BYDD Undeb Amaethwyr Cymru yn hyrwyddo bwyd a ffermio Cymreig yn ystod ei phresenoldeb fwyaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd flynyddol wythnos nesaf (Mai 31-Mehefin 5).
Mae'r lleoliad eleni - eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, ger Aberaeron - yn enghraifft brin o ystâd fferm hunangynhaliol o'r 18fed ganrif sydd wedi goroesi heb orfod cael ei newid llawer.
Mewn partneriaeth unigryw gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lleolir uned arddangos symudol newydd UAC ar y fferm sydd â ystod drawiadol o dai allan atmosfferig. Mae'n fferm organig weithiol ac yn cadw gwartheg duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig prin.
Mae gan yr Undeb ei stondin arferol ar y maes, lle mae croeso i aelodau ddod i fwynhau cwpanaid o de a phicen fach tra bydd Ffedarasiwn y CFFI, Ceredigion yn cynnal digwyddiadau amrywiol yno trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys, gosod sialens i Tim John, Cadeirydd CFFI Cymru ar y diwrnod cyntaf i wacsio'i goesau er mwyn codi arian i Sefydliad Aren Cymru.
Mae cwis llwybr fferm wedi cael ei ffurfio, a gellid dod o hyd i'r atebion i gyd yn ystod taith hamddenol o stondin UAC ar y Maes i'r uned symudol sy'n mwynd trwy'r gerddi a'r mur o'i cwmpas a buarth y fferm.
Basged o fwyd yn llawn bwyd a diod lleol fydd y brif wobr ar gyfer y cwis gyda thaleb ar gyfer cig Llanerchaeron a chadw mi gei yn wobrau ar gyfer enillwyr lwcus y gystadleuaeth i ddyfalu pwysau'r tri mochyn bach.
Bydd y gweithgareddau yn ymyl yr uned symudol yn dechrau dydd Mawrth gydag arddangosfa ar gadw gwenyn gan gyn Swyddog Gweithredol Sir Ceredigion, Lewis Griffith a fydd yn ail ddangos yr arddangosfa dydd Iau.
Hefyd dydd Mawrth bydd cymeriadau poblogaidd o'r rhaglen a leolir yng Ngheredigion ar gyfer plant, Pentre Bach ar gael i lofnodi a thynnu lluniau ar stondin UAC rhwng 11.00yb a hanner dydd.
Bydd arddangosfeydd diddorol o waith dau grefftwr gwledig o Dalgarreg yn cael eu cynnal ar yr uned symudol dydd Mercher a dydd Iau. Mi fydd Grug Jones yn dangos ei gerfluniau helyg celfydd, a Lloyd Jones, ffermwr sydd wedi ymddeol, yn dangos ei gasgliad diddorol o glymau rhaff.
Yn y cyfamser, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ac anerchiadau ar y fferm trwy gydol yr wythnos a fydd yn cynnwys arddangosfeydd cyson o gneifio'r defaid Llanwenog lleol, yn ogystal â arddangosfa o wahanol fridiau dofednod.
Bydd cyfle hefyd i weld arddangosfa unigryw Geler Jones o beiriannau fferm, certi a gweithiau llaw gwledig mewn sied bwrpasol ger uned symudol UAC.
"Mae UAC yn hynod o falch i gael gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i roi cyfle i ymwelwyr yr eisteddfod weld sut mae fferm weithiol yn cynhyrchu digon o fwyd i wneud ystâd yn hunangynhaliol," meddai Owen Jenkins, Swyddog Gweithredol Sir Ceredigion.
"Rydym yn mawr obeithio y bydd yr ymwelwyr ifanc a'r rhai hín yn cofio beth mae'r ddau sefydliad yn ceisio'i wneud - addysgu'r cyhoedd i werthfawrogi mae diogelwch bwyd yw un o brif faterion byd-eang heddiw.