethi etifeddiant, costau cynyddol a’r angen am fwy o gynaliadwyedd, mae’n hanfodol bod llais pob ffermwr - boed yn ddyn neu’n fenyw - yn cael ei glywed. Yn San Steffan, rwy’n parhau i bwyso am gefnogaeth i ffermydd teuluol Cymru, sy’n gweithredu nid yn unig fel asgwrn cefn ein cymunedau gwledig ond hefyd fel ceidwaid ein hiaith a’n diwylliant.
“Er gwaethaf y pwysau, mae fy ngwreiddiau’n fy nghadw’n gadarn. Mae amser ar y fferm gyda’r teulu, cinio dydd Sul gyda’r wyrion, a godro ar foreau pan nad wyf yn Llundain yn fy atgoffa i pwy ydw i. Mae merched ledled Cymru yn profi bob dydd eu bod yn gallu cydbwyso gwaith, teulu a bywyd cyhoeddus. Fy neges i unrhyw fenyw yw: peidiwch ag ofni cymryd eich lle. Mae gennym ni lais - gadewch i ni ei ddefnyddio.”
Mae stori Ann o glos y fferm i San Steffan yn un ddiddorol, yn ysbrydoliaeth ac uwchlaw popeth yn annog merched i fentro i feysydd traddodiadol ac i wneud gwahaniaeth.
Diolch Ann am eich ymroddiad, gwaith caled a’ch dyfalbarhad, ar yr aelwyd yn Sir Gaerfyrddin ac yn sicrhau bod yna gynrychiolaeth gadarn i fenywod ym myd amaeth a bod yna lais angerddol dros ffermwyr Cymru draw yn San Steffan.
Edrychwn ymlaen at weld mwy o ferched yn cynrychioli amaeth ar bob lefel!