Yn ein cyfweliad diweddaraf yn dathlu saith deg mlynedd o Undeb Amaethwyr Cymru, mae ein Pennaeth Cyfathrebu, Aled Morgan Hughes yn cyfweld â Mr Gareth Vaughan, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 2003 a 2011.
Beth oedd uchafbwynt eich cyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?
Uchafbwynt mawr i mi yn bersonol oedd llwyddo i i sicrhau bod yr Undeb yn medru gwerthu yswiriant fel brocer. Dros y degawdau blaenorol roeddem yn asiant clwm, yn delio ag un cwmni yn unig, felly roedd yna gyfyngiadau. Roedd symud tuag at fod yn frocer yn golygu y gallem ddelio â mwy nag un cwmni yswiriant.
Nid oedd y newid hwn tuag at fod yn frocer bob amser yn hawdd - nid oedd pawb yn cytuno, ond wrth edrych yn ôl rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn caniatáu i ochr yswiriant yr Undeb dyfu o nerth i nerth, a chynyddu gweithgareddau a nodau’r Undeb. Gwn hefyd fod y newid tuag at frocer wedi’i groesawu hefyd gan swyddogion sirol ledled Cymru, a allai gynnig ystod ehangach o wasanaethau a phrisiau nad oedd yn bosib cynt.
Uchafbwynt arall i mi oedd croesawu’r Tywysog Siarl a Camilla i’r fferm yn Nolfor, Sir Drefaldwyn. Cyrhaeddodd mewn hofrennydd a rhyfeddais at ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd am faterion cefn gwlad. Roedd ystod eang o aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn rhan o’r ymweliad, yn ogystal â phlant yr ysgol leol. Roeddwn yn hynod o falch bod cyn Llywyddion Undeb Amaethwyr Cymru, H.R.M Hughes a Myrddin Evans wedi medru bod yn bresennol. Gwelodd Myrddin y siwrne o adref i Ddolfor yn bell, ond erbyn diwedd y dydd, roedd yn falch iawn ei bod wedi dod!
Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â gwleidyddion hefyd. Roeddwn yn ffodus iawn o gwrdd â dau o Brif Weinidogion Seland Newydd yn ystod fy nghyfnod; un yn y swyddfa yn Aberystwyth, a’r llall dros ginio yng Nghaerdydd cyn gêm rygbi lle trafodwyd masnach cig oen Cymru a Seland Newydd. Derbyniais y gwahoddiad i’r cinio yna gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan ac roedd cadw perthynas dda gyda gwleidyddion yn elfen allweddol o’r swydd. Mae’n iawn i ddadlau weithiau, ond ar golled fyddem petai hynny’n digwydd yn rhy aml.
Ar wahân i wleidyddion, roeddwn bob amser yn cael pleser mawr o gwrdd ag aelodau Undeb Amaethwyr Cymru hefyd, yn enwedig y rhai hŷn – roedd llawer ohonynt wedi wynebu amser caled gan yr NFU yn y blynyddoedd cynnar yn dilyn sefydlu’r Undeb.
Beth oedd uchafbwynt eich cyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?
Roeddwn yn ffodus iawn i osgoi nifer fawr o sialensiau a wynebodd fy rhagflaenydd Bob Parry - yn enwedig BSE a Clwy’r Traed a’r Genau.
Un o’r prif heriau o fy nghyfnod fel Llywydd sy’n aros yn y cof oedd colli’r taliadau Tir Mynydd. Yn flaenorol roedd y cynllun yn gweld ffermwyr yr ucheldir yn derbyn taliad i gynorthwyo gyda rheoli Ardaloedd Llai Ffafriol. Roedd dileu’r cynllun yn ergyd enfawr i nifer o ffermwyr – gan achosi teimladau cryf iawn o fewn y sector.
Roedd aelodau iau’r Undeb yn arbennig o amlwg yn yr ymgyrch i adfer y taliadau hyn – dwi’n cofio criw o Feirionnydd yn mynd lawr i Gaerdydd i brotestio. Yn y pen draw, ofer bu ein hymdrechion, ond credaf ei fod wedi rhoi cyfle i’r Undeb arddangos ein llais a’n teimladau cryf.
Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r sector amaeth heddiw?
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio cryn dipyn dros y blynyddoedd, ac mae’r heriau sy’n wynebu ffermwyr yr un fath ar draws y Byd i gyd – gwleidyddion, y tywydd, a chyllid.
Ar hyn o bryd, mae newidiadau Llywodraeth y DU i’r dreth etifeddiant yn amlwg yn bryder i lawer yn y diwydiant, ac mae mor hanfodol bwysig i ffermwyr feddwl am gynllunio ar gyfer olyniaeth.
Fel rhywun a dreuliodd lawer o amser yn lobïo ym Mrwsel, rwy'n teimlo bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gamgymeriad enfawr. Mae hyn wedi gwneud niwed enfawr i’r sector ffermio yng Nghymru, ac rwy’n teimlo na fyddwn yn gweld unrhyw fudd gwirioneddol nes inni ailedrych ar ein perthynas â’r UE – er ei bod yn annhebygol y byddwn yn dychwelyd fel aelodau llawn nawr.
Er gwaethaf yr heriau, rwy'n parhau i fod yn eithaf optimistaidd am ddyfodol y sector ffermio - ac wedi cael fy meirniadu yn y gorffennol am fod yn rhy bositif! Yn y pen draw, bydd pobl cyhyd ag y byddan nhw ar y ddaear yma angen bwyd o ansawdd da, ac yma yng Nghymru rydyn ni’n cynhyrchu’r bwyd a’r cynnyrch gorau oll.
Pam fod Undeb Amaethwyr Cymru yn bwysig?
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn hollbwysig. Mae cael mwy nag un undeb ffermio yma yng Nghymru yn caniatáu inni nid yn unig gadw llygad barcud ar ein gilydd ac anghenion y sector, ond mae hefyd yn sicrhau syniadau ffres hefyd. Nid oes gan yr un undeb fonopoli ar syniadau da, ac mae cael dwy undeb yn cynrychioli’r sector yma yng Nghymru yn sicr yn cryfhau ffermio yng Nghymru.
Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cofio hefyd, er bod Undeb Amaethwyr Cymru efallai wedi cynrychioli ffermydd llai yn draddodiadol, rydyn ni nawr yn llais i ffermydd mwy Cymru hefyd – ac yn wir mae nifer o ffermydd mawr yn chwarae rhan amlwg a phwysig yn yr Undeb.