Mae Undeb Amaethwyr Cymru unwaith eto wedi cydnabod newyddiadurwr rhagorol gyda gwobr goffa Bob Davies.
Drwy’r wobr mae UAC yn cydnabod y rôl hanfodol y mae’r cyfryngau yn ei chwarae wrth amlygu materion ffermio a materion gwledig, a dod â chefn gwlad yn nes at y rhai nad ydynt efallai’n ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant.
Bu Bob Davies, oedd yn byw yn Y Trallwng, Powys, yn gweithio i'r cylchgrawn cenedlaethol Farmers' Weekly am 44 mlynedd. Trafododd amrywiaeth o faterion a effeithiodd ar fywyd gwledig yn ystod ei yrfa, gan gynnwys clwy'r traed a'r genau a BSE.
Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Mae gan y cyfryngau rôl hynod o bwysig i’w chwarae o ran amlygu pam bod ffermio’n bwysig.
“Heno rydyn ni’n diolch i Ohebydd Amgylchedd y BBC, Steffan Messenger, am ei waith rhagorol. Nid yn unig y mae wedi ein helpu i dynnu sylw at yr effeithiau torcalonnus a’r dinistr llwyr y mae ymosodiadau ar dda byw yn eu cael ar ein ffermwyr, ond mae wedi mynd i’r afael â llawer o’r materion sy’n peri pryder inni megis effeithiau Brexit, ffermydd cyngor sir, a materion NVZ. Mae wedi gwneud hynny mewn ffordd sympathetig ac wedi cofnodi’r newidiadau, y datblygiadau a’r anfanteision yn ein diwydiant gyda chywirdeb ac empathi.”