Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn edrych ymlaen at wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ac mae yna raglen lawn o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer ymwelwyr i’r Eisteddfod.
Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol UAC dros Sir Gaernarfon, Gwynedd Watkin: “Heb amheuaeth, uchafbwynt yr wythnos fydd cael cyflwyno’r Goron ar ran UAC. Mae’n Goron hardd iawn, wedi ei dylunio a’i gwneud gan Elin Mair Roberts, gemydd ifanc sy’n masnachu o dan y teitl Janglerins o Y Ffor, nepell o faes yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd Mr Watkin y bydd yna sesiynau difyr yn cael eu cynnal ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar y ddau ddydd Sadwrn am 1.30yp. Bydd y sesiwn gyntaf ar 5 Awst yn trafod sut y gellir defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth wyddonol er budd y diwydiant amaeth, tra ar 12 Awst byddwn yn trafod cyfraniad y diwydiant amaeth i’r trethdalwr yng nghwmni’r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, Jane Dodds AS, Mabon ap Gwynfor AS, Glyn Roberts, Dr Prysor Williams, Iwan Parry a Dr Nick Fenwick.
Gall y rhai sy'n ymweld â stondin UAC edrych ymlaen at arddangosfeydd coginio dyddiol yng nghwmni'r cogydd Mel Thomas o Abererch, a bydd digon o hwyl gydag ambell i seren leol a chenedlaethol fel Dewi Pws, Bethan Gwanas, Alun Elidir, John ac Alun, Dafydd Jones Llanfihangel, Dic Penfras Hughes, a’r Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd.
“Bydd yna groeso cynnes i bawb sy’n ymweld â’r stondin, yn ogystal â chyfle i flasu ysgytlaeth gan ‘Y Sied Laeth’ sy’n aelodau lleol o UAC o fferm Bryn Hynog, Llannor. Bydd cyfle hefyd am sgwrs dros baned a chacen drwy gydol yr wythnos.
“Diolch yn fawr i bawb sydd yn garedig iawn wedi cynnig nawdd i’r stondin gan gynnwys Hybu Cig Cymru, Y Sied Laeth, Hufenfa De Arfon, Popty Lleuar, Cwt Wyau Rhoshirwaun, Becws Islyn a nifer o aelodau eraill a fydd yn cyflenwi cacennau i ni drwy'r wythnos,” ychwanegodd Gwynedd Watkin.