UAC cangen Sir Gaernarfon yn tynnu sylw at yr argyfwng prisiau ?yn a phryderon Glastir yn ystod ymweliad fferm

Croesawodd cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru ymwelwyr gan gynnwys Guto Bebb AS i Fferm Llechwedd Hafod yng Nghwm Penmachno (Gwener Hydref 10) i drafod yr argyfwng prisiau ?yn presennol ac i weld agweddau gwahanol o’r cynllun Glastir.

Trefnwyd y diwrnod trwy garedigrwydd Cadeirydd cangen Sir Gaernarfon o UAC Dafydd Gwyndaf a’i wraig Anwen a bu’n gyfle gwych i’r ymwelwyr weld y tir a’r anifeiliaid.

Trafodwyd y prisiau isel presennol am gynnyrch amaethyddol gyda Guto Bebb, AS Conwy, a John Richards, Gweithredwr Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru.

“Rydym wedi cael trafodaeth ddefnyddiol iawn gyda Guto Bebb a John Richards yngl?n â’r prisiau rydym yn ei gael ar gyfer ein h?yn. Nid oes dim amheuaeth y gallai San Steffan wneud llawer mwy i gynorthwyo’r diwydiant.

"Rydym wedi gofyn i'n AS lleol i lobïo mwy i sicrhau bod cyfran well o’n hardollau yn mynd i HCC.  Petai HCC yn cael yr ardoll ar gyfer yr holl ?yn a gynhyrchir yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu lladd mewn lladd-dai mewn rhannau arall o’r DU, byddai llawer mwy o arian ganddynt i wario ar hybu ein cynnyrch a ddylai arwain at gael prisiau uwch i ni," dywedodd Mr Gwyndaf.

“Roedd yn gyfle da i drafod rheolau’r cynllun Glastir a’r gofynion o ran cadw cofnodion gydag Emyr Wyn Davies o FWAG Cymru.  Amlygodd Emyr nifer o faterion pwysig o ran cymhlethdod y cynllun, a’r peryglon mwyaf cyffredin sy'n arwain at gymaint o ffermwyr yn cael eu cosbi, "meddai swyddog gweithredol sir Gaernarfon UAC Gwynedd Watkin.”

Saif fferm Llechwedd Hafod tua saith milltir i’r de o Fetws y Coed.  Mae’n fferm deuluol sy’n ymestyn i 550 hectar ac mae oddeutu 440 hectar yn fynydd, ac mae ychydig dros 20 hectar yn cael ei gadw i dyfu silwair yn flynyddol.

Dafydd yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio Llechwedd Hafod y mae yn berchen arno, ac mae’n rhentu Blaen Cwm oddi wrth berchennog preifat. Mae hefyd yn rhentu 25 acer o dir ychwanegol yn flynyddol ym Mryn Elian ar waelod Dyffryn Conwy gyda 100 o famogiaid yn treulio’r gaeaf yn Chwitffordd, Sir Y Fflint er mwyn sicrhau bod Dafydd yn cydymffurfio â

rheolau’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol o dynnu stoc oddi ar yr ucheldir dros fisoedd y gaeaf.

“Rydym yn magu stoc ein hunain sy’n cynnwys 950 o famogiaid mewn dwy ddiadell ar wahân.  Mae 400 yn Llechwedd Hafod a 550 ym Mlaen Cwm, gyda 125 a 150 o wyn benyw yn cael eu cadw yn eu tro yn flynyddol. Mae’r rhan fwyaf o’n mamogiaid yn cael meheryn Mynydd Cymreig, ac oddeutu 200 ohonynt yn cael meheryn Cheviot, a 200 o famogiaid croes yn cael meheryn Wyneblas Caerl?r,” dywedodd Mr Gwyndaf.

“Mae wyna’n cychwyn o gwmpas Mawrth 20 a bydd yr ?yn yn cael eu gwerthu’n dew ym marchnad da byw Llanrwst. Bydd yr ?yn croes yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid magu naill a’i yn chwe mis oed neu yn flwydd a hanner.  Bydd y mamogiaid h?n yn cael eu gwerthu i fagu pan fyddant yn bum mlwydd oed. Nid yw’r prisiau yr ydym yn derbyn ar hyn o bryd yn talu am y gost o gynhyrchu ?yn tew, a dyna pam mae mor bwysig bod HCC yn cael yr holl ardollau a delir ar ?yn a gynhyrchir yng Nghymru," ychwanegodd Mr Gwyndaf.

Mae’r teulu hefyd yn cadw 17 o fuchod sugno Pedigri Duon Cymreig, buches a fydd yn cynyddu i dros 30 yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gyda’r cwbl yn cael eu troi at deirw Duon Cymreig. Mae’r bustych i gyd yn cael eu gwerthu yn breifat fel gwartheg stôr deunaw mis oed, ac maent yn cael eu gorffen yn dew er mwyn cyflenwi’r cigydd Pointons ym Mae Colwyn. Mae’r rhan fwyaf o heffrod yn cael eu cadw neu eu gwerthu fel anifeiliaid addas i fagu.  Mae unrhyw heffrod anaddas i fagu yn cael eu gwerthu’n dew trwy farchnad da byw Llanrwst ble fydd cigyddion eraill o’r ardal fel arfer yn eu prynu.

“Mae Llechwedd Hafod wedi gallu cymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol dros y blynyddoedd, ac mae’r teulu yn gweld ffermio a chadwraeth yn mynd law yn llaw.  Bu’r fferm yn rhan o Gynllun Tir Gofal hyd nes ymuno â’r Cynllun Glastir ers Ionawr 1, 2014,” dywedodd Mr Watkin.

“Bu’r fferm yn ffodus o gael ei dewis i fynd i Gynllun Glastir Uwch a bydd y cytundeb hwnnw yn cychwyn ar Ionawr 1 2015.   Mae’r teulu wedi cymryd mantais ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill hefyd trwy Barc Cenedlaethol Eryri, ac wedi llwyddo i ddenu grantiau i ail godi sawl metr o waliau cerrig a therfynau crawiau,” ychwanegodd Mr Watkin.

Mae Dafydd yn aelod o Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y C?n Defaid Cymreig traddodiadol ac ef yw Cadeirydd presennol y Gymdeithas.

Mae Dafydd yn cyfrannu yn helaeth i weithgarwch y gymuned leol. Cynhelir y Treialon C?n Defaid lleol blynyddol ar y tir.  Mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned leol ers sawl blwyddyn bellach ac ef yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Golygyddol Papur Bro Yr Odyn.

 

[caption id="attachment_3103" align="aligncenter" width="1024"]FWAG Cymru’s  Emyr Wyn Davies pointing out various features entered into the Glastir Scheme FWAG Cymru’s Emyr Wyn Davies pointing out various features entered into the Glastir Scheme[/caption]

[caption id="attachment_3102" align="aligncenter" width="1024"]Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) Industry Information Executive John Richards giving an update on the current prices for lamb and beef. Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) Industry Information Executive John Richards giving an update on the current prices for lamb and beef.[/caption]

[caption id="attachment_3101" align="aligncenter" width="1024"]FUW Caernarfonshire chairman Dafydd Gwyndaf welcoming visitors to Llechwedd Hafod. FUW Caernarfonshire chairman Dafydd Gwyndaf welcoming visitors to Llechwedd Hafod.[/caption]